Tafarndai: Costau cynyddol yn 'hitio ni'n galed'

TafarnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 200 o dafarndai wedi cau yng Nghymru rhwng 2019 a 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae angen adolygu newidiadau i drethi busnes ar frys, yn ôl rhai perchnogion tafarndai.

Gallai cynlluniau fydd yn dod i rym ym mis Ebrill weld nifer o dafarndai yn wynebu biliau llawer drytach.

Mae ffigurau diweddaraf Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain yn dangos bod tafarndai yng Nghymru yn cau ar gyfradd gyflymach na Lloegr, gyda 200 o dafarndai wedi cau eu drysau rhwng 2019 a 2024.

Yn ôl un rheolwr tafarn yng Nghaernarfon, byddai cael gwared ar y cymorth treth busnes sydd mewn grym ar hyn o bryd yn cael effaith fawr ar ei fusnes.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y pwysau sy'n wynebu tafarndai yng Nghymru, ac mae eu cefnogi yn bwysig i gymunedau ledled y wlad".

'Dim cefnogaeth'

Mae Dion Hughes yn berchen ar bum tafarn yng Ngwynedd, ac mae'n un o nifer sy'n poeni am y newidiadau fydd yn dod i rym fis Ebrill.

Dywedodd: "'Sa nhw'n sgrapio'r disgownt, y 40% 'ma, 'sa fo'n impact mawr arna ni. Mae'r trethi busnes yn un o'n costau mwyaf.

"Cynnwys hynny efo'r costau eraill sydd wedi mynd fyny - trydan wedi mynd fyny lot yn y blynyddoedd dwytha' 'ma, hefyd costau cyflogau i'r tîm hefyd.

"'Da ni'n cael ein taro o bob ochr mewn ffordd.

"Mae'n teimlo ar hyn o bryd does 'na ddim cefnogaeth ganddyn nhw o gwbl, ac mae'n 'neud bywydau ni'n anodd iawn".

Dion Hughes
Disgrifiad o’r llun,

"'Da ni'n cael ein taro o bob ochr," meddai Dion Hughes

Dywedodd Mr Hughes ei fod wedi ystyried swyddi rhai o'i staff dros y misoedd diwethaf.

"Mae'r timoedd mor bwysig i ni, y peth dwytha' 'da ni isio'i 'neud ydi edrych ar gael gwared ar bobl neu leihau oriau nhw a ballu.

"Mae hwnnw'n sgwrs 'da ni wedi gorfod cael ddoe yn Abersoch gydag un o'n timoedd ni - serious conversation. Conversation dwi ddim isio gorfod ei gael efo neb."

Beth sy'n newid?

Mae'r pryder newydd yma yn dilyn newidiadau sydd fod i ddod i rym o fis Ebrill eleni.

Mae un yn ymwneud â gostyngiadau trethi busnes a oedd wedi bod mewn grym ers y pandemig.

Roedd wedi bod ar 40%, ond mae disgwyl iddo gael ei ddileu heb unrhyw ostyngiad o gwbl o fis Ebrill ymlaen.

Mae addasiadau hefyd i'r hyn sy'n cael ei alw yn werthoedd ardrethol (rateable values).

Mae gwerth ardrethol cwmni yn seiliedig ar faint fyddai'n ei gostio i rentu'r eiddo am flwyddyn, ac mae'n cael ei ddefnyddio i gyfrifo bil trethi busnes.

Gallai'r newidiadau weld miloedd yn cael eu hychwanegu at lawer o filiau.

Rhys ap Gwilym
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Rhys ap Gwilym yn uwch ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor

Yn ôl Dr Rhys ap Gwilym, uwch ddarlithydd economeg ym Mhrifysgol Bangor: "Mae'r llywodraeth yn trio cael gwared o'r gostyngiad cyffredinol yma i fusnesau yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden.

"Yn lle hynny maen nhw'n cyflwyno mesur newydd lle mae rhai sectorau yn mynd i gael lluosydd is pan 'da ni'n gweithio allan beth ydi eu bil treth nhw."

Dywedodd na fydd tafarndai yn cael eu rhoi yn yr un categori â busnesau manwerthu.

"Y gwahaniaeth mawr sy'n effeithio tafarndai yw'r ffaith fod y lluosydd is 'na, mond yn mynd i effeithio busnesau yn y sector manwerthu, a dim rhai yn y sector lletygarwch."

Rhian Parry
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhian Parry fod y sefyllfa bresennol yn "fregus iawn"

Tu hwnt i fusnesau, mae mentrau cymunedol hefyd yn poeni am y newidiadau.

Mae Rhian Parry yn aelod o bwyllgor Tafarn yr Heliwr yn Nefyn, ac yn dweud ei bod yn poeni am yr effaith posib y gallai'r newidiadau gael ar y gymuned yn ehangach.

"Pwrpas yr Heliwr ydi cyflogi pobl leol a rhoi budd i'r gymuned leol, nid yn unig yn yr Heliwr ond y tu allan hefyd - 'da ni ddim yma i wneud pres, 'da ni yma i'r gymuned," meddai.

"Mae'n fregus iawn ar y funud. 'Da ni ddim yma i wneud pres, ond ochr y dafarn sy'n sybsideiddio yr ochr gymunedol.

"Felly 'da ni ddim yn 'neud pres, ond mi ydan ni angen pres i allu rhoi'r digwyddiadau ymlaen a gwneud pethau i'r gymuned.

"Efo pethau fel maen nhw ar y funud, gafon ni'r isafswm cyflog yn mynd fyny, ac mae hynny wedi hitio ni'n galed."

Esboniodd fod y dafarn wedi gorfod addasu er mwyn parhau i gynnig digwyddiadau i'r gymuned.

"Yn barod 'da ni wedi gorfod streamlinio beth 'da ni'n gallu ei wneud, ond os ydan ni'n gorfod ffeindio mwy o bres... y pethau cymunedol sydd yn mynd i gael eu hitio gyntaf, a'r staff."

Lois Povey
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lois Povey yn credu fod tafarn yn ganolbwynt i'r gymuned

Mae Lois Povey yn un o staff y dafarn, ac yn cytuno bod angen rhagor o gymorth i dafarndai, yn enwedig rhai cymunedol.

Dywedodd: "Mae'n gallu bod yn anodd. Ar ddiwedd y dydd, nid busnes ydyn ni, 'da ni yma i'r gymuned, dyna oedd y prif ffocws, dyna ydi o a dyna fydd o am byth.

"'Da ni'n cyflogi dipyn o bobl yr ardal yma... 'da ni'n cynnal gymaint o bethau bob mis - o leiaf pedwar gweithgaredd am ddim bob mis - ac mae'r rheiny i gyd yn cael eu hariannu.

"Ond gyda llai o bres i ddisgyn yn ôl arno, mae'n golygu efallai fyddan ni methu 'neud o.

"Er 'mod i'n gweithio, dio ddim fath â gwaith, mae'n gymunedol, 'da chi wir yn teimlo fath â bo' chi yma i fwynhau eich hun, sy'n neis."

Colli 6.6% o dafarndai o fewn 5 mlynedd

Mae disgwyl cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU dros y dyddiau nesaf, gyda newidiadau i sut mae trethi busnes tafarndai yn cael eu cyfrifo, gan arwain at lai o gynnydd i filiau.

Mae Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain (CCTP) yn dweud bod eu ffigyrau'n dangos bod Cymru wedi colli dros 200 o dafarndai rhwng 2019 a 2024.

Mae'r gyfradd yn uwch na Lloegr, gyda Chymru wedi colli 6.6% o'i thafarndai o'i gymharu â 4.3% yn Lloegr dros yr un cyfnod, yn ôl eu data.

Mae'r CCTP ymhlith y rhai sydd bellach yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Llywodraeth y DU ac adolygu'r newidiadau arfaethedig i gyfraddau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pwysau sy'n wynebu tafarndai yng Nghymru, ac mae eu cefnogi yn bwysig i gymunedau ledled y wlad.

"Rydym eisoes yn darparu rhyddhad trethi sylweddol ac wedi cadarnhau £116m ychwanegol mewn rhyddhad trosiannol i helpu busnesau i addasu i'r ailbrisio dros y ddwy flynedd nesaf.

"Bydd bron i hanner yr holl dafarndai yng Nghymru yn parhau i elwa o Ryddhad Trethi Busnesau Bach y flwyddyn nesaf, a bydd dros chwarter yn talu dim trethi o gwbl.

"Rydym wedi darparu mwy nag £1bn mewn cefnogaeth dros dro i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ers 2020."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.