Traddodiadau'r Flwyddyn Newydd: O'r Calennig i'r Fari Lwyd

Calennig
  • Cyhoeddwyd

Wrth i Gymru groesawu'r flwyddyn newydd, mae'n gyfnod sy'n llawn hanes, traddodiadau a chymeriadau unigryw.

Er bod y rhan fwyaf ohonom bellach yn dathlu ar 1 Ionawr, roedd pethau'n wahanol cyn 1752, pan oedd Hen Galan ar 13 Ionawr yn rhan bwysig o'r calendr.

Hyd heddiw, mae cymunedau fel Cwm Gwaun yn Sir Benfro yn dal i gadw'r ddwy ŵyl.

Ar ddechrau'r drydedd cyfres o'r podlediad Hanes Mawr Cymru, Llinos Mai sy'n edrych ar arferion gwahanol y flwyddyn newydd yng Nghymru.

Disgrifiad,

Mari Lwyd yn ymweld â chartref teulu yn Llangynwyd

Un o'r arferion mwyaf adnabyddus yw Hel Calennig.

Ar fore dydd Calan, byddai plant yn mynd o dŷ i dŷ yn canu pennill er mwyn derbyn "calennig" – anrhegion bach fel bwyd, arian neu losin.

Roeddent yn cario afal arbennig ar dri choes pren, gyda dail bytholwyrdd ac almwnd yn y canol – symbol o lwc dda.

Ond nid calennig yn unig oedd yn nodi'r diwrnod. Roedd ofergoelion yn rhan annatod o'r dathliadau.

Credid fod y person cyntaf i groesi trothwy'r tŷ ar ddydd Calan yn gallu dod â lwc neu anlwc.

Dyn â gwallt tywyll, yn cario bara, glo ac arian, oedd y ddelfryd – ond peidiwch â gadael i rywun â gwallt coch ddod i mewn!

Cludo dŵr a'r Fari Lwyd

Yn ogystal â hynny, roedd arfer o gludo dŵr – grwpiau o fechgyn yn dod â dŵr o'r ffynnon i'r tŷ, gan ei wasgaru ar ddwylo ac wynebau'r teulu wrth adrodd pennill.

Roedd hyn i sicrhau purdeb a lwc am y flwyddyn i ddod.

Yna daw'r traddodiad mwyaf eiconig: Y Fari Lwyd. Yn ystod y gaeaf, byddai criw yn cario penglog ceffyl wedi'i addurno â rhubanau a'i osod ar bolyn, wedi'i orchuddio â lliain gwyn.

Byddai'r criw yn mynd o dŷ i dŷ, yn canu penillion ac yn cymryd rhan mewn 'pwnco' – gornest farddol rhwng y criw a thrigolion y tŷ.

Er bod y traddodiad wedi pylu am gyfnod, mae'n cael ei adfywio heddiw mewn sawl ardal, gan gadw'r hud a'r hiwmor yn fyw.

Er bod rhai o'r arferion hyn yn swnio'n od neu'n frawychus, maent yn rhan o drysor diwylliannol Cymru – rhywbeth i'w ddathlu a'i gadw'n fyw.

Felly, y tro nesaf y clywch gnoc ar y drws ar 1 Ionawr, cofiwch: efallai mai'r Fari Lwyd sy'n galw!

Blwyddyn Newydd dda i chi!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: