Profion DNA yn dal troseddwr rhyw wedi bron 30 mlynedd

Llun heddlu o Richard DowneyFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Richard Downey, 55, yn 26 oed pan ymosododd ar ferch 13 oed yn rhywiol

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei garcharu wedi i dystiolaeth fforensig ddangos ei fod yn gyfrifol am droseddau rhyw yn erbyn merch ysgol bron i 30 mlynedd yn ôl.

Cafodd Richard Downey o Gasnewydd ddedfryd o wyth mlynedd dan glo wedi i Lys y Goron y ddinas ei gael yn euog o gyhuddiadau o ymosod yn anweddus ac annog plentyn dan 16 oed i gyflawni gweithred o anwedduster dybryd (gross indecency).

Er i'r heddlu gasglu DNA adeg y troseddau, ym mis Medi 1997, doedd dim cysylltiad ag unrhyw un ar y bas data ar y pryd, ac yn niffyg tystion neu luniau CCTV doedd dim modd dal yr ymosodwr.

Ond pan gafodd Downey ei arestio mewn perthynas â mater hollol wahanol yn 2022, fe amlygodd y system bod ei DNA yn cyfateb i olion yr achos blaenorol ac roedd modd dwyn cyhuddiadau.

Dywedodd y dioddefwr, oedd yn 13 oed adeg yr ymosodiad, ei bod wedi ofni dros y blynyddoedd na fyddai'r troseddwr byth yn wynebu cyfiawnder a bod modd nawr iddi "symud ymlaen" gyda'i bywyd.

Llys y Goron Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron Casnewydd

Fe ymosododd Downey, oedd yn 26 oed ar y pryd, ar y ferch yn gynnar gyda'r nos wrth iddi gerdded ar lwybr dawel ger Y Coed Duon.

Gan ei bygwth gyda sgriwdreifer, fe ymosododd arni yn rhywiol, dinoethi ei hun a chyflawni gweithred rhywiol ar ei hun.

Llwyddodd y ferch i ddianc ac fe gafodd yr heddlu wybod am y digwyddiad yr un diwrnod.

Roedd tystiolaeth DNA ar ei dillad a'i hesgidiau ond doedd y samplau ddim yn cyfateb i unrhyw un ar fas data cenedlaethol yr heddlu ar y pryd.

Doedd dim lluniau CCTV na thystion, a gan nad oedd y dioddefwr yn adnabod yr ymosodwr, daeth yr ymchwiliad i stop am flynyddoedd.

Ond yna, pan gafodd Downey ei arestio ar fater arall yn 2022, fe gymrodd swyddogion heddlu samplau DNA ganddo a wnaeth ddangos eu bod yn cyfateb i broffil y sawl oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn 1997.

'Tynnu llinell dan y digwyddiad'

Mewn datganiad i'r llys, dywedodd y dioddefwr bod yr ymosodiad "a barodd am ychydig funudau" wedi effeithio arni "am oes".

"Er bod atgyfodi'r achos yn 2022 wedi bod yn llawn straen, rwy'n falch ei fod nawr ar ben ac rwy' wedi cael rhyw fath o ddiweddglo," meddai.

"Wnes i erioed feddwl y byddai fy ymosodwr yn dod o flaen ei well, ac nawr ei fod e, gallaf dynnu llinell o dan y digwyddiad yma a symud ymlaen gyda fy mywyd, gan wybod bod y cyfan drosodd a'i fod wedi cael ei ddwyn i gyfri."

Gobaith arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Gwnstabl Lauren Griffin, yw bod yr achos yn "anfon neges rymus i unrhyw un sydd wedi cyflawni trosedd rhyw sydd heb ei datrys".

Oherwydd datblygiadau technolegol, meddai, "mater o amser yw hi nes y bydd rhywun yn curo ar eich drws".

Ychwanegodd: "Am bron i dri degawd, mae'r dioddefwr yn yr achos yma wedi gorfod byw gyda'r ffaith bod y dyn a ymosododd arni yn anhysbys ac yn dal, o bosib, mas yna.

"Diolch i'w dewrder a'i phenderfynoldeb, mae e nawr, yn briodol, dan glo."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.