'Doedd neb yn gwrando' - profiad merch o Wynedd o ganser gynaecolegol

Enlli ThompsonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

'Mae angen mwy o addysg ar feddygon teulu,' medd Enlli Thompson o Ddyffryn Nantlle

  • Cyhoeddwyd

Ddwy flynedd ar ôl i adroddiad pwysig gan y Senedd alw am welliannau brys mae menywod yng Nghymru yn dal i deimlo nad yw eu lleisiau'n cael eu clywed mewn gofal canser gynaecolegol.

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni nifer o'u hymrwymiadau - ac maen nhw'n dweud bod yr ymateb wedi bod yn araf ac yn annigonol.

Un sydd wedi dioddef o ganser ar yr ofari yw Enlli Thompson o Ddyffryn Nantlle ac wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd bod angen mwy o addysg ar feddygon teulu.

"Am fisoedd roeddwn i'n mynd nôl a 'mlaen- 'nathon nhw ddim gyrru fi am unrhyw fath o brofion.

"Dwi'm yn gwybod os mai fy oed i oedd o ond nath neb wrando arna i.

"Os bydden i heb ofyn am ail farn gan ddoctor fwy 'senior' falle bydden i ddim yma heddiw."

Wrth ateb cwestiwn am y gwelliannau y byddai hi yn dymuno eu gweld, dywedodd: "Unwaith bues i gyda'r tim oncoleg roedd popeth yn iawn ond mae rhwbath angen newid o ran yr ochr GPs.

"Mae angen hyfforddiant a sensitifrwydd ac mae angen iddyn nhw wrando ar ferched dim ots faint oed ydan nhw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i weithio gyda'r GIG i wella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth amserol i fenywod sydd â chanser gynaecolegol".

41% o gleifion yn dechrau triniaeth mewn pryd

Canfu adroddiad Pwyllgor Iechyd y Senedd fod methiant wedi bod i gyflawni nifer o argymhellion a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2023 fel rhan o adroddiad nodedig a ddatgelodd "fethiannau critigol" mewn gofal canser gynaecolegol.

Mae'n dweud fod y rhan fwyaf o argymhellion y Pwyllgor yn 2023 wedi'u derbyn, ond nad yw Llywodraeth Cymru wedi dyrannu cyllid penodol ar gyfer gwasanaethau canser gynaecolegol nac wedi cyhoeddi targedau mesuradwy'r GIG ar gyfer gwella canlyniadau canser gynaecolegol.

Fe wnaethon nhw hefyd ganfod bod Cymru wedi methu mynd i'r afael ag amseroedd aros, sydd ymhlith y gwaethaf o'r holl fathau o ganser, gyda dim ond 41% o gleifion yn dechrau triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod ym mis Hydref 2025.

Mae'r Pwyllgor yn galw am gamau brys, gan gynnwys:

  • dyrannu buddsoddiad wedi'i dargedu at wasanaethau canser gynaecolegol;

  • targedau clir a mesuradwy ar gyfer perfformiad GIG Cymru, a mesurau i ddwyn Byrddau Iechyd i gyfrif pan na fodlonir targedau;

  • mwy o welededd ar gyfer canserau gynaecolegol o fewn cynlluniau gwella canser;

  • adrodd chwarterol gorfodol ar amseroedd aros a chynnydd.

Dywedodd Peter Fox AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd: "Y tu ôl i bob ystadegyn, mae menywod a theuluoedd y mae eu bywydau'n dibynnu ar ddiagnosis a thriniaeth amserol.

"Pan gyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2023, dywedodd y cadeirydd bryd hynny fod yr ymchwiliad wedi bod ymysg y mwyaf emosiynol iddo fod yn rhan ohonynt.

"Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae'n annerbyniol bod cyn lleied o gynnydd wedi cael ei wneud.

"Os yw canser gynaecolegol yn flaenoriaeth go iawn, rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos hynny drwy gamau gweithredu amlwg, cyllid penodol, ac atebolrwydd clir."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i weithio gyda'r GIG i wella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth amserol i fenywod sydd â chanser gynaecolegol".

"Rydyn ni wedi gwneud newidiadau i gefnogi cyfeiriadau cynharach ac rydyn ni'n buddsoddi mewn offer a thriniaethau newydd i wella canlyniadau i fenywod", ychwanegodd y llefarydd.

"Nid yw'r perfformiad presennol yn erbyn y targed 62 diwrnod yn ddigon da ac mae'n rhaid gwella."

Mae modd clywed mwy am brofiad Enlli Thompson ar BBC Sounds

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig