Eluned Morgan yn 'bryderus' am effaith gwrthdaro'r Dwyrain Canol ar Gymru

- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan yn dweud ei bod yn poeni am effaith y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ar gymunedau yng Nghymru.
Dywedodd y byddai hefyd "effaith economaidd" yng Nghymru oherwydd yr aflonyddwch i fasnachu olew o'r rhanbarth.
Fe gafodd arweinydd Iran, Ayatollah Ali Khamenei, ei ladd mewn ymosodiadau gan yr Unol Daleithiau ac Israel dros y penwythnos gan arwain at lu o ymosodiadau gan Iran ar Israel, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar, Bahrain a Kuwait.
Dywedodd y Prif Weinidog fod llawer yng Nghymru â chysylltiadau â'r rhanbarth ac mae rhai pobl o Gymru yn ymweld ar hyn o bryd.
Cyngor i chwilio am loches
Mae hediadau wedi'u canslo i'r rhanbarth ac oddi yno, ac mae difrod wedi bod i feysydd awyr Dubai ac Abu Dhabi.
Mae'r Swyddfa Dramor yn rhybuddio dinasyddion Prydain yn erbyn teithio i Bahrain, Kuwait, Qatar ac Emiradau Arabaidd Unedig (EAU) oni bai ei fod yn angenrheidiol.
Y cyngor i'r rhai sydd yno eisoes yw i chwilio am loches.

Fe gafodd Tehran a nifer o ddinasoedd eraill Iran ei targedu gan ymosodiadau cyntaf y penwythnos
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch tensiynau posib o fewn cymunedau o ganlyniad i'r hyn sy'n digwydd, atebodd Eluned Morgan ei bod yn "bryderus iawn am gydlyniad cymunedol" a "bod yna bleidiau gwleidyddol sy'n tanio cynnydd yn y math hwnnw o ansefydlogrwydd o fewn ein cymunedau".
"Rwyf am sicrhau bod yna ddiogelwch i'n holl gymunedau ac y bydd gennym ni i gyd rôl i'w chwarae i sicrhau na welwn y math yna o densiynau'n codi o fewn ein cymunedau," meddai wrth raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales.
"Mae'n glir bod pobl Iran wedi dioddef o dan gyfundrefn ormesol ers sawl degawd ac rwy'n glir iawn na ddylent byth gael datblygu arf niwclear, ond rwy'n meddwl mai dad-ddwysáu'r sefyllfa y dylai ein blaenoriaeth fod," meddai.
"Mae angen i ni amddiffyn bywyd bob dydd pobl gyffredin ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn glir y bydd ansefydlogrwydd yn y Dwyrain Canol yn cael effaith yma yng Nghymru."
Pwysleisiodd hefyd "y dylai cynnal y gyfraith ryngwladol aros yn linell goch i ni".
Cyfeiriodd hefyd at bwysigrwydd y rhanbarth - Culfor Hormuz yn y Gwlff yw sianel gludo olew brysuraf y byd - a'r posibilrwydd y gallai'r sefyllfa effeithio ar bris a chyflenwadau olew ar draws y byd.