Gwaith diogelu yn achos 20% o adeiladau tal Cymru yn unig ers Grenfell

Mae rhai trigolion Victoria Wharf yng Nghaerdydd yn croesawu'r deddf newydd, ond yn siomedig na fydd hawliau i herio datblygwyr trwy dribiwnlys tan y flwyddyn nesaf
- Cyhoeddwyd
Bron i naw mlynedd ar ôl tân Tŵr Grenfell, dim ond yn achos 20% o adeiladau tal yng Nghymru y mae gwaith wedi'i gwblhau i'w gwneud yn fwy diogel.
Mae disgwyl i fesur newydd sydd wedi ei gynllunio i wella diogelwch adeiladau gael ei gymeradwyo gan y Senedd yn fuan.
Ond mae rhai trigolion yn grac, gan na fydd rhai rhannau ohono'n cael eu cyflwyno tan y flwyddyn nesaf.
Dywed gweinidogion fod yr oedi yn angenrheidiol i ganiatáu i'r Senedd gymeradwyo rheoliadau newydd.
Y ffigyrau diweddaraf
Lladdodd y tân erchyll yn Nhŵr Grenfell ym mis Mehefin 2017 72 o bobl, ac fe helpodd cladin ar du allan yr adeilad y tân i ledaenu.
Cytunodd pawb fod angen gwella diogelwch tân mewn blociau tŵr, ac mae disgwyl i'r Senedd basio cyfraith newydd yn yr wythnosau nesaf a fyddai'n rhoi hawliau newydd i drigolion.
Ond mae'r gwaith oi drwsio blociau fflatiau ledled Cymru ymhell o fod wedi'i orffen.
Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos:
O blith y 473 o adeiladau tal yng Nghymru, fod 48% yn aros am arolygon neu i'r gwaith ddechrau.
Roedd gwaith wedi dechrau mewn 27% o'r adeiladau.
Roedd 5% yn adeiladau lle nad yw'n glir a oes angen gwaith, ond dim ond 20% sydd wedi cael y gwaith wedi'i gwblhau neu nad oedd angen gwneud unrhyw waith.
Dywed llefarydd tai Plaid Cymru, Sian Gwenllian AS nad yw hynny'n ddigon da.
"Dylai'r gwaith adfer fod wedi bod ar ei ffordd rŵan, ond mae'r datblygwyr wedi bod yn araf iawn, iawn, a hyd yn hyn mae gennym ni gymaint o adeiladau sydd angen eu hadfer o hyd.
"Dwi'n credu nad ydy Llywodraeth Cymru wedi rhoi digon o bwyslais ar yr adferiad, ond dwi'n gobeithio y bydd pethau'n gwella yn y ddeddfwriaeth newydd."

Mae'e sefyllfa fel ag y mae yn destun pryder i bobl fel Peter Larwood, sy'n byw yn fflatiau Victoria Wharf yng Nghaerdydd
Mae Peter Larwood, sy'n byw yn natblygiad Victoria Wharf yng Nghaerdydd, yn croesawu'r deddf newydd, ond mae'n grac na fydd rhai hawliau i drigolion herio datblygwyr trwy dribiwnlys yn dod i rym tan y flwyddyn nesaf, oherwydd bod angen gwneud rheoliadau newydd.
Dywed fod pobl yn ei ddatblygiad e wedi dod o hyd i ddiffygion - yn y to ac ar rai balconïau - nad sy'n gysylltiedig â diogelwch tân, y byddent yn hoffi mynd â nhw i'r llys, ond byddai'r ffordd bresennol o wneud hynny yn ddrud iawn.
"Ni fydden ni'n gallu herio'r datblygwr ynghylch y diffygion yn yr adeilad," meddai. "Yr unig lwybr fyddai o dan y Ddeddf Eiddo Diffygiol.
"Mae hynny'n golygu mynd i lys uwch, cyflogi cyfreithiwr. Mae datblygiadau eraill wedi gwneud hynny. Mae Altamar yn Abertawe wedi gwneud hynny.
"Maen nhw wedi gorfod codi miliwn o bunnoedd rhwng y lesddeiliaid dim ond i wneud hynny, a dyna beth rydyn ni'n sôn amdano, ei fod yn hynod o ddrud, a dim gwarantau o lwyddiant."
Mae'n dweud y byddai cael tribiwnlys yn lawer gwell: "Gwario cwpl o gannoedd o bunnoedd, achos gerbron y tribiwnlys, maen nhw'n gwneud y penderfyniad. Ateb yn hysbys yn gyflym iawn, a dyna rywbeth sydd ei angen arnon ni."
Gwahardd cladin llosgadwy o fis Ionawr
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019
Cladin: Rhybudd y bydd pobl yn colli eu cartrefi
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021
Lansio cynllun i roi cyngor i ddelio â chladin
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2022
Dywed llefarydd tai y Ceidwadwyr Cymreig, Joel James AS, y gallid fod wedi osgoi'r oedi hyn, pe bai'r llywodraeth wedi cyflwyno'r bil yn gynt.
"Un o'r pryderon sydd gennym erioed yw, o ystyried pwysigrwydd y bil, y dylai fod wedi dod ar ddechrau tymor y Senedd, nid ar y diwedd - mae'n lleihau'r cyfle i graffu," dywedodd.
"Rwy'n gwybod am sawl rhanddeiliad a allai fod wedi bod yn rhan o'r broses na chafon nhw eu gwahodd i roi tystiolaeth.
"Rwy'n credu bod y bil yn llai cryf o ganlyniad I hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni rheoli eiddo yn Victoria Wharf eu bod yn "gweithio'n agos gyda'r datblygwr i ymchwilio i hyn ymhellach a chytuno ar y camau nesaf priodol, gan barhau i weithredu er budd gorau perchnogion tai."
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn obeithiol y bydd y bil yn dod yn gyfraith cyn i'r Senedd newydd gyfarfod ym mis Mai.
Mae'n dweud mai'r rheswm dros yr oedi naw mis dros hawliau trigolion yw er mwyn i'r Senedd allu trafod a chymeradwyo'r rheoliadau newydd.
Ychwanegodd y bydd gwaith ar bob safle o dan law y llywodraeth yn cychwyn cyn diwedd y flwyddyn.