URC yn trafod gyda pherchnogion y Gweilch am brynu Caerdydd

Fe wnaeth y Gweilch guro Caerdydd ar Ddydd Calan ym Mhen-y-bont ar Ogwr
- Cyhoeddwyd
Bydd Undeb Rygbi Cymru [URC] yn cynnal trafodaethau gyda pherchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media, i drafod y posibilrwydd o brynu Rygbi Caerdydd.
Cynhaliodd URC gyfarfod bwrdd ddydd Llun ac mae'r BBC ar ddeall bod pwyllgor gweithredol yr undeb wedi cyflwyno Y11 yn opsiwn - fel y cynigydd y maen nhw'n ei ffafrio ar gyfer prynu Caerdydd.
Roedd consortiwm arall hefyd yn cynnig gyda chyn-gyfarwyddwr Caerdydd, Martyn Ryan, yn rhan o grŵp sy'n cynnwys tri chynhyrchydd teledu sydd wedi'u lleoli yn America.
Fe wnaeth URC gymryd rheolaeth o Rygbi Caerdydd ar ôl i endid cyfreithiol y clwb gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ym mis Ebrill 2025.
Ers hynny mae URC wedi awgrymu torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri.
Mi fyddai'r opsiwn o berchnogion y Gweilch yn cymryd rheolaeth o Gaerdydd, a'r ddau glwb yn troi'n un i bob pwrpas, yn caniatáu i hynny ddigwydd.
Yn ymateb ddydd Mawrth, dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn "ystyried pob opsiwn, gan gynnwys rhai cyfreithiol, i sicrhau bod y Gweilch yn parhau yn y ddinas".

Mae URC wedi awgrymu torri nifer y timau proffesiynol yng Nghymru o bedwar i dri
Nid oes unrhyw gytundeb wedi cael ei arwyddo'n swyddogol eto, gyda'r trafodaethau'n parhau dros yr wythnosau nesaf.
Nid ydy URC wedi datgan pwy ydy'r cynigydd y maen nhw'n ei ffafrio.
Dywedodd datganiad fod bwrdd URC wedi cyfarfod ddydd Llun "gan ystyried yr argymhelliad gan y tîm arweinyddol gweithredol am werthiant Clwb Rygbi Caerdydd".
"Ystyriwyd y ddau gynnig ffurfiol olaf a gwnaed y penderfyniad unfrydol i fwrw ymlaen gyda'r cynnig a ffafriwyd am gyfnod penodol gyda'r cwmni hwnnw'n unig.
"Yn dilyn y penderfyniad hwn, mae rheidrwydd ar URC i drafod y mater gyda nifer o randdeiliaid yn ystod y dyddiau nesaf.
"Wedi'r cyfnod hwnnw bydd URC yn trafod y mater a'r penderfyniad gyda'r ddau gwmni wnaeth y ddau gynnig, ynghŷd â thîm rheoli Rygbi Caerdydd.
"Y disgwyliad yw y bydd y broses hon wedi ei chwblhau erbyn yr wythnos nesaf."
Y gobaith, ychwanegodd y datganiad, ydy "trafod manylion terfynol y cynnig gyda'r cwmni wnaeth y cynnig â ffafrir fel bo modd arwyddo cytundeb ffurfiol dros yr wythnosau nesaf".
URC yn rhybuddio bod galwad am gyfarfod brys yn 'anghyfrifol'
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
URC i dorri nifer y rhanbarthau rygbi o bedwar i dri erbyn 2027
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2025
Byddai uno'r Scarlets a'r Gweilch 'ddim y peth hawsaf' - cadeirydd URC
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2025
Pe bai cytundeb gyda Y11 yn cael ei sicrhau, byddai cefnogwyr y Gweilch yn ofni y gallen nhw ddiflannu fel tîm proffesiynol yn y pen draw.
Ni fyddai hynny'n digwydd cyn i URC wneud cytundeb â'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig i leihau nifer y timau Cymreig yn y gynghrair.
Gallai'r pedwar tîm proffesiynol, gan gynnwys y Scarlets a'r Dreigiau, barhau i fodoli ar gyfer tymor 2026-27.
Os caiff cytundeb ei gadarnhau byddai'n rhaid edrych ar berchnogaeth Y11, oherwydd bod rheoliadau World Rugby yn gwahardd sefydliadau rhag bod yn berchen ar ddau dîm yn yr un gystadleuaeth.
Cyngor yn ystyried opsiynau cyfreithiol
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Abertawe eu bod yn ystyried opsiynau i "ddiogelu dyfodol" y Gweilch yn y ddinas.
Dywedodd y cyngor ei fod yn "hanfodol" bod tîm rhanbarthol yn parhau yno, a'u bod yn "ceisio cael eglurder gan Y11" ynghylch y sefyllfa.
Bydd rhaid aros i weld beth fydd yn digwydd o ran ailddatblygiad posib stadiwm San Helen yn Abertawe, a gafodd ei ddynodi fel cartref newydd i'r Gweilch.
Mae Cyngor Abertawe wedi cefnogi'r cynllun, ond roedden nhw'n aros am fwy o newyddion am ailwampio rygbi Cymru cyn rhyddhau dim mwy o gyllid na'r £4m ar gyfer y prosiect i ddechrau'r ailddatblygiad.
Yn y datganiad diweddaraf ddydd Mawrth, dywedodd arweinydd y cyngor, Rob Stewart ei fod wedi "ymrwymo 100%" i'r bwriad i'r Gweilch ddychwelyd i chwarae ar faes San Helen yn Abertawe

Bydd Abi Tierney yn Senedd Llundain ddydd Mercher yn rhoi tystiolaeth i wleidyddion Cymru ar ddyfodol rygbi Cymru
Mae'n gyfnod ansicr i'r gêm yng Nghymru, gydag URC yn cyhoeddi ym mis Hydref 2025 eu bod yn bwriadu rhoi tair trwydded i glybiau proffesiynol y dynion.
Bydd un yng Nghaerdydd, un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin.
Gallai hynny fod wedi arwain at frwydr i oroesi rhwng y Gweilch o Abertawe a'r Scarlets yn Llanelli, cyn i opsiwn ddod i'r amlwg o Y11 yn prynu Caerdydd.
Mae URC ac Y11 wedi gwrthod gwneud sylwadau ar y posibilrwydd, gan danio ofnau cefnogwyr y Gweilch o ran dyfodol y tîm.
Mae cefnogwyr Caerdydd hefyd wedi dweud wrth URC nad ydyn nhw eisiau i berchnogion y Gweilch brynu eu tîm.
Mae prif weithredwr URC, Abi Tierney, a'r cadeirydd, Richard Collier-Keywood, wedi cael eu galw i'r Senedd yn Llundain ddydd Mercher i roi tystiolaeth i wleidyddion Cymru ar ddyfodol rygbi Cymru.
Mae disgwyl iddyn nhw gael eu holi ar y mater yno.
Cafodd cynrychiolwyr o grwpiau cefnogwyr Caerdydd, y Gweilch, y Scarlets a'r Dreigiau, hefyd wahoddiad i roi eu barn i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.