Angen gwella diogelwch ger rhaeadrau Bannau Brycheiniog - crwner

Sgwd y Pannwr ym Mannau Brycheiniog
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi dweud bod angen i arwyddion fod yn gliriach ar lwybr cerdded poblogaidd wrth raeadrau ym Mannau Brycheiniog, ar ôl i dri o bobl farw yno.
Bu farw Helen a Rachael Patching, 52 a 33 oed o Gaint, ym mis Ionawr 2023, a bu farw Corey Longdon, 26 o Gaerloyw, ym Mehefin 2024 ar ymweliadau ag ardal ble mae nifer o raeadrau ym Mannau Brycheiniog.
Clywodd y gwrandawiad ddydd Iau fod yr ardal yn denu 250,000 o gerddwyr y flwyddyn, gyda nifer yn cerdded llwybr 9km sy'n mynd heibio rhaeadrau Sgwd yr Eira, Sgwd Uchaf Clun-Gwyn, Sgwd Isaf Clun-Gwyn a Sgwd y Pannwr.
Dywedodd Crwner Cynorthwyol Canol De Cymru, Rachel Knight, y bydd hi'n cyhoeddi adroddiad er mwyn ceisio atal marwolaethau o'r fath yn y dyfodol, ac yn gofyn am welliannau i signal ffôn symudol yn yr ardal.

Bu farw Helen a Rachael Patching tra'n ymweld â Bannau Brycheiniog yn 2023
Wrth agor y cwest, dywedodd y crwner bod cynnal tri chwest mewn un yn "anarferol", ond ei bod yn teimlo eu bod yn debyg oherwydd y lleoliad a'r digwyddiadau a arweiniodd at y marwolaethau wrth y rhaeadrau.
Cafwyd hyd i Helen Patching yn Sgwd y Pannwr ar 5 Ionawr 2023, ddiwrnod ar ôl iddi hi a Rachael Patching fynd ar goll.
Ond ni chafodd Rachael ei darganfod tan 8 Ionawr, a hynny yn Afon Nedd ger maes gwersylla Spring Lake yng Nglyn-nedd.
Roedd Corey Longdon wedi ymweld â'r ardal gyda'i fodryb Lisa Lane, ac roedd wedi gwersylla dros nos cyn taith gerdded ger Sgwd Isaf Clun-Gwyn ar 26 Mehefin 2024.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Lane fod ei nai wedi ei gadael i chwilio am lwybr byr, cyn iddi glywed "sŵn mawr a rhywun yn gweiddi am help".
Roedd wedi disgyn tua 100 troedfedd o glogwyn i'r dŵr islaw.
Cafodd Corey ei achub o'r dŵr a'i gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd, ond fe gafodd ataliad ar y galon a'i gyhoeddi'n farw yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Bu farw Corey Longdon ym mis Mehefin 2024
Dywedodd prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Catherine Mealing-Jones wrth y gwrandawiad bod y sefydliad "yn dal ein gwynt, bob dydd yn llythrennol, gan obeithio y bydd pobl yn ddiogel".
Dywedodd fod un llwybr o'r enw 'llwybr 86' wedi'i gau'n barhaol yn dilyn damweiniau, a bod mwy o staff wedi'u lleoli wrth bwyntiau mynediad o fewn y parc i geisio sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r peryglon.
Ychwanegodd fod grŵp cynghori diogelwch rhwng awdurdod y parc cenedlaethol a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn "cyfarfod yn rheolaidd" i drafod diogelwch a rheolaeth y safle.
Dywedodd Sam Jones yn cynrychioli CNC fod buddsoddiad sylweddol wedi bod, llwybr newydd a ffens wedi'i chodi ers y marwolaethau.
Ystradfellte: Dwy fenyw wedi boddi - cwest
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
Daeth y crwner i gasgliad o "farwolaeth ddamweiniol" i'r tri.
Dywedodd nad oedd yn glir sut aeth Rachael na Helen i mewn i'r dŵr, ond "roedd yn fwy tebygol na pheidio bod un o'r menywod wedi mynd i'r dŵr ar ddamwain a bod y llall wedi tynnu ei sach gefn i geisio'i hachub".
Dywedodd mai boddi oedd achos eu marwolaethau.
Cafodd achos marwolaeth Corey Longdon ei gofnodi fel anaf i'r pen ac ataliad ar y galon wedi cwymp o uchder.
Dywedodd y crwner Rachel Knight y bydd hi'n cyhoeddi adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol arall - ar ôl cyhoeddi un yn ôl yn 2023 - gan fod "materion newydd wedi dod i'r amlwg".
"Mae'r signal ffôn yn wael neu ddim yn bodoli" a "dylid ystyried datrysiad", meddai.
"Rwyf hefyd yn pryderu nad yw llwybrau'n cael eu hesbonio'n ddigonol nac yn glir ac rwy'n credu bod angen esboniadau gwell a rhai a roddir yn amlach."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.