Maxine Hughes 'wedi bod yn lwcus iawn' gyda'i thriniaeth canser

Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maxine Hughes yn "teimlo'n lwcus iawn" bod y driniaeth canser wedi cael gwared â'r tiwmor

  • Cyhoeddwyd

Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol i'r newyddiadurwr Maxine Hughes wrth iddi gael triniaeth ar ôl diagnosis canser.

Ond yn siarad ar raglen Dros Frecwast ddydd Llun, dywedodd ei bod yn "lwcus iawn dros ben" fod y driniaeth cemotherapi wedi llwyddo i gael gwared â'r tiwmor.

"Ges i lot o cemotherapi ac ar ôl y llawdriniaeth, ges i double masectomi ym mis Awst," meddai.

"Dwi'n gorfod gobeithio fod y canser ddim yn dod nôl... ma' gen i fwy o lawdriniaeth yn y flwyddyn newydd, ond ar ôl popeth, dwi'n teimlo'n lwcus."

'Rŵan dwi'n dechrau prosesu'

Mae Maxine yn newyddiadurwr yn Washington DC, ac wedi gohebu ar nifer o straeon sy'n ymwneud â'r Unol Daleithiau.

Dywedodd fod ei gwaith yn bwysig iddi yn ystod ei thriniaeth, ac er y blinder a'r teimlo'n sâl, yn ffordd i'w "chadw yn brysur".

"Oedd y gwaith yn cadw fi fynd drwy'r canser.

"Dwi'n cymryd gymaint allan o 'ngwaith, yn enwedig o siarad efo cymaint o bobl, clywed storïau pobl, gohebu ar y straeon 'ma ar gyfer y gynulleidfa nôl yng Nghymru yn y Gymraeg.

"Oedd o be' o'n i angen, oedd o'n cadw fi fynd, felly nes i benderfynu cadw'r newyddion am y canser i fi fy hun tan ddiwedd y driniaeth.

"Dwi'n meddwl gyda canser yn gyffredinol, mae'n bwysig i gadw'n brysur iawn.

"O'n i'n ceisio 'neud lot o ymarfer corff, ceisio gweithio lot ac roedd y driniaeth yn mynd yn gyflym ac yn rhoi cryfder i wthio fi i gario 'mlaen mynd, felly, oedd o'n bwysig iawn i fi y ffordd nes i, fel o'n i'n delio efo'r driniaeth."

Ychwanegodd: "Rŵan dwi'n dechrau prosesu be' sydd wedi digwydd a'r teimladau, emosiynau i gyd, ac mae'n cymryd lot fawr o amser i'r corff wella o driniaeth fawr fel cemotherapi a'r masectomi."

Maxine HughesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Maxine ei derbyn i'r Orsedd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam fis Awst

Mae Maxine Hughes yn enw cyfarwydd yn Wrecsam yn sgil ei gwaith fel cyfieithydd i sêr Hollywood a pherchnogion y clwb pêl-droed - Ryan Reynolds a Rob Mac (McElhenney).

Eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam fis Awst, fe gafodd Maxine ei hurddo i'r Orsedd.

"Oedd yr Eisteddfod falle yr unig wythnos eleni, pan o'n i'n teimlo'n hapus mewn ffordd - rili hapus, achos dwi wedi bod trwy gymaint, ac o'r dechrau tan y diwrnod ola', o'n i bron wedi anghofio popeth am y canser," meddai.

"O'n i'n mwynhau gymaint, oedd o'n anhygoel i fod o gwmpas pawb o Gymru, a'r gefnogaeth nes i deimlo a'r profiad o fod yna."

Ychwanegodd: "Oedd gymaint o deulu, ffrindiau wedi dod yna o dros y byd, ac yn amlwg oedd o'n anrhydedd i gael fy urddo ac i deimlo be' o'n i'n teimlo y diwrnod yna.

"Diwrnod gorau fy mywyd yn bendant, ac oedd o'n teimlo yn gymaint fwy arbennig fod yr wythnos yma'n digwydd yng nghanol blwyddyn mor anodd."

Diolch am y gefnogaeth

Mae Maxine yn dweud fod y negeseuon o gefnogaeth wedi bod yn bwysig iddi yn ystod ei thriniaeth, ac mae hi "mor ddiolchgar i bobl Cymru".

"Mae 'na gymaint o negeseuon caredig dwi wedi eu cael a pobl wedi ymestyn allan o bob rhan o Gymru ac yn gobeithio mod i'n gwella," meddai.

"Dwi wedi teimlo fod pethau lot mwy hawdd oherwydd fod pobl Cymru tu ôl i fi.

"Nawr dwi'n teimlo fel mae 'na flwyddyn newydd yn dod, amser i neidio nôl mewn ac amser i edrych 'mlaen at y dyfodol - lot mwy o newyddion, a lot mwy o newyddion i ni yng Nghymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.