'Gormod o faich ar lywodraethwyr' - ymateb cynghorwyr i droseddau Foden

Cafodd Neil Foden ei arestio ar 6 Medi 2023
- Cyhoeddwyd
Mae "gormod o faich ar lywodraethwyr ysgol", yn ôl cynghorwyr sydd wedi bod yn trafod ymateb Cyngor Gwynedd i droseddau'r pedoffeil a chyn-bennaeth Neil Foden.
Cafodd Foden - prifathro yn Ysgol Friars ym Mangor ac am gyfnod pennaeth strategol mewn ysgol arall yn y sir - ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024 am gam-drin pedair merch yn rhywiol rhwng 2019 a 2023.
Daeth adolygiad a gafodd ei gyhoeddi fis Tachwedd 2025 i'r casgliad bod awdurdodau wedi colli dros 50 o gyfleoedd i'w atal dros nifer o flynyddoedd.
Fe wnaeth yr Adolygiad Ymarfer Plant, o dan gadeiryddiaeth Jan Pickles, ddisgrifio Foden fel "pedoffeil soffistigedig" a "greodd ddiwylliant oedd yn galluogi iddo droseddu yn gwbl agored".

Roedd Neil Foden - yma yn y 1990au - yn athro am ddegawdau
Daeth i'r casgliad hefyd bod "gwendidau mawr" o fewn y trefniadau diogelu "o fewn yr ysgol, ymhlith y llywodraethwyr ac o fewn yr awdurdod lleol".
Ond yn ystod sesiwn craffu yn ystyried ymateb Cyngor Gwynedd i ddarganfyddiadau'r adolygiad, barn sawl aelod oedd bod llywodraethwyr ysgol - sydd i gyd yn gwneud y gwaith yn wirfoddol - angen mwy o gefnogaeth a hyfforddiant.
"'Da ni'n disgwyl iddyn nhw wneud andros o swydd anodd ac i wneud hwnnw'n wirfoddol," meddai'r Cynghorydd Gwynfor Owen.
"Mae 'na amryw o gyrff llywodraethwyr heb ddigon [o lywodraethwyr].
"Os fasa' llywodraethwyr yn sylweddoli eu cyfrifoldebau yn llawn, dwi'n meddwl y bysa' ni'n colli dros hanner y llywodraethwyr sydd ganddo' ni rŵan."
Nododd hefyd fod rhai "heb gael hyfforddiant ac yn aml heb ddeall eu cyfrifoldebau".
"Mae'n rhaid edrych ar hyn o ddifri' - mae'n [broblem] llawer ehangach na Gwynedd."

Adran addysg Llywodraeth San Steffan sy'n gyfrifol am bensiwn Neil Foden, medd Dafydd Gibbard
Ym mis Hydref lansiodd Llywodraeth Cymru adolygiad o gyrff llywodraethol, gyda'r bwriad o sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth a'r hyfforddiant sydd eu hangen, a bod eu rôl wedi'i nodi'n briodol mewn deddfwriaeth a chanllawiau.
Mae disgwyl canlyniad yr adolygiad, dolen allanol yn yr haf.
Ond yn ystod y cyfarfod o bwyllgor craffu addysg ac economi y cyngor fore Llun, fe wnaeth yr aelod cabinet dros addysg, Dewi Jones, gwestiynu a ddylai gwaith llywodraethwyr fod yn rôl wirfoddol o gwbl.
"Mae'r cyfrifoldeb yn anferth... mae cyfarfodydd yn mynd yn hwyr i'r nos ac yn aml mae pobl yn mynychu ar ddiwedd diwrnod caled o waith," meddai.
"Maen nhw'n gwneud o oherwydd eu bod nhw'n caru'r ysgol ac yn caru'r gymuned - y plant yn aml yn mynychu'r ysgol ac maen nhw eisiau'r gorau.
"Ond mae angen edrych yn union ar y cyfrifoldebau ac os oes gormod o faich ar lywodraethwyr... fyswn i yn mentro dweud y bod yna ar hyn o bryd."

Dywedodd Nia Jeffreys ei bod yn "mawr obeithio y ceith ei bensiwn ei stopio a bydd yn rhaid iddo dalu'n ôl pob ceiniog mae o wedi ei gael"
Gyda Chyngor Gwynedd wedi cyhoeddi cynllun ymateb i'r adroddiad i droseddau Foden, roedd y sesiwn craffu yn gyfle i gynghorwyr drafod y gweithdrefnau y mae'r awdurdod wedi eu rhoi yn eu lle hyd yma.
Bydd y cynllun ymateb, dolen allanol yn mynd o flaen cabinet ac yna cyfarfod arbennig o'r cyngor llawn dros yr wythnosau nesaf.
Barn y Cynghorydd Dawn Lynne Jones oedd y byddai'n "cymryd blynyddoedd i bobl Gwynedd ymddiried yn ôl yn y cyngor".
Ond dywedodd y prif weithredwr Dafydd Gibbard bod corff llywodraethol newydd bellach yn ei le yn Ysgol Friars a "newidiadau lu o ran yr uwch dîm reoli".
"Mae'r ysgol mewn lle hollol wahanol i'r lle'r oedd hi ddwy flynedd yn ôl," meddai.
"Mae'r diwylliant yn wahanol iawn yna a dwi'n falch iawn o allu cydnabod y gwaith caled.
"'Da ni ddim yn sôn am yr un ysgol bellach."
Pensiwn Foden 'yn warthus'
Clywodd y cyfarfod hefyd bod galwadau wedi bod ar Foden i golli'r hawl i dderbyn ei bensiwn prifathro "hael" yn sgil ei droseddau.
Adran Addysg Llywodraeth y DU, yn hytrach na Chyngor Gwynedd, sy'n gyfrifol am weithredu'r cynllun penodol yma.
Ond dywedodd arweinydd y cyngor, Nia Jeffeys, ei fod yn "warthus" ac y byddai "pob person yng Ngwynedd yn cytuno ei fod yn warthus".
"Dydy o ddim yn fater i Gyngor Gwynedd, does gen i mo'r pŵer i dynnu ei bensiwn i ffwrdd ohono, neu mi fyswn wedi gwneud," meddai.
"Dwi'n mawr obeithio y ceith ei bensiwn ei stopio a bydd yn rhaid iddo dalu'n ôl pob ceiniog mae o wedi ei gael."
Ychwanegodd Dafydd Gibbard: "Cynllun teacher's pensions ydy o, cronfa sy'n cael ei redeg gan adran addysg y llywodraeth yn San Steffan.
"'Da ni wedi tynnu hyn i'w sylw, o'r troseddau erchyll yma ac yn gobeithio gwnawn nhw weithredu.
"Maen nhw wedi gwneud datganiad heddiw yn dweud eu bod yn edrych ar 22 o achosion ar draws y wlad ar hyn o bryd, a dwi'n mawr obeithio bod hwn yn un ohonyn nhw."
Neil Foden: Beth sydd wedi digwydd hyd yma, a phryd?
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025
Cyngor Gwynedd i ystyried cynnal ymchwiliadau pellach i droseddau Foden
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2025
Cyngor yn cefnogi cais i ystyried ymchwiliadau pellach i droseddau Foden
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2025
Ar lawr Tŷ'r Cyffredin ddydd Llun fe wnaeth Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, godi'r mater gydag ysgrifennydd addysg y DU, Bridget Phillipson.
Dywedodd Ms Roberts fod dioddefwyr Foden yn "gandryll" ynglŷn â'r mater.
"Mae'r panel forfeiture wedi cwrdd, maen nhw wedi dod i ddyfarniad. Pryd fydd y dyfarniad hwnnw yn cael ei gyhoeddi?" gofynnodd.
"Rwy'n disgwyl i hynny ddigwydd yn sydyn iawn, iawn," atebodd Ms Phillipson.