Uned iechyd meddwl i famau newydd a'u babanod o Gymru wedi agor yng Nghaer

Seren Lodge
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau o'r wyth gwely wedi eu neilltuo i gleifion o Gymru yn uned newydd sbon, Seren Lodge, yn Ysbyty'r Countess of Chester

  • Cyhoeddwyd

Mae uned iechyd meddwl i famau newydd a'u babanod o Gymru wedi agor yng Nghaer.

Bydd gan yr uned yn Ysbyty'r Countess of Chester ddau wely i gleifion o Gymru.

Ond mae rhai'n pryderu faint o ofal fydd siaradwyr Cymraeg yn medru ei dderbyn yn eu mamiaith.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod agor yr uned yn gam mawr ymlaen.

Nia Foulkes
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Nia Foulkes anhwylder deubegynnol (bipolar) ac fe dreuliodd gyfnod mewn uned iechyd meddwl yn Lloegr

Fe gafodd y gwasanaeth ei sicrhau ar ôl ymgyrchu gan Nia Foulkes o'r Rhuthun.

Bu'n rhaid iddi hi orfod mynd i Fanceinion am driniaeth iechyd meddwl ar ôl geni ei mab Gwil chwe blynedd yn ôl.

Mae'n dweud bod y pellter oddi wrth ei theulu a methu siarad Cymraeg gyda staff wedi gwneud pethau'n anos iddi.

"Mae gen i bipolar ac os dwi'n mynd yn sâl, dwi'n troi i siarad Cymraeg. Mae'n haws i fi. Ac os fyse rhywun arall Cymraeg iaith gyntaf yn mynd yn sâl ar ôl baban, mae'n mynd i fod yn debyg i fi.

"Dwi'n teimlo 'se fi wedi gwella'n lot ffastiach 'se fi'n agosach i adre a gallu siarad Cymraeg.

"'Nes i sylweddoli wedyn bod rhywbeth angen ei wneud."

Seren Lodge
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Seren Lodge ei sefydlu yn sgil cydweithio rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a'r byrddau iechyd yn Lloegr

Fe agorodd yr unig uned iechyd meddwl yng Nghymru i famau newydd a merched beichiog yng Nghastell-nedd yn 2021.

Fe ddechreuodd Nia Foulkes ddeiseb yn galw am uned yn y gogledd.

Er nad ydy hynny wedi digwydd, mae'n croesawu sefydlu'r gwasanaeth newydd yng Nghaer ac wedi bod yn ynghlwm â'r dylunio a'r broses recriwtio.

Mae dau o'r wyth gwely wedi eu neilltuo i gleifion o Gymru yn uned newydd sbon, Seren Lodge, yn Ysbyty'r Countess of Chester.

Cafodd ei sefydlu yn sgil cydweithio rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a'r byrddau iechyd yn Lloegr.

Siân Gwenllian AS
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n fy mhoeni fi os dwi ddim yn cael ateb nad oes ganddyn nhw ateb i'r cwestiynau mawr yma," meddai Siân Gwenllian AS

Ond mae Siân Gwenllian AS yn ofni faint o ddarpariaeth Gymraeg fydd yno mewn gwirionedd.

"'Dan ni ddim wedi cael atebion i hynny ac mae hynny'n fy mhoeni yn fawr iawn.

"'Dwi wedi 'sgwennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nôl ym mis Medi. Heb gael ateb.

"'Dwi wedi 'sgwennu at y gweinidog yn Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy AS, sydd â chyfrifoldeb am y maes yma yn gofyn iddi hi bwyso ar y bwrdd iechyd i roi ateb i fi. Dal ddim wedi cael ateb.

"Felly mae'n fy mhoeni fi os dwi ddim yn cael ateb nad oes ganddyn nhw ateb i'r cwestiynau mawr yma ynglŷn â sut maen nhw'n mynd i ddarparu'r gofal priodol i famau sydd â'r Gymraeg yn iaith gyntaf."

'Gwelliant mawr o gymharu â threfniadau blaenorol'

Mewn ymateb fe ddwedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddorau Iechyd: "Mae'r wythnos hon yn nodi cam sylweddol ymlaen o ran sicrhau bod cymorth iechyd meddwl amenedigol arbenigol ar gael yn nes i'r cartref ar gyfer merched yng Ngogledd Cymru.

"Cyn hyn, yn aml, roedd yn rhaid i ferched yr oedd angen eu derbyn i Uned Mamau a Babanod deithio pellteroedd hir i dderbyn gwasanaethau yn Lloegr, gan gynnwys Manceinion a Birmingham.

"I lawer o deuluoedd - yn enwedig y rhai sy'n byw yng Ngogledd-orllewin Cymru -mae hyn wedi arwain at gryn her ar adeg sydd eisoes yn un anodd.

"Mae cyflwyno dau wely wedi'u clustnodi yn Seren Lodge yn cynrychioli gwelliant mawr o gymharu â threfniadau blaenorol ac mae'n ychwanegiad ystyrlon at brofiad gofal merched o Ogledd Cymru.

"Rydym wedi bod yn rhan o'r prosiect cydweithredol hwn o'r dechrau ac rydym wedi rhoi arweiniad gwerthfawr, yn enwedig mewn perthynas â defnydd a gwelededd o'r Gymraeg.

"Bydd merched a staff yn cael mynediad 24 awr i linell iaith Gymraeg, ac mae staff yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o'r Gymraeg fel rhan o'u sesiwn ymsefydlu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r Gwasanaeth Amenedigol.

"Mae'r uned yn elwa ar arwyddion dwyieithog trwyddi draw, ac mae Tîm Gwasanaethau'r Gymraeg wedi rhoi cymorth o ran darparu llyfrau Cymraeg i fabanod.

"Mae cyfran o'r tîm yn medru'r Gymraeg, gan gynnwys dwy nyrs iechyd meddwl gofrestredig sydd â phrofiad sylweddol o weithio mewn gwasanaethau iechyd meddwl acíwt yn ein Bwrdd Iechyd."

'Bwysig y gall cleifion dderbyn gofal yn Gymraeg'

Dywed Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y Cydbwyllgor Comisiynu a NHS Lloegr drwy gydol datblygu'r uned hon.

"Mae'n bwysig y gall cleifion dderbyn gofal yn yr iaith Gymraeg ac rydym wedi cael sicrwydd y bydd hyn yn cael ei ddarparu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.