URC yn rhybuddio bod galwad am gyfarfod brys yn 'anghyfrifol'

URCFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd URC ei fod am weithredu "newidiadau radical" i'r gêm

  • Cyhoeddwyd

Mae Undeb Rygbi Cymru [URC] wedi dweud bod galwadau am gyfarfod brys yn "fyrwelediad" ac wedi rhybuddio clybiau y gallai cam o'r fath achosi oedi niweidiol i ddiwygio.

Mewn datganiad, mae rheolwyr URC wedi disgrifio galwadau am gyfarfod cyffredinol eithriadol gan rai clybiau fel "opsiwn niwclear anghyfrifol" a fyddai'n achosi "difrod sylweddol" i rygbi Cymru.

Mae aelodau rhanbarth Morgannwg Ganol - o fewn rhanbarth y Gweilch - yn annog clybiau i alw am gyfarfod cyffredinol eithriadol lle y byddai tri chynnig.

Mae'r rhanbarth wedi ysgrifennu llythyr yn ceisio cael y 10% o gefnogaeth sydd ei angen gan y 283 o glybiau yng Nghymru i orfodi cyfarfod cyffredinol o'r fath.

Mae llywydd URC, Terry Cobner, y cadeirydd Richard Collier-Keywood a'r prif weithredwr Abi Tierney wedi ysgrifennu at bob clwb sy'n aelodau.

"Mae rygbi Cymru mewn cyfnod hollbwysig," medden nhw mewn datganiad ar y cyd ddydd Gwener.

"Nid dyma'r amser i gamblo â dyfodol rygbi Cymru gyda'r cynigion byr-welediadol a llethol sydd wedi'u cyflwyno.

"Mae gennym ni gynllun. Mae wedi'i siapio gennych chi. Mae wedi'i gyhoeddi. Gadewch i ni ei gyflawni gyda'n gilydd."

Os ydy'r cynnig yn cyrraedd y trothwy gofynnol, rhaid i'r corff llywodraethu alw'r cyfarfod cyffredinol o fewn 21 diwrnod.

Ond, bydd angen o leiaf 93 o'r clybiau i fod yn bresennol ar y diwrnod, i sicrhau bod y cyfarfod yn ddilys.

Mae URC wedi dweud y byddai'r cynigion arfaethedig yn gwrthdroi cynnydd oedd yn rhaid gweithio'n galed amdano, yn atal buddsoddiad hanfodol ac yn peryglu ffyniant rygbi Cymru ar bob lefel.

Honnodd y byddai £28m o fuddsoddiad sydd wedi'i gynllunio i'r gêm yn cael ei ohirio, gan "danseilio llwyddiant hirdymor" ar y cae ac effeithio ar baratoi ar gyfer y Chwe Gwlad.

Mae'n honni y byddai sefydlogrwydd ariannol a masnachol, yn ogystal âg uniondeb llywodraethu, hefyd mewn perygl, gan "lusgo rygbi Cymru yn ôl i strwythurau hen ffasiwn a dychwelyd i wleidyddiaeth fewnol garfannol wanhaol".

Yn lle hynny, mae'r undeb wedi annog clybiau i godi materion gydag aelodau etholedig cyngor URC neu'r bwrdd.

'Anrhefn a dryswch'

Roedd yr alwad gan Forgannwg Ganol yn arwydd o'r anfodlonrwydd cynyddol o fewn y gêm yng Nghymru.

Cyhoeddodd URC ym mis Hydref y byddai un o bedwar tîm proffesiynol y wlad yn cael ei ddiswyddo.

Ond, mae'n parhau i fod yn aneglur sut y bydd hynny'n digwydd.

Mae cynigion y clybiau sy'n anghytuno yn cynnwys pleidlais o ddiffyg hyder yn Collier-Keywood a chadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, Malcolm Wall, etholiadau newydd ar gyfer bwrdd URC a newidiadau i'r broses etholiadol ar gyfer y cyngor.

"Rydyn ni'n gweld y crwydro rhwng gwahanol fersiynau o gynllun, gan achosi anhrefn a dryswch," medden nhw.

"Mae hyn yn achosi niwed i enw da rygbi Cymru ledled y byd, pan oedden ni ar un adeg mor uchel ein parch."

Daw'r galwadau ychydig wythnosau ar ôl cyfarfod cyffredinol blynyddol 2025 ddiwedd mis Tachwedd - ddiwrnod ar ôl i Gymru golli gêm gyda sgôr o 73-0 yn erbyn De Affrica - heb fawr o wrthwynebiad.

Pleidleisiodd clybiau dros newidiadau mawr i fwrdd y corff llywodraethu ym mis Mawrth 2023.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.