'Dwi mor falch o fod yn Gymraes' – seren The Traitors
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod cynnwys pennod chwech The Traitors, Cyfres 4

Cafodd Fiona Hughes o Abertawe ei 'halltudio' o gyfres The Traitors ym mhennod nos Wener
Dywedodd Fiona Hughes o Abertawe, a gafodd ei 'halltudio' fel cystadleuydd o'r gyfres deledu boblogaidd The Traitors nos Wener, ei bod yn falch o'r ffordd y gadawodd y gystadleuaeth.
Wrth siarad ar raglen Lucy Owen ar BBC Radio Wales, dywedodd Fiona fod bod yn rhan o'r gyfres wedi bod yn brofiad "hollol ryfeddol", gan ychwanegu ei bod yn falch o gynrychioli Cymru a'i thref enedigol, Abertawe ac yn 'falch o fod yn Gymraes'.
"Roedd cymaint o gymeriadau cryf ar y sioe," meddai. "Yn y diwedd, dwi'n meddwl mod i wedi bod yn feistr ar fy nghwymp fy hun – ond byddai'n well gen i hynny na bod yn pawn rhywun arall.
"Os oedd rhaid i fi fynd, ro'n i eisiau mynd ar fy nhelerau fy hun. Roedd yn brofiad gwych – fe ges i ball!"
'Fel plentyn ar fore 'Dolig'
Fiona oedd hefyd cystadleuydd cyntaf y gyfres erioed i gael ei dewis i fod yn 'secret traitor', gan ddisgrifio'r foment y cafodd y gôt goch gan y cyflwynydd, Claudia Winkleman fel un cyffrous iawn.
"Roedd pob nerf yn fy nghorff i'n tinglo. Roedd hi fel bod yn blentyn, yn deffro fore Nadolig, a phopeth ar eich rhestr chi yno – roedd hi'n wych."
Ond cyfaddefodd fod mynd i'r 'turret' gyda'r 'bradwyr' - neu 'traitors' - eraill yn heriol.
"Roeddwn i'n gwybod yn syth fod Rachel a fi'n ddwy gymeriad cryf iawn, ac ar ryw bwynt byddai un ohonom ni'n gorfod mynd," meddai.
'Mae gan bopeth ei amser'
Cafodd Fiona lawer o sylw ar ôl gwrthdaro dramatig wrth y 'bwrdd crwn', pan gyhuddodd hi 'fradwr' arall yn y gystadleuaeth, Rachel o "ffibio".
Er hynny, dywedodd Fiona nad oedd ganddi unrhyw edifeirwch.
"Dim o gwbl," meddai. "Ro'n i'n siŵr y byddwn i'n mynd beth bynnag, felly o leiaf fe wnes i chwarae'r gêm yn fy ffordd fy hun.
"Fe 'nes i jyst 'neud 'Fiona' - a dyw e ddim yn anarferol i fi wneud pethau sili weithiau!
"Mae amser i bopeth ac mae gan bopeth ei amser, a dyna oedd fy amser i fynd."
Yn y bleidlais derfynol, penderfynodd Fiona beidio â phleidleisio yn erbyn Rachel.
"Do'n i jyst ddim yn gallu rhoi ei henw hi lawr," meddai. "Roedd hi wedi ennill hynny'n deg."
'Yn falch iawn o fod yn Gymraes'
Dywedodd Fiona fod ymddangos ar y rhaglen wedi bod yn gyfle arbennig i gynrychioli Cymru.
"Roedd cael y cyfle i fynd ar The Traitors a chynrychioli Cymru a dinas Abertawe yn rhyfeddol," meddai. "Dwi mor falch o fod yn Gymraes – mae 'na gynhesrwydd, hwyl a charedigrwydd gennym ni fel cenedl."
Cyn ymddangos ar y rhaglen, roedd Fiona'n gweithio fel nyrs seiciatrig, yn rhedeg elusen i ddioddefwyr trosedd, ac erbyn hyn mae'n gydlynydd ardal gyda Chyngor Abertawe – rôl y mae'n dweud ei bod yn ei charu'n fawr.

Dywedodd Fiona ei bod yn falch o gynrychioli Cymru ac Abertawe ar y gyfres deledu boblogaidd
Er ei bod bellach allan o'r gystadleuaeth, dywedodd ei bod yn mwynhau gwylio'r gyfres gyda gweddill y cyhoedd.
"Does gen i ddim syniad pwy sy'n mynd i ennill," meddai. "Nawr dwi yn yr un cwch â phawb arall."
Dywedodd hefyd ei bod yn gobeithio gweld "y Celtiaid" yn llwyddo, gan ddweud y byddai'n "hollol hudolus" pe bai'r 'bradwyr' o Iwerddon a'r Alban yn mynd yr holl ffordd.
Ychwanegodd, fodd bynnag, ei bod yn credu y gallai Matt, Jack a Faraaz fod ymhlith y rhai fydd yn cyrraedd y diwedd.
Er bod y rhaglen wedi dod â mwy o sylw iddi, dywedodd Fiona fod pobl yng Nghymru'n ymateb mewn ffordd hamddenol iawn.
"Yng Nghymru, mae pobl yn gofyn, 'ga i selfie?' ac yna'n symud ymlaen. Dy' ni ddim y math o genedl sy'n cael ein dylanwadu gan hynny i gyd.
"Mae'n dipyn o hwyl a dwi'n ymddeol ddiwedd y mis yma, felly fe fydd gen i fwy o amser i 'arogli'r rhosod'."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2025
