Gwobr Llyfr y Flwyddyn i ddychwelyd i Gaernarfon

Bydd y gwobrau yn cael eu cynnal yn Y Galeri
- Cyhoeddwyd
Un o uchwafbwyntiau mwyaf y byd llenyddol yng Nghymru pob blwyddyn yw gwobr Llyfr y Flwyddyn.
Mae'n gyfle i ddathlu talentau llenorion Cymreig sy'n rhagori mewn amryw o ffurfiau llenyddol yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Eleni bydd y gwobrau yn dychwelyd i dref Caernarfon ac yn cael eu cynnal yn Y Galeri ym mis Gorffennaf.
Daeth cyhoeddiad hefyd gan Gyfarwyddwr Artistic Llenyddiaeth Cymru, Leusa Llewelyn am y beirniaid eleni, a hynny ar raglen Y Clwb Darllen ar BBC Radio Cymru.

Beirniaid y Panel Cymraeg fydd y Prifardd Ifor ap Glyn (Barddoniaeth). Mae hefyd yn awdur a darlledwr, ac ef oedd Bardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2016-22.
Mae Gwenno Ffrancon (Ffuglen) yn athro, dirprwy is-ganghellor cynorthwyol y Gymraeg, Prifysgol Abertawe ac yn gyfarwyddwr Academi Hywel Dda.
Sioned Puw Rowlands (Ffeithiol-Greadigol) y golygydd a chyhoeddwr O'r Pedwar Gwynt.
Dafydd Lennon (Plant a Phobl Ifanc) sy'n gyflwynydd teledu ar Cyw, ymarferydd drama sydd hefyd yn ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc.
O ran y panel Saesneg, y sawl fydd yn beirniadu fydd Zoë Skoulding (Barddoniaeth), Catrin Kean (Ffuglen), Shirish Kulkarni (Ffeithiol-Greadigol) a Julie Golden (Plant a phobl ifanc).
Rhan o Gŵyl Arall
Yn ogystal â chyhoeddi'r beirniaid daeth cadarnhad hefyd mai Seremoni Llyfr y Flwyddyn eleni fydd yn agor Gŵyl Arall yng Nghaernarfon.
Bydd y seremoni yn digwydd yn Y Galeri yn y dref ac roedd Leusa Llewelyn yn falch o'r cyd-weithio rhwng Llenyddiaeth Cymru a threfnwyr Gŵyl Arall.
"Fe gafon ni wobre hyfryd iawn yn Y Galeri ddwy flynedd yn ôl a lot fawr o ddathlu ac mae pobl yn dal i siarad am y noson honno.
"'Dan ni mor lwcus yn cael cydweithio efo Gŵyl Arall yn aml iawn. Maen nhw'n hael yn rhoi llwyfan i ddigwyddiadau sy'n ymwneud efo'r Llyfr y Flwyddyn yn flynyddol.
"Mae hi'n ŵyl llawr gwlad go iawn sydd yn dod ag enwau mawr i dref fach fywiog fel Caernarfon felly da ni'n sicr yn edrych mlaen i gael cydweithio efo nhw i roi llwyfan i'n hawduron ni," meddai Leusa.
Bydd y rhestr byrion yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai a bydd y seremoni yn digwydd ar Nos Iau 9 Gorffennaf yng Nghaernarfon.
Hefyd o ddiddordeb:
Dewch i adnabod enillwyr Llyfr y Flwyddyn 2025
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2025
Naw o lyfrau i'w darllen dros yr haf
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.