Cynlluniau addysg Gymraeg Caerdydd yn 'gawdel'

Mae gan Geraint Rees ddegwadau o brofiad fel pennaeth ysgol a swyddog addysg
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghorydd addysg blaenllaw wedi disgrifio cynlluniau Cyngor Caerdydd i drafod twf addysg Gymraeg fel "cawdel" fydd yn gwneud i bobl "gwestiynu a ydyn nhw o ddifri' ynglŷn â datrys problemau".
Mae Geraint Rees yn feirniadol iawn o fethiant y cyngor i gynllunio ar gyfer Medi 2027 pan na fydd digon o le yn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg y sir ar gyfer plant sy'n symud o ysgolion cynradd.
Mae Cyngor Caerdydd yn dadlau fod yna amser i roi trefniadau yn eu lle.
Ddydd Iau mae disgwyl i gabinet Cyngor Sir Caerdydd roi sêl bendith i "Ymarfer Ymgysylltu" fydd yn trafod sut i ymateb i'r angen am fwy o lefydd yn 2027.
Bydd y drafodaeth hefyd yn ystyried dewisiadau ar gyfer addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y brifddinas gan gynnwys ad-drefnu dalgylchoedd.

Mae angen gweithredu i sicrhau lle i blant fydd yn dechrau yng Nglantaf ym Medi 2027
Mae'r cyngor wedi bod dan bwysau gan ymgyrch yn ne Caerdydd i leoli ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yno, a thra bydd hynny'n rhan o'r drafodaeth mae'r cyngor yn pwysleisio y bydd dod o hyd i safle addas ac ariannu datblygiad o'r fath yn heriol.
Mae'r cyngor hefyd yn dadlau mai gostwng fydd niferoedd y plant maes o law.
Mae Geraint Rees, fu'n cynghori Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd ac sydd ei hun yn gyn-bennaeth yn y sector uwchradd, yn ychwanegu mai "mater gwleidyddol" oedd buddsoddi mewn safleodd newydd ar gyfer ysgolion Saesneg pan oedd angen ymateb i anghenion addysg Gymraeg.
Saith ysgol Saesneg newydd
Dros y 15 mlynedd ddiwethaf mae bron i hanner biliwn o bunnoedd wedi ei wario ar ysgolion yn y brifddinas.
Mae pum ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg newydd wedi eu hadeiladu eisoes ac mae dwy arall ar y ffordd.
Yr ysgolion uwchradd newydd cyfrwng Saesneg yw:
Eastern High School
Cardiff West Community High
Fitzalan High School
Cantonian High School (Ionawr 2026)
Ysgol Uwchradd Willows (Agor Medi 2026)
Ysgol Uwchradd Cathays

Ysgol newydd Cantonian sydd newydd agor
Mae'r cyngor yn ystyried creu 60 o lefydd dros dro yn ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg Caerdydd ar gyfer mis Medi 2027, ond mae Geraint Rees yn poeni y gallai rheiny droi'n llefydd parhaol. Mae'n dweud na fyddai hynny'n deg.
"Mae'r twf wedi bod yn yr arfaeth ers amser ac roedd ishe datrysiadau," dywedodd.
"Tra bod arian cyfalaf mawr wedi cael ei wario mewn mannau eraill yn y ddinas dyw hwn ddim wedi cael ei ateb ac mae hwn yn gofyn cwestiwn - ble maen nhw wedi bod? A mater gwleidyddol yw hynny.
"Mae'r tair ysgol uwchradd Gymraeg ar safleoedd oedd wedi chwythu eu plwc hanner canrif yn ôl... a does dim buddsoddiad wedi bod tra bod yna safleodd gwbl wych wedi cael eu hadeiladu i'r sector Saesneg.
"Mae'r sir wedi bod yn brysur ond dy'n nhw ddim wedi bod yn brysur o ran addysg Gymraeg."
'Syniadau gwirion, diystyr'
Mae ymgyrchwyr dros bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yn y brifddinas yn bryderus.
"Mae 'na broblem o ran gosod cynsail y bydd rhai plant yn cwympo mas o'r system Gymraeg yn gyfangwbl ac yn dechre mynd i ysgolion uwchradd Saesneg oherwydd diffyg darpariaeth a diffyg cynllunio," meddai Carl Morris o'r ymgyrch.
Mae ymgyrchwyr hefyd yn poeni y byddai un opsiwn, sef symud a chynyddu maint Ysgol Bro Edern yn y dwyrain, yn tanseilio ymdrechion i gael pedwaredd ysgol yn ne'r Sir.

Mae Carl Morris yn rhan o'r ymgyrch i gael pedwaredd ysgol uwchradd yn ne Caerdydd
"'Dan ni'n cwestiynu pam fod y cyngor wedi gwastraffu amser pawb drwy gyhoeddi rhai syniadau gwirion, diystyr yn ogystal â'r unig ddatrysiad sy'n mynd i roi'r Gymraeg i bawb yn yr ardal yma," ychwanegodd Carl Morris.
"Mae'r ffaith fod y cyngor yn buddsoddi mewn adeiladau i ysgolion yn wych.
"Mae'n profi bod yr arian ar gael drwy ffynonellau gwahanol, felly pam nad yw e ar gael i'r Gymraeg ac erioed wedi bod ar gael i'r Gymraeg?"
Mae'r cyngor yn nodi yn ei adroddiad y byddai'r opsiwn hwn yn sefydlu ysgol a fyddai'n gwasanaethu de Caerdydd ac yn datrys problemau adeilad Ysgol Bro Edern.
Ond mae'n cydnabod y byddai yna broblem dod o hyd i safle ac y byddai'n golygu symud addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ymhellach o ogledd-ddwyrain y brifddinas.
Doedd llywodraethwyr Ysgol Bro Edern ddim am wneud sylw.
'Ysgolion Saesneg mewn cyflwr gwaeth'
Mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, yn dweud fod ysgolion Saesneg wedi cael blaenoriaeth am eu bod nhw mewn cyflwr gwaeth na'r ysgolion Cymraeg.
"Digwydd bod roedd nifer fawr o ysgolion Saesneg ar ddiwedd eu hoes," dywedodd.
"Ni 'di bod yn addysgu rhai o'r disgyblion rheiny yma yn Neuadd y Sir oherwydd bod problemau gyda'u hysgolion nhw."
Mae'n dweud eu bod nhw'n gweithio o fewn amserlen arferol ar gyfer sicrhau mwy o lefydd ac yn pwysleisio mai dros dro yn unig y bydd eu hangen nhw.
"Beth ni eisiau yn y pen draw yw ei gwneud hi'n haws i fynychu Ysgol Gymraeg, cynradd ac uwchradd," ychwanegodd, "ac felly mae hyn yn gam pwysig o ran gwyntyllu'r gwahanol opsiynau i gyrraedd y nod."
Mae Geraint Rees yn dadlau y dylai'r cyngor fod wedi delio gyda materion yn ôl blaenoriaeth yn hytrach na mynd ati i wyntyllu cymaint o bosibiliadau.
"Roedd ishe blaenoriaethu'r anawsterau oedd yn eu wynebu nhw a datrys rheiny'n systematig," meddai.
"Dyw e ddim yn llesol. Yn y diwedd bydd pobl yn gofyn a ydyn nhw o ddifri' am ddatrys y problemau yma achos mae e'n gawdel."
'Addysg hwylus ar garreg y drws'
Fore Iau ar Dros Frecwast, dywedodd Heini Gruffudd, cadeirydd mudiad Dyfodol i'r Iaith, fod gweld y cynlluniau gan y cyngor yn ei atgoffa o sefyllfa'r gorffennol.
"Mae'r holl gynllunie sy' gyda nhw nawr yn mynd â fi 'nôl i shwt o'dd pethe yng ngorllewin Morgannwg ac Abertawe 50 mlynedd yn ôl, pan oedd y cyfarwyddwr addysg yn cynnig pob math o bethe."
Yn ôl Mr Gruffudd ymysg y cynigion hyn oedd "rhoi addysg Gymraeg mewn ffrydiau mewn ysgolion Saesneg a gwrthwynebiad llwyr i godi ysgolion Cymraeg newydd".
Dywedodd mai'r rhieni Cymraeg wnaeth "ennill y dydd yn y pendraw", ar ôl ymgyrchu.
Ychwanegodd: "Dyna sydd eisiau yng Nghaerdydd yn bendant - ysgol newydd, fel bod addysg Gymraeg ar gael ac yn cael ei gweld fel addysg hwylus ar garreg y drws."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd13 Mai 2024
