Dyn sy'n 'caru ffarmio' yn benderfynol o barhau ar ôl colli coes

Mae Alun Thomas yn edrych 'mlaen at ddychwelyd i ffermio ar ôl cael coes brosthetig arbennig
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr o ardal Bangor, sydd wedi colli ei goes ar ôl damwain, yn dweud ei fod yn benderfynol o barhau i ffermio ar ôl cael coes brosthetig arbennig.
Fe newidiodd bywyd Alun Thomas, o Fferm Ty'n Hendre yn Nhalybont, ym mis Gorffennaf 2023, pan ddisgynodd oddi ar ei feic cwad tra'n ceisio symud gwartheg ar gyfer profion TB.
Ers dros ddwy flynedd a hanner bu'n ceisio gwella o'i anafiadau ond ym mis Rhagfyr y llynedd, bu'n rhaid gwneud y penderfyniad anodd a gadael i feddygon dorri ei goes i ffwrdd - rhywbeth oedd wedi bod yng nghefn ei feddwl o'r cychwyn.
"Mi 'nathon nhw drio efo fi - dwi'm yn gweld bai ar neb. Ond o'dd y poen o'dd gynna i - tasa gen i hacksaw fy hun faswn i wedi'i thorri hi," meddai.
"Does na'm poen rŵan. Yr unig beth dwi'n cael weithiau ydy'r phantom pains 'ma. 'Nathon nhw'n rybuddio fi am hynny, fy modia' traed i'n cosi!"

Er yr ergyd ddiweddara', mae Alun yn parhau'n bositif ac eisiau dychwelyd at ei anifeiliad cyn gynted a phosib.
"Y peth gora' fedri di 'neud efo r'wbath fel hyn, a ryw salwch, ydy chwerthin - hwnnw ydy'r ffisig gorau.
"Dwi'n caru ffarmio. Os ydy dy galon di yn be' ti'n mwynhau gwneud, wel, go for it a peidio stopio."
Y bwriad ydy cael coes brosthetig arbennig, fydd yn addas i'w defnyddio ar y fferm.
"Mae'r un ordinary ma' pawb yn ei gael, ond ma' hon yn all terrain, yn waterproof - ma' hi'n hollol wahanol.
"Mae hi 'di cael ei splitio fel bod chdi'n cael balancio ar rough terrain, ac o 'dani mae 'na fflap - ti'n pwyso'r sawdl i lawr a mae'n mynd a chdi 'mlaen. Mae 'na spring bach fel yn g'neud y locomotion."

Alun Thomas ar ei fferm yn Nhalybont cyn ei ddamwain ym mis Gorffennaf 2023
Er mwyn gallu dychwelyd i ffermio, bydd angen cryn addasu.
"Y peiriannau fydd y peth mwya' fydd angen newid - y tractor, y loadall s'gen i, a'r car Land Rover. Ond mae 'na firms allan yn fanna sy'n g'neud hand brakes, hand throttles a phetha' felly."
Mae ei deulu wedi sefydlu tudalen casglu arian i helpu i dalu am addasu'r fferm, fel y sonia gwraig Alun, Anita Thomas.
"Ysbyty Stoke dd'aru ddod â'r peth fyny a d'eud bod posib cael g'neud y dudalen 'ma a ddaru Ceri, y ferch, 'neud.
"Mae o 'di dychryn y ddau ohonan ni - pawb 'di bod mor garedig. Ond mi fydd o'n help i gael ail-wneud y peiriannau a hyn a'r llall.
"Fel fydd Alun yn mynd yn ôl allan a dechra' g'neud petha' - adeg hynny 'dan ni'n mynd i weld be' fydd angen ei 'neud yn wahanol."

Alun gyda'i wraig Anita
Er y gefnogaeth gymunedol, dydy Alun ddim yn teimlo bod digon o gymorth i ffermwyr sydd mewn sefyllfa debyg.
"Nag oes, dwi'n meddwl na does 'na ddim," meddai, "ond dydy o ddim yn beth cyffredin 'chwaith, nac ydy.
"Dwi 'di cael help hogia' lleol ond, fel arall, yn holi hwn a'r llall i gael help, ma' pob drws yn cau am 'mod i dros 65.
"Ma' isho meddwl bod 65 yn rhy ifanc rŵan, ma' isho newid o i 75.
"Dwi'n dibynnu ar bobl eraill, dydw. Ma'r independence 'di mynd tan ga' i'r goes 'ma gobeithio."
Ag yntau'n troi'n 70 eleni, mae Alun yn edrych yn obeithiol tua'r dyfodol.
"Ma' 70 yn ifanc heddiw, dydy. Os ydy'r iechyd yn iawn, go for it.
"Gawn ni dipyn o barti pen-blwydd dwi'n meddwl - ma' gen i lot o waith diolch i bobl!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.