Torfeydd, golygfeydd a niwl: Profiadau o'r Wyddfa sy'n pontio 200 mlynedd

Cyrraedd y copa - darlun mewn llyfr ymwelwyr o 1849, a ffotograff cyfoes
- Cyhoeddwyd
Mae'n brofiad digalon i unrhyw un sy'n dringo'r Wyddfa - cyrraedd y copa a gweld dim byd ond niwl. Ond efallai byddai'n rhywfaint o gysur o wybod bod hyn yn brofiad cyffredin ers dwy ganrif fel mae nodiadau gan ymwelwyr o Oes Fictoria yn ei brofi.
Bron i 200 mlynedd yn ôl roedd llyfrau ymwelwyr yn cael eu cadw yn y cytiau ar gopa'r Wyddfa ac yng Ngwesty'r Fictoria, Llanberis.
Ynddyn nhw roedd y twristiaid cynnar yn sgwennu am ddringo mynydd uchaf Cymru, gan ychwanegu darluniau, cerddi a defnyddio hiwmor i gyfleu eu profiad.
Mae academyddion wedi ymchwilio i'r llyfrau a chreu arddangosfa sy'n gosod profiadau hanesyddol ochr yn ochr gyda phrofiadau mwy diweddar.
Mae rhai dyfyniadau o'r llyfrau wedi ysbrydoli ffotograffau cyfoes o brofiadau tebyg heddiw.

Yn yr arddangosfa mae'r ffotograff cyfoes yma wedi ei osod ger dyfyniad o 1889 gan Charlie D Hage, o Southport: "ascended Snowdon in 5 hours from Beddgelert. Lost our way on the way to Llanberis. 'We missed the view but viewed the mist' (Shakespeare)"
Er bod nifer fawr o bethau wedi newid dros y degawdau mae gwirioni efo'r golygfeydd, a theimlo rhwystredigaeth pan fo'r tywydd yn troi yn themâu cyson.
I gyd-fynd efo'r cyfan, yn ddiweddar cyhoeddwyd llyfr barddoniaeth gan blant yr ardal sy'n son am eu profiad nhw o'r mynydd.

Rhan o lyfr ymwelwyr oedd yng ngwesty'r Fictoria. Ar y chwith mae llun tri pherson yn cerdded i'r copa, ac ar y dde darlun o un o'r golygfeydd ar y copa - niwl 1848
Mae'r Wyddfa wedi denu pobl ers canrifoedd gyda'r disgrifiadau cynharaf o ddringo'r mynydd yn dod gan fotanegwyr, a'r cofnod cyntaf gan Thomas Johnson yn 1639.
Bryd hynny, planhigion prin oedd yn cael eu casglu o'r llethrau a hynny gyda help y bobl leol.
Fe ddaeth cerdded i gopa'r mynydd yn fwy ffasiynol ymysg pobl ariannog Oes Fictoria oedd yn talu nifer o dywyswyr lleol.
Fe ddechreuwyd prosiect Olrhain Olion gan academyddion o Brifysgol Gaer.
Roedd eu hymchwil o lyfrau ymwelwyr Oes Fictoria sy'n cael eu cadw yn adran archifau a chasgliadau arbennig Prifysgol Bangor yn dangos beth oedd eu profiad o'r mynydd.

Darlun ar y chwith o ddyn yn mwynhau'r olygfa gyda'r geiriau 'View from the Snowdon is a must', ac ar y dde yr ardal o dan olau'r lloer
Er enghraifft mae un ymwelydd wedi creu darlun o'i olygfa o'r copa - gan ddangos dim byd ond niwl, tra bod un arall wedi ei gyfareddu gyda'r olygfa o dan olau lloer ar noson glir.
Mae eraill yn sôn am brysurdeb y mynydd - profiad arall sy'n gyffredin iawn erbyn heddiw.
Mae'r tîm academic, sy'n cael ei arwain gan Dr Daniel Bos, Dr Cian Quayle a Dr Alan Summers, yn cyd-weithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri. Mae arddangosfa Olrhain Olion: Y Gorffennol, y Presennol a Dyfodol Yr Wyddfa ar hyn o bryd i'w gweld yng Nghanolfan Groeso Betws-y-Coed.

Ffotograff cyfoes o'r olygfa o'r copa, sy'n cyd-fynd gyda dyfyniad o 1845 gan Josiah Forster o Sheffield: "Spent 2 days and nights at the top of Snowdon in the hut of John Roberts... Aven Watkins a very intelligent guide, is a man well acquainted with the surrounding country and with his assistance, was enabled to see at intervals the following places: Holyhead, Anglesea, Isle of Man, Irish Sea, Cardigan Bay, St George Channel, Carnarvon Bay, Cader Idris, The Hills of Scotland"
Meddai Ioan Gwilym, o'r Parc, ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru: "Mae'r [academyddion] wedi dod i afael ar saith o lyfrau llofnodi rhwng 1845-1889 o ymwelwyr i'r mynydd bryd hynny ac mae o reit syfrdanol.
"Mae lot o'r pethau maen nhw'n sgwennu yn y llyfrau yma yn dal i fod yn berthnasol hyd heddiw. Mae 'na un yn cofnodi 'peidiwch â dod i weld y wawr yn torri ar fore Sadwrn os yda chi'n hoff o dawelwch… cysgu yma a cael fy neffro am 2.30 y bore gan dorf'.
"'Da'n ni'n meddwl bod y rhain yn broblemau newydd heddiw ond maen nhw'n bodoli ers y cyfnod yna."

Y copa ar 4 Awst 1849
Mae elfennau o'r prosiect eisoes wedi cael eu harddangos yng Nghaer ac fel posteri yng Nghei Cona cyn symud i bentref Betws-y-Coed.
Fel rhan o'r prosiect Olrhain Olion mae cyfrol o gerddi wedi ei gyhoeddi o gerddi mae disgyblion ysgolion cynradd Capel Garmon, Betws-y-Coed, a Dolwyddelan wedi eu creu am eu profiad nhw o'r mynydd sy'n eu cynefin.
Meddai'r bardd Casia William, oedd yn rhoi cymorth i'r plant gyda llyfr Yr Wyddfa: Olrhain Olion – Dwi'n Cofio..: "Mae'n gofnod o'u perthynas nhw efo'r mynydd mawr yma sy'n rhan mor arferol rhywsut o'u bywyd nhw o ddydd i ddydd.
"'Da ni'n gweld bod o'n perthyn iddyn nhw, y genhedlaeth nesa, lawn gymaint ac mae o'n perthyn i'r holl ymwelwyr sy'n teithio draw yma."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr

- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023

