Le Figaro yn dathlu 200 mlwyddiant: Bethan Rhys Roberts sy'n hel atgofion

Le FigaroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Le Figaro yw'r ail bapur newydd mwyaf yn Ffrainc yn ôl gwerthiant, yn dilyn Le Monde

  • Cyhoeddwyd

Mae 15 Ionawr yn nodi 200 mlynedd ers sefydlu papur newydd cenedlaethol hynaf Ffrainc, Le Figaro.

Sefydlwyd y papur yn wreiddiol fel cylchgrawn wythnosol, â'r pwrpas o wneud hwyl ar 'y sefydliad' - y Llywodraeth a'r haen bwerus ym mywyd cyhoeddus Ffrainc.

Cafodd y papur ei enwi ar ôl Figaro, cymeriad Pierre-Augustin de Beaumarchais a ymddangosodd yng ngwaith fel Le Barbier de Séville, La Mère coupable a Le Mariage de Figaro. Roedd Figaro'n gymeriad a oedd yn dychan yr elît breintiedig yn y gymdeithas.

Yn 1866 fe drodd Le Figaro'n bapur newydd dyddiol, gan symud yn raddol i'r safle gwleidyddol canol-dde, ble mae'n parhau i fod hyd heddiw.

Rhywun a oedd yn gweithio am gyfnod gyda Le Figaro fel intern ym Mharis yn y 1990au oedd newyddiadurwr BBC Cymru, Bethan Rhys Roberts.

O'r Bangor Mail i Baris

"O'n i'n astudio ym Mharis ar y pryd yn gwneud cwrs ôl-radd mewn newyddiaduraeth Ewropeaidd, ac fel rhan o'r cwrs o'n i'n cael mynd i bapur rhanbarthol ac i bapur cenedlaethol.

"Ges i'r cyfle i fynd i Le Figaro, sef un o'r papurau mwyaf adnabyddus yn Ffrainc, yn 1992."

Sut argraff wnaeth adeilad pencadlys Le Figaro ar Bethan?

"Roedd o'n anferth, ac mi ro'dd o'n dipyn o brofiad mynd drwy'r fynedfa crand iawn. Dyna fy mhrofiad cynta' i o unrhyw beth o'r fath i fod yn onest – o'n i 'di cael profiad gwaith ar y Bangor Mail... ond yn sydyn iawn wedyn o'n i'n gweithio ar bapur hynod ddylanwadol yn Ffrainc.

"Roedd rhywun yn teimlo'r pwysau wrth gerdded i mewn, bod 'na draddodiad yna, a'i fod yn rhan o'r sefydliad, gyda'r newyddiadurwyr i gyd yn beniog ac yn smart."

Le FigaroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pencadlys Le Figaro ym Mharis, ble roedd Bethan yn gweithio fel intern yn 1992. Fe wnaeth Bethan hefyd dreulio amser gyda phapur Le Progrès yn Lyon

Aeth Bethan i'r ddesg newyddion cartref a throsedd yn gyntaf, gan ddilyn newyddiadurwr a oedd yn mynd i achosion llys.

"Yr hyn dwi'n cofio am y swyddfa yn bennaf mae rhaid imi gyfaddef ydi'r amser cinio yno - roedd popeth yn dod i stop am ddwy awr! O'dd y newyddiadurwyr yn mynd i fwytai gwahanol, yn cael gwin a phryd enfawr - a finnau'n cael mynd efo nhw.

"O'n i wir yn meddwl, ai dyma di'r byd newyddiadura? Ond yn sicr dyna oedd y byd newyddiadura yn Ffrainc, nid yng Nghymru falla – ac yn sicr nid yn fan'ma rŵan!

"Oedd 'na drafod mawr dros fwyd; straeon y dydd, gwleidyddiaeth, athroniaeth a thrafod syniadau mawr – a dyna oedd y diwylliant yn Le Figaro."

grand palaisFfynhonnell y llun, Le Figaro
Disgrifiad o’r llun,

I nodi'r 200 mlwyddiant bydd digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal yn y Grand Palais ym Mharis

Dywed Bethan fod y mwyafrif llethol o'r newyddiadurwyr yn Le Figaro ar y pryd yn ddynion, a bod hynny'n arbennig o wir am yr adran ble 'roedd hi'n gweithio.

"Mae gan Le Figaro gylchgrawn hefyd, ac i fynd efo'r stereotype roedd 'na lot mwy o ferched yn gweithio yn yr adran honno.

"Roedd y 'newyddion caled' yn cael ei adael i'r dynion, ond mae hynny wedi newid erbyn hyn."

Bethan Rhys Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Bethan Rhys Roberts â'r BBC yn dilyn ei hamser gyda Le Figaro yn 1992

Cwrdd â'r golygydd

Fe wnaeth Bethan gwrdd â'r golygydd un diwrnod - cyfarfod annisgwyl, a sgwrs doedd ddim i'w wneud â gwaith.

"Un bore ges i neges ar fy nesg yn dweud bod y prif olygydd eisiau fy ngweld i – yn y twr mawr 'ma yn yr adeilad. O'dd pobl yn yr ystafell newyddion yn gwneud dipyn o ffws ar y pryd – pam bod o isio dy weld di? Be ti 'di gwneud?

"Franz-Olivier Giesbert oedd ei enw o ac oedd o'n enwog iawn yn Ffrainc fel un o'r barwniaid mawr. O'n i'n eitha' nerfus yn mynd fyny i dop yr adeilad ar ben fy hun.

"Oedd ei ysgrifenyddes o'n dweud bod o'n awyddus i fy nghwrdd i, a bod o'n gwybod mod i'n dod o Gymru, a bod o isio sgwrs."

Franz-Olivier GiesbertFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Franz-Olivier Giesbert, golygydd Le Figaro tra roedd Bethan gyda'r papur

"Es i mewn, ac o'dd o ar ryw gadair ledr enfawr, a dyma fo'n troi rownd a dweud: 'dwi 'di bod i Sir Fôn ar fy ngwyliau, dwi'n clywed bo' chi'n dod o Gymru, ga' i glywed enw'r pentre' efo'r enw hir 'na plîs?'

"A dyma fi'n dweud Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch, ac fe ddywedodd o 'eto' ac 'eto' – roedd rhaid imi ddweud o sawl tro.

"Roedd o wrth ei fodd efo Cymru, 'nath o fy holi am fy ngyrfa i, be o'n i isio gwneud, ac roedd o'n annwyl iawn."

Le FigaroFfynhonnell y llun, Le Figaro
Disgrifiad o’r llun,

Clawr Le Figaro o mis Awst, 1914

Llofruddiaeth 1914

Yn hanesyddol mae papurau fel Le Figaro wedi bod â phŵer aruthrol ar lunio'r barn gyhoeddus, fel esbonia Bethan.

"Moto Le Figaro yw 'Sans la liberté de blâmer, il n'est point d'éloge flatteur', sy'n cyfieithu i rywbeth fel 'heb yr hawl i feirniadu, does dim modd canmol'.

"Mae'n cael ei weld fel papur sydd eisiau cicio a beirniadu, a gymaint felly, mae 'na wastad un stori sy'n cael ei drafod am Le Figaro.

"Yn 1914 roedd y golygydd ar y pryd, Gaston Calmette, yn feirniadol iawn o'r llywodraeth adain chwith ar y pryd, yn enwedig yr ysgrifennydd cyllid oedd yn newid y system drethiant.

"'Nath gwraig yr ysgrifennydd fynnu cael cyfarfod Calmette yn ei swyddfa yn Le Figaro. Aeth hi mewn gan wisgo cot ffwr, a thynnu gwn allan a'i danio chwe gwaith a'i ladd o, oherwydd bod golygydd Le Figaro yn feirniadol o bolisi trethiant y llywodraeth."

CalmetteFfynhonnell y llun, Le Figaro
Disgrifiad o’r llun,

Darlun o Henriette Caillaux yn lladd Gaston Calmette yn ei swyddfa, 16 Mawrth, 1914

Diwylliant y wasg Ffrengig

Mae'r holl ddiwylliant print yn dra gwahanol yn Ffrainc, medd Bethan.

"Mae'n rhaid ni gofio wrth gwrs does gan Ffrainc ddim traddodiad o bapurau newydd tabloid, ac mae'r rheolau preifatrwydd lot llymach. Mae 'na dipyn mwy o ddarllen o'r papurau trymion, achos does 'na ddim red tops yn Ffrainc.

"Mae 'na ddychan, ac un o'r papurau mwyaf ydi'r Le Canard Enchaîné, sydd fel Private Eye mawr, ac wrth gwrs mae ganddyn nhw gylchgrawn Charlie Hebdo hefyd.

"Ond beth sydd wir yn gwerthu yn Ffrainc ydi'r papurau lleol, er enghraifft Ouest-France (sy'n cael ei gyhoeddi yn Rennes) sydd a'r gwerthiant uchaf yn y wlad. Er bod Le Monde a Le Figaro'n cael eu gweld fel 'y papurau mawr' gyda'r colofnwyr adnabyddus, y papurau lleol sy'n gwerthu orau."

Yr hawl i fywyd preifat

Groupe Figaro sydd berchen ar Le Figaro, sy'n gwmni enfawr â dylanwad mewn sawl rhan o'r wasg ac sy'n eiddo i'r teulu Dassault - teulu sy'n werth biliynau o Baris.

"Cwmnïau mawr sy'n berchen y papurau newydd yn Ffrainc. Achos y deddfau cryfach o ran preifatrwydd 'dan ni wedi gweld gwraig Macron yn herio'r wasg yn ddiweddar, ac yn ennill.

"Mae'r syniad yma o'r hawl i fywyd preifat, mewn gwlad ble mae rhyddid barn mor bwysig - mae 'na ddeuoliaeth yn fanna, ac mae Ffrainc dal yn ceisio dod i afael ar hynny."

François MitterrandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

François Mitterrand, Arlywydd Ffrainc o 1981 i 1995, a oedd gan 'ail deulu' tra'n arwain y genedl

Ym Mhrydain fe all sgandal personol ddod a gyrfa i ben, ond beth yw'r sefyllfa yn Ffrainc?

Yn ôl Bethan: "'Dydyn ni ddim isio gwybod', 'mae 'na lot o bobl wrthi' - dyna yw'r ymateb yn Ffrainc. Mae 'na lai o feirniadu am fywydau preifat yn sicr.

"Wedi dweud hynny mae 'na bapurau sydd wir yn mynd ar ôl Macron, achos bod nhw ddim yn licio ei bolisïau o. Ond ar ddechrau tymhorau'r arlywyddion dydyn nhw ddim yn mynd amdani gymaint ag y maen nhw yn y wlad yma."

Mae dyfodiad y we wrth gwrs wedi cael effaith ar werthiant papurau newydd dros y blynyddoedd diweddar. Ond mae papur Le Figaro yn dal i fod yn boblogaidd, ac yn parhau i fod yn hynod ddylanwadol wedi 200 mlynedd.

Hefyd o ddiddordeb:

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig