'Nai nefar gael mwy o blant,' wedi salwch beichiogrwydd difrifol

Non Rowlands gyda'i merch dair oed AlelaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Non o Flaenau Ffestiniog ac Alela sy'n dair oed

  • Cyhoeddwyd

Mae menywod, meddygon a gwleidyddion yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyffur sy'n trin salwch beichiogrwydd difrifol ar gael yn gyson i fenywod.

Mae un fam wedi dweud ei bod yn ystyried llawdriniaeth i'w gwneud yn anffrwythlon ar ôl iddi fethu â gofalu am ei hun a'i theulu, yn sgil effeithiau hyperemesis gravidarum (HG).

Dywedodd mam arall, Non Rowlands o Flaenau Ffestiniog, ei bod ar adegau wedi teimlo ei bod hi'n anodd iddi hi gario ymlaen i fyw o ddydd i ddydd wedi salwch eithafol yn ystod ei beichiogrwydd.

Dylai cleifion HG, sy'n achosi symptomau difrifol yn cynnwys chwydu a cholli pwysau, gael cynnig Xonvea yn gyson yng Nghymru, yn ôl y Coleg Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod meddygon teulu yn gallu rhoi Xonvea, ond fod cyngor annibynol ddim wedi ei argymell ar gyfer defnydd arferol oherwydd diffyg data am ba mor gost-effeithiol ydy'r driniaeth.

'Methu gweld y goleuni'

Yn 2022 mi gafodd Non Rowlands o Flaenau Ffestiniog salwch chwydu eithafol HG a pre-eclampsia tra'n feichiog efo'i merch Alela.

Roedd Non yn chwydu tua 20 gwaith y dydd o chwe wythnos gyntaf ei beichiogrwydd nes oedd hi 26 wythnos a methu cadw dŵr yn ei chorff cyn iddi gael diagnosis.

Ar un adeg roedd hi'n teimlo mor isel fel ei bod yn anodd iddi "allu cario mlaen efo bywyd" o ddydd i ddydd.

"Ro'n i'n methu gweld y goleuni ar un pwynt yn ystod y pregnancy," meddai.

Wedi iddi gael Covid hefyd dywedodd: "O'n i'n crio gymaint doedd dim dagrau yn dod allan ac roeddwn i mor dehydrated."

'Mewn twll a methu gweld heibio'

Aeth Non i'r ysbyty a chael drip IV oedd yn cynnwys cyffur i drin y salwch, ac wedi iddi gael cyffur cryfach roedd hi'n teimlo ei bod yn gallu rheoli'r salwch llawer gwell yn ystod y misoedd olaf cyn geni Alela.

"Nai nefar gael mwy o blant ar ôl hyn," dywedodd.

Mi gollodd hi bedwar dant "efo'r holl daflu fyny".

"Ma' naw mis yn amser hir i feddwl pryd wyt ti am wella. O'n i just mewn twll a methu gweld heibio. O'n i'n taflu fyny 20 gwaith y diwrnod - anodd cofio bywyd pan o'n i ddim yn chwydu."

"Mae merched beichiog yn anfon neges ata'i yn meddwl fod y salwch ganddyn nhw ac yn holi am gyngor. Mae'n bwysig siarad er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr."

Yn ôl y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mae hyd at dair o bob 100 o fenywod beichiog yn cael hyperemesis gravidarum, dolen allanol, er mae'n bosib bod y ffigwr yn uwch gan nad ydy pob achos yn cael ei nodi.

Mae'r cyflwr yn achosi chwydu difrifol sy'n arwain at golli pwysau, ac yn aml mae angen triniaeth ysbyty.

Mae'n gallu parhau gydol y beichiogrwydd nes i'r babi gael ei eni.

Mae'r feddyginiaeth Xonvea yn cael ei hargymell fel triniaeth effeithiol gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr, ochr yn ochr â dewisiadau eraill fel cyclizine, prochlorperazine ac ondansetron, sy'n cael eu defnyddio'n rheolaidd ar hyn o bryd gan feddygon.

Mae 20 tabled o Xonvea yn costio £28.50, sy'n sylweddol uwch na'r dewisiadau eraill.

Nid yw'r cyffur ar gael fel arfer yng Nghymru, ond gellir rhoi presgripsiwn os fydd triniaethau eraill wedi methu.

Dangosodd y data diweddaraf fod 223 o bresgripsiynau ar gyfer Xonvea wedi'u rhoi gan 103 o feddygfeydd ym mis Hydref.

Chloe Roberts gyda'i merch chwe mis oed, Daisy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daisy, ail blentyn Chloe, yn chwe mis oed erbyn hyn, ond mae hi'n gwybod na fyddai hi'n gallu wynebu beichiogrwydd arall

Mae Chloe Roberts, sy'n 26 ac o Gasnewydd, wedi penderfynu mai llawdriniaeth i'w gwneud yn anffrwythlon yw'r "opsiwn orau" iddi hi, ar ôl iddi fod yn agos at gael erthyliad oherwydd effeithiau HG.

Dywedodd y fam i ddau na fyddai hi'n gallu wynebu bod yn feichiog eto, oherwydd y cyflwr.

Doedd hi heb glywed am HG tan iddi orfod mynd i'r ysbyty yn ystod ei beichiogrwydd cyntaf.

"Treuliais i'r tri mis cyntaf yn y gwely ar giwbiau iâ, achos doeddwn i ddim yn gallu bwyta nac yfed," meddai.

"Roedd hi'n anodd mynd i'r gawod ac roedd rhaid i fy mhartner fy 'molchi. Doeddwn i ddim yn gallu edrych ar ôl fy hun."

Yn syth ar ôl genedigaeth ei mab, stopiodd y chwydu, a theimlodd yn well.

Ond pan aeth hi'n feichiog gyda'i hail blentyn yn ddamweiniol, dechreuodd yr un problemau.

Mae Chloe a Daisy yn eistedd ar ryg yn eu stafell fyw. Mae Chloe, sy'n gwisgo ffroc glas a gwyn, sbectolau a cardigan du, gyda'i gwallt wedi ei clipio, yn tynnu gwynebau ar Daisy. Mae Daisy yn cnoi ar cwpan plastig gwyrdd ac yn edrych yn astud. ar ei mam. Mae'r ddau yn dal cwpanau plastig. Mae glas ar wailau'r stafell fyw, gyda gwresogydd gwyn, soffa a golau lamp yny. cefndir.
Disgrifiad o’r llun,

Cymryd Xonvea wnaeth alluogi i Chloe allu gofalu am ei hun a'i theulu yn ystod ei beichiogrwydd

Roedd Chloe yn cymryd cyffur gwrth-iselder ar y pryd, a dechreuodd ei hiechyd meddwl ddirywio gan ei bod yn rhy sâl i'w gymryd.

"Roeddwn i 'di cyrraedd y pwynt lle o'n i 'di bwcio erthyliad oherwydd do'n i ddim yn gallu gofalu am fy hun, na fy mab, ac yn llythrennol dywedes i wrth fy mhartner fy mod i'n poeni am fy niogelwch."

Oherwydd pryder bod y beichiogrwydd yn ectopig fe welodd Chloe feddyg gwahanol oedd yn gallu rhoi Xonvea iddi.

Fe wellodd ei sefyllfa, ac yn y pendraw fe wnaeth ganslo'r erthyliad.

"Yn y dechrau roedd Xonvea yn golygu o'n i gallu ailddechrau fy nhabledi gwrth-iselder, wnaeth godi fy ysbryd.

"Wedyn bwyta darn bach o dost. Yna, wrth i amser fynd yn ei flaen ac wrth i fy hormonau setlo, llwyddes i fwyta pryd o fwyd go iawn."

Mae'r profiad wedi arwain at ddechrau'r broses o drefnu llawdriniaeth i'w gwneud yn anffrwythlon, gan fod y posibilrwydd o feichiogi eto yn ormod iddi.

Mae Georgina Forbes gyda gwallt cyrliog du i'w ysgwyddau ac yn gwiso ffroc coch tywyll. Mae hi'n gwenu ac yn eistedd wrth bwrdd cegin gyda silff llyfrau yn y cefndir.
Disgrifiad o’r llun,

Er bod Xonvea'n ddrytach na'r triniaethau eraill, mae'n arbed arian i'r GIG yn ôl Dr Georgina Forbes

Dywedodd Dr Georgina Forbes, meddyg arbenigol mewn iechyd rhywiol ac atgenhedlol, ei bod yn gwybod o'i phrofiad ei hun pa mor ddinistriol y gall HG fod i gleifion.

"Roedd menywod yn gofyn am erthyliadau oedd heb allu cael gafael ar y cyffur, ac erbyn iddyn nhw ddod ata' i roedden nhw wedi cyrraedd pen eu tennyn," meddai.

Mae'r meddyg, sy'n gadeirydd pwyllgor Cymru Coleg Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad ar Xonvea, gan wfftio pryderon am y gost.

"Os ydych chi'n ystyried y gost bob tro mae menyw yn gorfod mynd i'r ysbyty, mae hynny'n mynd i fod yn gannoedd, os nad miloedd o bunnoedd, yn dibynnu ar ba mor hir maen nhw'n aros, faint o fagiau o hylif IV sydd eu hangen arnyn nhw, faint o feddyginiaethau eraill. A dyna'r gost i ofal iechyd yn unig."

'Llai na phris pryd o fwyd'

Cefnogi'r alwad am well fynediad at y cyffur mae'r AS Plaid Cymru Lindsay Whittle.

Fel aelod o bwyllgor deisebau'r Senedd, dywedodd iddo glywed hanesion "torcalonnus" am fyw gyda HG.

"Mae'n llai na phris pryd o fwyd mewn bwyty go gyffredin, a dyw hynny ddim yn arian gwirion, nac ydy?" meddai.

"Ac os mai dyna'r cyfan mae'n ei gostio, yna a dweud y gwir, gadewch i ni fwrw ymlaen â'r hyn rydyn ni i fod yn ei wneud yma yng Nghymru."

Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru bod "meddygon teulu ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru yn rhoi presgripsiynau am Xonvea yn rheolaidd".

Dywedodd llefarydd eu bod yn dibynnu ar gyngor annibynnol y corff iechyd NICE neu Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru cyn penderfynu os ydy meddyginiaethau ar gael yn rheolaidd ar y GIG.

"Heb ganllawiau ffurfiol o NICE, asesiad AWMSG [o 2019] yw'r gwerthusiad ffurfiol mwyaf cyfredol o Xonvea yng Nghymru," ychwanegodd.

"Doedd hynny ddim yn argymell defnydd arferol oherwydd data cost-effeithiolrwydd annigonol."

Dywedodd llefarydd ar ran Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru eu bod wedi "ymgysylltu'n rhagweithiol â gwneuthurwr Xonvea am dros 18 mis ac wrthi'n archwilio'r opsiynau sydd ar gael iddynt".

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.