Manon Steffan Ros i gyflwyno rhaglen gelfyddydol Radio Cymru

- Cyhoeddwyd
Yr awdur Manon Steffan Ros fydd cyflwynydd newydd rhaglen gelfyddydol BBC Radio Cymru.
O ddiwedd Ionawr fe fydd yn cyflwyno bob prynhawn Sul wedi i Ffion Dafis gamu lawr o'r rôl i ddechrau swydd newydd.
Mae Manon Steffan Ros yn un o leisiau mwyaf amlwg Cymru yn y byd llenyddol ac wedi derbyn nifer o wobrau am ei gwaith fel nofelydd a dramodydd. Mae hi hefyd yn adnabyddus fel colofnydd, cyflwynydd a chantores.
Dywedodd ei bod yn "fraint" cael cyflwyno'r rhaglen.
Ychwanegodd: "Dwi wedi bod yn gweithio yn y celfyddydau ers 20 mlynedd a mwy, mewn sawl gwahanol rôl: actio, canu, creu celf weledol, a 'sgwennu, wrth gwrs, a dwi'n edrych ymlaen at barhau i greu tra 'mod i hefyd yn cael yr anrhydedd o gyflwyno rhaglen radio am bethau 'gin i ddiddordeb mawr ynddyn nhw."
Manon Steffan Ros: 'Syniadau'n dod o ofn'
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
'Gyrfa actio ddim yn bosib heb fynediad di-dâl i'r celfyddydau'
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2025
Siân Eirian fydd cadeirydd newydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2025
Fe gafodd Manon Steffan Ros, sy'n byw yn ardal Tywyn, ei magu yn Rhiwlas, ger Bangor, a chafodd ei haddysg yn yr ysgol gynradd leol ac yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Bu'n gweithio fel actores gyda chwmnïau theatr Y Frân Wen a Bara Caws am rai blynyddoedd.
Mae hi wedi gweithio fel dramodydd, sgriptwraig, a thiwtor ysgrifennu creadigol.
Fe enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006 a'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 gyda Llyfr Glas Nebo.
Fe enillodd y nofel honno Llyfr y Flwyddyn yn 2019 a medal Yoto Carnegie am lenyddiaeth, y llyfr cyntaf wedi'i gyfieithu i gael y wobr.
Dywedodd bod radio wedi bod yn "gwmni parhaus" iddi ers blynyddoedd a'i bod yn "dysgu cymaint" o'r cyfrwng.
Meddai: "Dwi hefyd yn ymwybodol, fel rhywun sy'n byw mewn tref sy' efo canran cymharol fach o siaradwyr Cymraeg, fod BBC Radio Cymru wedi bod yn linyn cyswllt hollbwysig i mi efo fy niwylliant.
"Mae hynny'n wir efo gymaint o bobl yma yng Nghymru a thu hwnt."
'Trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt'
Gwrandewch ar raglenni Ffion Dafis ar BBC Sounds
Mae'r penodiad yn "gam cyffrous i'r orsaf" yn ôl Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru.
Meddai: "Dwi'n falch iawn o allu croesawu Manon Steffan Ros i sedd y cyflwynydd - awdur a cherddor uchel ei pharch a fydd yn dod â'i llais unigryw a'i stamp ei hun i'r rhaglen.
"Mi fydd hi yn mynd a gwrandawyr i bob congl o Gymru, ac yn dathlu ac adlewyrchu beth ydy bod yn greadigol heddiw."

Manon Steffan Ros gyda Ffion Dafis
Fe fydd yn olynu Ffion Dafis sydd yn gadael yr orsaf er mwyn dechrau swydd newydd fel cyfarwyddwr artistig cwmni Theatr Bara Caws.
"Hoffwn hefyd ddiolch yn daer i Ffion Dafis am ei chyfraniad arbennig wrth gyflwyno'r rhaglen gelfyddydau ar BBC Radio Cymru," meddai Dafydd Meredydd.
"Mae ei brwdfrydedd, ei hangerdd a'i gwybodaeth eang wedi cyfoethogi'r sgwrs am y celfyddydau yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Hoffem ddymuno yn dda iawn iddi yn ei rôl newydd."
Bydd Manon Steffan Ros yn cyflwyno'r rhaglen am y tro cyntaf, o stiwdios BBC Bangor, ar ddydd Sul, 25 Ionawr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.