Lluniau: Dawnsathon 24 awr Trystan ac Emma
- Cyhoeddwyd
Wedi 24 awr flinedig, mae Dawnsathon Trystan ac Emma ar ben!
Fe wnaeth y ddau ddechrau dawnsio am 11:00 fore dydd Iau, a gorffen ar ddiwedd eu rhaglen fore Gwener. Cafodd y cyfan ei ddarlledu'n fyw ar Radio Cymru, Radio Cymru 2 ac iPlayer.
Wrth i'r ddau ddawnsio, daeth digon o westeion i'r stiwdio i'w cefnogi.
Gallwch gefnogi'r her a rhoi arian i elusen BBC Plant mewn Angen yma, dolen allanol.
Llongyfarchiadau mawr Trystan ac Emma! Dyma rai uchafbwyntiau:
After an incredible 24 hours, Trystan and Emma have officially completed their Danceathon challenge!
They began dancing at 11:00am on Thursday and kept going until the end of their Friday morning programme. The whole event was broadcast live on Radio Cymru, Radio Cymru 2 and iPlayer.
Throughout the marathon, a stream of guests dropped into the studio to join in the fun and keep spirits high.
You can support the challenge and donate to BBC Children in Need here, dolen allanol.
Congratulations, Trystan and Emma! Here are some of the highlights:

Ymysg gwesteion cyntaf Dawnsathon Trystan ac Emma roedd criw o ddawnswyr gwych o Ysgol Hamadryad, Caerdydd / Among the first guests at Trystan and Emma's Danceathon were these fantastic dancers from Ysgol Hamadryad, Cardiff


Sabrina Lee o dîm tywydd BBC Cymru gyda Trystan brynhawn dydd Iau // Sabrina Lee from the BBC Wales weather team with Trystan on Thursday afternoon



Wrth i Ifan Evans gyflwyno ar BBC Radio Cymru brynhawn Iau, roedd awr arbennig o ddawnsio llinell yng nghwmni'r criw yma o Frynaman // While Ifan Evans was on air on Thursday afternoon, a lively hour of line dancing broke out — led by this brilliant crew from Brynaman.

Daeth Cordia hefyd i'r Dawnsathon yn ystod rhaglen Ifan Evans a pherfformio pedair cân yn fyw // Cordia also dropped into the Danceathon during Ifan Evans' show, performing four songs live

Criw o grŵp dawns cymunedol Jukebox Collective, Caerdydd // Members of the Jukebox Collective community dance group in Cardiff

Molly Palmer yn arwain y dawnsio brynhawn dydd Iau // Molly Palmer leading the dancing on Thursday afternoon

Am saith o'r gloch nos Iau, bu Huw Stephens yn cyflwyno'n fyw ar Radio Cymru // At seven o'clock on Thursday evening, Huw Stephens was broadcasting live on Radio Cymru

Un o uchafbwyntiau y Dawnsathon i Emma oedd ymweliad Non a Rachael, ei chyd-aelodau o grŵp Eden // One of Emma's personal highlights was a visit from Non and Rachael, her fellow members of the group Eden

A roedd digon o sbort i'w gael yn eu cwmni! // And there was plenty of fun to be had in their company!

Ac am 11 y nos, fe ymunodd Caryl Parry Jones â'r criw // And at 11pm, Caryl Parry Jones joined the crew

Am hanner nos, daeth Côr Ifor Bach i'r stiwdio i ddawnsio a chanu... // At midnight, Côr Ifor Bach arrived in the studio to dance and sing…

Ac fe wnaeth Emma ymuno yn y canu! // And Emma joined in with the singing!


Daeth perfformwyr drag i gefnogi Trystan ac Emma am un o'r gloch y bore // Drag performers arrived at 1am to show their support for Trystan and Emma.

Cadi a Cati, sydd hefyd yn aelodau o dîm cyflwyno Stwnsh ar S4C yn y stiwdio am 4 y bore gyda chriw o ffrindiau // S4C presenters Cadi and Cati dropped into the studio at 4am with a crew of friends


Daeth dau westai arbennig iawn i'r stiwdio am bump y bore! Roedd Cyw a Mr Urdd a'u cyfeillion yno i ddechrau dydd Gwener mewn steil. Chwe awr i fynd! // Two very special guests arrived in the studio at 5am! Cyw and Mr Urdd — along with their friends — kicked off Friday morning in style. Six hours to go!


Erbyn 6:30 roedd Trystan ac Emma wir wedi blino! Yn ffodus roedd digon o wynebau cyfeillgar gerllaw i godi'r ysbryd // By 6:30, Trystan and Emma were really feeling the fatigue — but thankfully there were plenty of friendly faces around to lift their spirits.

Am wyth y bore daeth Jac Northfield a Sion Tomos Owen i gadw cwmni, a cafodd y ddau eu herio i dynnu llun o Trystan ac Emma. Er gwaethaf ymdrech Jac, teg dweud mai gwaith Sion wnaeth argraff fawr... // At eight o'clock, Jac Northfield and Siôn Tomos Owen dropped by, and the pair were challenged to draw portraits of Trystan and Emma. Despite Jac's best efforts, it's fair to say Siôn's masterpiece stole the show…

Wrth i ddiwedd yr her agosau, daeth Rhys Gwynfor a Lisa Angharad i'r stiwdio i berfformio dwy gân yn fyw // As the challenge neared its end, Rhys Gwynfor and Lisa Angharad came into the studio to perform live
Trystan ac Emma'n cwblhau'r Dawnsathon

