'Gyrfa actio ddim yn bosib heb fynediad di-dâl i'r celfyddydau'

Dywed Rakie Ayola ei bod wedi bod yn ffodus o gael ei hyfforddiant cynnar am ddim
- Cyhoeddwyd
Mae actores adnabyddus o Gaerdydd yn dweud na fyddai hi wedi llwyddo yn ei gyrfa oni bai ei bod wedi cael mynediad am ddim i'r celfyddydau.
Cafodd Rakie Ayola, enillydd Tlws Siân Phillips 2023 ei magu ar ystad tai cyngor yn y brifddinas ac mae'n dweud bod y cyfleoedd cerddoriaeth ac actio am ddim a gafodd wedi ei pharatoi ar gyfer ei gyrfa ar y llwyfan a'r sgrin.
Daw hyn wrth i gyd-gyfarwyddwr Opera Cenedlaethol Cymru, Adele Thomas, ddweud ei bod hi bron yn amhosib i rai o gefndir dosbarth gweithiol gael mynediad i'r celfyddydau.
Yn gynharach eleni fe wnaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ddosbarthu £8 miliwn er mwyn ceisio diogelu dyfodol 40 o sefydliadau celfyddydol.
Lansio gwobr er cof am Leah Owen er mwyn rhoi 'cyfleoedd i bobl ifanc'
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2025
Sîn celf weledol y gogledd yn 'gryfach o achos diffyg buddsoddiad'
- Cyhoeddwyd10 Awst 2025
Sefyllfa'r celfyddydau yng Nghymru yn 'dorcalonnus o wael'
- Cyhoeddwyd5 Awst 2025
Dywedodd Ms Ayola, sydd hefyd wedi serennu yn Doctor Who ac wedi perfformio gyda'r Royal Shakespeare Company, fod ei hamser gyda Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, Côr Ieuenctid De Morgannwg a'r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama wedi'i "ariannu gan y cyngor".
Dywedodd fod ymuno â grŵp theatr a dysgu canu offeryn am ddim fel plentyn wedi ei helpu i sylweddoli'r cyfleoedd oedd yn bodoli yn y celfyddydau.
"Ar hyn o bryd gallwch ymuno â theatr ieuenctid ond mae'n debyg y bydd e'n costio £25, ac os nad oes gennych chi hynny, beth ydych chi'n mynd i'w wneud? Yr un peth â bale a gwersi offerynnol hefyd," meddai Ms Ayola.
"Felly dydw i ddim yn gwybod sut mae pobl ifanc yn cael mynediad at y celfyddydau os nad oes gan eu rhieni nhw yr arian sbâr."
Yn ddiweddar, mae'r actores o Gymru wedi perfformio am y tro cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru, sydd wedi colli chwarter eu cyllideb ers 2022.

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn wynebu heriau wrth ariannu eu rhaglenni addysgol
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi gorfod lleihau maint y côr a lleihau nifer y perfformiadau oherwydd heriau ariannol.
Mae'r penaethiaid yn dweud hefyd bod angen mwy o gyllid i sicrhau dyfodol eu rhaglenni lles ac addysg - rhaglenni sy'n anelu i gydweithio gyda phobl o amrywiol gefndiroedd yn y celfyddydau ac opera.
Dywedodd y cyd-gyfarwyddwr Ms Thomas: "Heb y buddsoddiad hwnnw, yr hyn a welwn yw gostyngiad yn nifer y bobl ifanc sy'n gallu cael mynediad at y celfyddydau.
"Bydd nifer y bobl o gefndiroedd dosbarth gweithiol yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn.
"Yr hyn sydd ei angen arnom yw mwy o fuddsoddiad - nid yn unig yn y sefydliadau, ond mae angen llawer mwy o drylwyredd a buddsoddiad ar y system gyfan er mwyn goroesi."

Mae cyd-gyfarwyddwyr Opera Cenedlaethol Cymru, Adele Thomas a Sarah Crabtree, eisiau gwneud opera yn fwy hygyrch ond maen nhw'n wynebu penderfyniadau ariannol anodd
Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn yn ardal Beddau, Rhondda Cynon Taf, ymhlith miloedd sydd wedi cymryd rhan mewn rhaglenni addysgol Opera Cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Bethan Jones, athrawes sy'n gyfrifol am y celfyddydau yn yr ysgol fod cael y cyfle i weithio gyda chanwr opera proffesiynol ar sgiliau perfformio wedi bod yn gyfle da i'r plant ac wedi helpu i fagu hyder ymhlith y disgyblion tawelach.
"Mae wedi bod yn gyfle i'r plant wneud rhywbeth arall - efallai rhywbeth na fydden nhw wedi meddwl amdano ac yn sicr rhywbeth nad oedden nhw wedi ei brofi o'r blaen.
"Roedd ein disgyblion Blwyddyn 6 hefyd yn gallu treulio'r diwrnod yng Nghanolfan y Mileniwm a dysgu am sut mae'r goleuadau'n gweithio, sut mae'r sain yn gweithio ac roedden nhw'n cael syniadau am y swyddi hynny yn ogystal â'r rolau ar y llwyfan."
Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod cynnydd o 8.5% wedi bod yn y gwariant ar gyfer y sector diwylliant eleni.
Ychwanegodd llefarydd: "Mae ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27 eisoes wedi'i chyhoeddi, gyda dros £33.5m o gyllid a dyraniad cyfalaf uwch ar gyfer y celfyddydau.
"Mi fydd y gyllideb derfynol yn cael ei chyhoeddi ar gyfer 2026-27 ym mis Ionawr.
"Yn ogystal â'r £8m a ddyrannwyd i 40 o sefydliadau celfyddydol eisoes eleni, yn gynharach yr wythnos hon cyhoeddwyd £2.5m pellach ar gyfer ein sector creadigol."