Cadarnhad bod URC am werthu Caerdydd i berchnogion y Gweilch

"Blaenoriaeth URC yw parhau i gefnogi'r ddau glwb," yn ôl llefarydd
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cadarnhau eu bwriad i werthu Rygbi Caerdydd i berchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media.
Cadarnhaodd URC eu bwriad brynhawn Iau "yn dilyn proses agored a thrylwyr", gan ddweud bod y newyddion yn "sicrhau carreg filltir nodedig yn hanes rygbi Cymru".
Fe wnaeth URC gymryd rheolaeth o Rygbi Caerdydd ar ôl i endid cyfreithiol y clwb gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ym mis Ebrill 2025.
Ers hynny mae URC wedi awgrymu torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri.
Dywedodd URC a'r Gweilch mewn datganiad y bydd y ddau glwb - Caerdydd a'r Gweilch - yn parhau'n sefydliadau ar wahân, er y byddai Y11 yn berchen ar y ddau.
Ond does dim sicrwydd wedi'i roi y bydd y Gweilch yn parhau fel clwb proffesiynol tu hwnt i dymor 2026-27.

Mae URC wedi bod yn rheoli Rygbi Caerdydd ers mis Ebrill 2025
Dywedodd URC y byddai'r "cytundeb amodol" yn sicrhau sefydlogrwydd a dyfodol hirdymor clwb y brifddinas o dan berchnogaeth breifat.
"Gwnaed y penderfyniad hwnnw er mwyn sicrhau'r dyfodol ariannol mwyaf cadarn posibl i Rygbi Caerdydd ac mae'r datblygiad hwn yn golygu y gall y clwb sicrhau buddsoddiadau penodol a hirdymor.
"Ystyriwyd ymrwymiad y bwrdd i Rygbi Caerdydd yn ogystal â brand a hanes y clwb, wrth ddilyn meini prawf y broses o wneud y penderfyniad.
"Unwaith i'r pryniant gael ei gadarnhau, Y11 fydd perchnogion newydd Rygbi Caerdydd a bydd y clwb yn parhau i fod yn annibynnol ac yn chwarae eu gemau yn y brifddinas."
'Cefnogi'r ddau glwb'
Aeth datganiad URC yn ei flaen i ddweud mai eu blaenoriaeth "yw parhau i gefnogi'r ddau glwb, gan rannu gwybodaeth gyfredol a pherthnasol trwy gydol camau nesaf y broses".
"Mae'r undeb wedi cysylltu gyda'r cwmni arall wnaeth gais i brynu Rygbi Caerdydd i egluro'r penderfyniad ac mae URC wedi diolch iddynt am eu diddordeb ac am chwarae eu rhan yn y broses hon."
URC yn trafod gyda pherchnogion y Gweilch am brynu Caerdydd
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
URC yn rhybuddio bod galwad am gyfarfod brys yn 'anghyfrifol'
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
Torri nifer y rhanbarthau er mwyn rhoi 'arian cystadleuol' iddyn nhw
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
Roedd datganiad y Gweilch yn cydnabod "dyddiau o ansicrwydd" i gefnogwyr.
"Yn hollbwysig, dwi eisiau ei gwneud hi'n glir y bydd y Gweilch yn parhau i chwarae yng nghystadlaethau URC ac EPCR tan o leiaf diwedd tymor 26/27," meddai Lance Bradley, prif swyddog gweithredol y Gweilch.
Cadarnhaodd hefyd y bydd Y11 "yn berchen ac yn rhedeg y Gweilch a Chaerdydd, gyda'r ddau ranbarth yn parhau i chwarae fel timau ar wahân".
Ond does dim sicrwydd beth y bydd hyn yn ei olygu i'r ddau ranbarth yn y tymor hir.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.