Priodas Pum Mil yn 10 oed

Trystan Ellis Morris ac Emma Walford sydd wedi bod yn cyflwyno'r gyfres ers y dechrau yn 2016
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy Dydd Santes Dwynwen y penwythnos hwn, dychmygwch geisio trefnu priodas gyfan am ddim ond £5,000.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae priodas ym Mhrydain yn costio ar gyfartaledd rhwng £20-24,000.
Mae'n her aruthrol felly ceisio cyflawni'r hyn sy'n ofynnol ar y gyfres Priodas Pum Mil, sef trefnu priodas ar gyllid o £5,000 neu lai.
Mae'r rhaglen erbyn hyn yn dathlu 10 mlynedd o fod ar y sgrîn fach ac mae'r cyflwynwyr - Trystan Ellis Morris ac Emma Walford wedi cael bod yn westeion arbennig ymhob un o'r 59 priodas sydd wedi bod hyd yma.
'Profiad gwych'
Dywedodd Trystan ar ei raglen fore Gwener gydag Emma: "Mae'n anodd credu fod 'na 10 mlynedd wedi mynd heibio, ac mi rydan ni'n chwilio am gyplau newydd ar gyfer cyfres rhif 10."
Ymateb Emma oedd fod y gyfres newydd yn mynd i fod yn "sbeshal".
Un cwpwl wnaeth ymddangos ar y rhaglen yn 2023 oedd Daniel Bell a'i wraig Sara Angharad o Ben-y-groes ger Caernarfon.
Fe benderfynon nhw deithio i Gretna Green er mwyn priodi.
Wrth drafod eu profiad ar y gyfres, dywedodd Sara wrth BBC Cymru Fyw:
"O'dd yr holl brofiad yn wych ac yn lot fawr iawn o hwyl.
"Naethon ni fwynhau bob eiliad o'r ffilmio, a'n teulu a'n ffrindia' ni hefyd. O'dd Trystan ac Emma, a'r criw i gyd yn bril.
"Gaethon ni 'chydig o sioc pan ddudodd nhw bod ni'n mynd i fyny i Gretna Green i briodi, ond nath hynny ychwanegu at yr hwyl.
"O'dd yr holl brofiad mor arbennig ac o'dd o'n ddiwrnod bythgofiadwy."

Fe wnaeth Daniel a Sara Bell ymddangos ar y rhaglen yn 2023 a phriodi yn Gretna Green
Cynhyrchydd y gyfres yw Dwynwen Wyn o gwmni Boom Cymru.
"Rydyn ni wedi priodi 59 o gyplau hyd yma ac yn chwilio am fwy ar gyfer y nesaf," meddai.
"Dwi'n cynhyrchu'r gyfres ers rhyw dair blynedd ac mae'r her o geisio trefnu priodas am £5,000 neu lai yn mynd yn fwy heriol i gymharu efo sut oedd pethau yn 2016."
Elfen bwysig o'r rhaglen yw'r cyfeillgarwch sy'n bodoli rhwng teulu a ffrindiau a weithiau mae cymuned gyfan yn dod at ei gilydd i sicrhau fod costau'r briodas yn aros yn llai na'r £5,000.
Meddai Dwynwen: "Mae'n gyfrifoldeb mawr arnon ni i geisio gwneud yn siŵr fod popeth yn mynd yn iawn ar y diwrnod achos dyma ddiwrnod priodas y cyplau, un o'r diwrnodau pwysicaf eu bywyd.
"Un o lwyddiannau'r gyfres ydi fod pobl yn tynnu at ei gilydd. Os ydi chwaer y briodferch yn nabod rhywun sy'n trefnu blodau yn lleol ac yn gallu gofyn am ffafr ac am flodau rhatach yna grêt.
"Mae hi wir yn bleser cael dod i adnabod y cyplau, eu teuluoedd a'u ffrindiau yn ystod y chwe diwrnod rydan ni'n dreulio hefo nhw yn ffilmio.

Roedd Dwynwen yn disgrifio cyfraniad allweddol Trystan ac Emma i'r gyfres
Mae'n amhosib trafod y gyfres heb sôn am gyfraniad y cyflwynwyr ers y cychwyn, Trystan ac Emma.
Dywedodd Dwynwen: "Mae Trystan ac Emma yn allweddol i'r gyfres. Mae eu perthynas nhw a'r cyfeillgarwch maen nhw wedi ei fagu yn anhygoel.
"Maen nhw efo'r un lefel o hiwmor ac maen nhw mor dda efo pobl. Mae'n sicr yn ychwanegu at y naws yna o bobl yn tynnu at ei gilydd i wireddu priodas arbennig ar gyfer ein cyplau."
Os oes diddordeb gan unrhyw un ymddangos ar y gyfres nesaf o Priodas Pum Mil yna ewch i'r wefan; www.priodas.cymru, dolen allanol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020
