Cyngor yn cefnogi cais i ystyried ymchwiliadau pellach i droseddau Foden

Nia Jeffreys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinydd y cyngor, Nia Jeffreys eu bod yn dal i weithio ar fesurau mewn ymateb i'r Adolygiad Ymarfer Plant diweddar

  • Cyhoeddwyd

Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried a oes angen ymchwiliadau annibynnol pellach i droseddau'r cyn-bennaeth ysgol Neil Foden.

Cafodd cynnig ei gyflwyno gerbron cyfarfod llawn y cyngor ddydd Iau yn gofyn i'r cabinet ystyried a oes angen cynnal ymchwiliadau pellach er mwyn gallu "mynd i'r afael â materion y tu allan i ffiniau'r" Adolygiad Ymarfer Plant diweddar.

Yn ôl yr adolygiad, a gafodd ei gyhoeddi ar 4 Tachwedd, fe wnaeth awdurdodau golli dros 50 o gyfleoedd i atal y pedoffeil rhag ymosod yn rhywiol ar ferched dros nifer o flynyddoedd.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd fis Gorffennaf 2024 am gam-drin pedair merch yn rhywiol yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Mae arweinwyr Cyngor Gwynedd wedi dweud y byddan nhw'n gwneud popeth posib i ddysgu gwersi.

'Rhagor o waith angen ei wneud'

Y cyfarfod brynhawn Iau oedd y cyfle cyntaf i aelodau meinciau cefn drafod cynnwys yr adolygiad.

Cafodd cynnig ei gyflwyno gan y Cynghorydd Beca Brown, Plaid Cymru, yn galw ar y cabinet i ystyried pa ymchwiliadau annibynnol pellach sydd eu hangen er mwyn mynd tu hwnt i ffiniau'r adolygiad.

Dywedodd fod "rhagor o waith angen ei wneud" ac "nad diwedd y stori yw'r Adolygiad Ymarfer Plant, ond y dechrau".

"Mae diogelu plant yn fusnes i ni gyd. Does 'na ddim byd pwysicach. Dewch i ni weithio efo'n gilydd - pawb - i sicrhau mai Gwynedd ydi'r lle gorau un i fod yn blentyn, a bod 'byth eto' wirioneddol yn golygu 'byth eto'," meddai.

Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Neil Foden yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros bedair blynedd

Cafodd cynnig Ms Brown ei groesawu gan yr aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Addysg, y Cynghorydd Dewi Jones, a ddywedodd fod rhaid "troi pob carreg" ac na fyddai'n "gwarchod" unrhyw un nad oedd am gyfrannu at ymchwiliadau.

Ond mynegodd yr aelod annibynnol, y Cynghorydd Richard Glyn Roberts amheuon am allu'r arweinyddiaeth i fynd i'r afael â'r achos.

"O ystyried yr arafwch wrth ymdrin â'r mater hwn a'r diffyg ffocws clinigol ar y methiannau gweithdrefnol a sefydliadol - mae rhywun yn gofyn sut gallwn ni gael hyder yn arweinyddiaeth y cyngor," meddai Mr Roberts.

Yn ystod y cyfarfod ailadroddodd Arweinydd y Cyngor, Nia Jeffreys ei chefnogaeth i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus i'r achos.

"Bydd angen help allanol efo ymchwiliadau pellach. Bydd pwyllgorau craffu yn bwysig," meddai.

"Mae'n bwysig bod ni'n lluchio drysau'r cyngor yn agored i bobl fedru dod i fewn a chraffu." meddai Ms Jeffreys.

Cafodd y cynnig ei basio gyda 44 pleidlais o blaid, un yn ymatal a neb yn pleidleisio yn ei erbyn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig