Manon Steffan Ros: 'Mae'r radio yn rhoi a rhoi heb ofyn ceiniog'

Manon Steffan Ros
  • Cyhoeddwyd

Wrth iddi baratoi i ddechrau cyflwyno cyfres gelfyddydol newydd Llwyfan ar BBC Radio Cymru, yr awdur Manon Steffan Ros sy'n sgwennu am bwysigrwydd y cyfrwng a'r celfyddydau yn ei bywyd hi.

Llwyd oedd hi. Toshiba, dw i bron yn siŵr, ac roedd 'na le i chwarae casét, neu, os oedd rhywun yn digwydd bod yn berchen ar y math iawn o dâp, recordio. Fy nheclyn radio cyntaf, diolch i Siôn Corn, oddeutu 1990.

Mae radio wedi bod yn rhan o'm bywyd erioed - Stondin Sulwyn yn chwarae yn y gegin, Ocsiwnia wedyn, ac wrth i mi fynd yn hŷn, Y Lein Hwyr.

Bu fy ffrind ysgol, Elen, a minnau, yn danfon negeseuon i'n gilydd dros y tonfeddau am gyfnod, y ddwy ohonom yn teimlo'r wefr o agosatwydd at enwogrwydd wrth i Owain Gwilym ddarllen neges gan Manon o Riwlas, i'w ffrind Elen o Besda - 'Cofia cit ymarfer corff 'fory!' neu rywbeth arall hollol ddiangen.

A rhwng y sgyrsiau yma, wrth gwrs, byd cyfa' o gerddoriaeth.

Tydy cof cenedl ddim y gorau am gofio arloesedd o fewn moment benodol - ond fedra i ddim anghofio clywed nodau glân, awgrymog Seithenyn gan Big Leaves am y tro cyntaf, neu stîd gerddorol, swyngyfareddol Y Da, Y Drwg a'r Hyll gan Pep le Pew (y radio edit, wrth gwrs, cyn i mi gael gafael ar y fersiwn gyflawn, a gwirioni fod 'na rywbeth yn bodoli yn Gymraeg oedd angen rhybudd iaith anweddus...)

Radio yn cynhesu tŷ

Ers y dyddiau hirfelyn tesog hynny, mae radio wedi bod yn gyfaill da i mi, ac yn gwmni parhaus. Mae'r Toshiba bach llwyd wedi hen fynd, wrth gwrs, a sawl teclyn radio arall hefyd, wedi cael eu chwarae nes eu bod nhw wedi ymlâdd.

Ym mhob tŷ newydd, y peth cyntaf i gael ei ddad-bacio oedd radio, er mwyn cynhesu'r lle efo lleisiau. Radio sy'n deffro'r tŷ yn y bore. Am flynyddoedd, bûm yn byw heb deledu, ac er gymaint ydw i'n mwynhau'r sgrin fach y dyddiau hyn, mae 'na rywbeth am yr atgof o'r cyfnod di-deledu yna, pan cawn i'r rhyddid i ddychmygu sut oedd y geiriau a glywn yn edrych.

Rydw i'n byw, ers bron i ugain mlynedd bellach, ym mhellafoedd de Gwynedd. Mae Tywyn, y dref dw i'n ei galw'n adref, yn un o'r llefydd efo'r canran isaf o siaradwyr Cymraeg yn y sir.

Dw i'n meddwl y byd o Dywyn, ei charedigrwydd a'i harddwch, ond mae'n hawdd iawn byw yma heb fawr o ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg. I mi, ac i nifer fawr iawn o bobl ar draws Cymru a thu hwnt, y radio ydy'n llinyn bogail ni at ein mamiaith; yr hyn sy'n ein hatgoffa ni o pwy ydan ni.

Mae Dei Tomos a Rhys Mwyn a Tudur Owen wedi fy helpu i greu adref ym mhle bynnag yr oeddwn i, ac am hynny, bydda i'n fythol ddiolchgar.

Braint a chyfrifoldeb

Rhaid cofio, hefyd, nad pawb sy'n byw o fewn pellter teithio hawdd i'n prif theatrau na'n horielau celf. Nid pawb, ychwaith, sydd gan y cyfalaf i dalu am docynnau i fynychu digwyddiadau diwylliannol; heb feddwl, rydan ni'n gallu gosod cyfyngiadau elitaidd ar ein celfyddydau. Ond mae'r radio yn rhoi a rhoi a rhoi heb ofyn ceiniog. Yn un o'r unig bethau yn ein cymdeithas modern, blaengar ni sydd ar gael i bawb am ddim.

Teimlad swreal a breintiedig iawn, felly, ydy cael ymuno â thîm Radio Cymru. Wythnos yma, bydda i'n dechrau fy ngwaith newydd fel cyflwynydd Llwyfan, un o raglenni celfyddydol y sianel. Bydda i'n cael siarad efo artistiaid ac awduron, beirdd a cherddorion, dramodwyr ac actorion. Am fraint! Ac am gyfrifoldeb hefyd.

Rydw i'n ymuno efo'r côr o leisiau sydd wedi bod yn gwmni ac yn gysur i mi ar hyd fy oes, a bydda i'n trio efelychu, yn fy ffordd fach fy hun, y profiad a gefais o wrando arnyn nhw. Yn trio rhannu'r gorau a'r difyrraf o'n byd bach, enfawr celfyddydol ni. A dyma i chi beth braf wrth i ni baratoi rhaglenni - rydw i wedi gweld yn barod fod 'na ddim prinder o ddeunydd o gwbl.

Mae 'na gymaint yn digwydd yn gelfyddydol yma yng Nghymru, o brosiectau mawr cenedlaethol i bethau gwych, mentrus sy'n digwydd o fewn pentrefi.

Peiriant bach Sony sydd wedi cymryd lle'r Toshiba bellach - mae'n eistedd yng nghornel y gegin, yr un mor allweddol â'r sinc neu'r ffwrn i'm bywyd i. Tra bydda i, mi fyddai'n gwrando, ac yn gwerthfawrogi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: