Sêr chwaraeon ac arwyr cymunedol o Gymru i gael eu hanrhydeddu

Meg Jones, Gabby Logan a Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, BBC/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o Gymry adnabyddus wedi eu cynnwys ar y rhestr gan gynnwys Meg Jones, Gabby Logan a Jonathan Davies

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies, y cyflwynydd chwaraeon Gabby Logan a Megan Jones, enillodd Gwpan Rygbi'r Byd gyda thîm Lloegr eleni, ymhlith y Cymry i dderbyn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Dywedodd Jonathan Davies ei fod yn "falch iawn" ar ôl derbyn CBE am ei waith gyda Chanolfan Ganser Felindre, yn ogystal â'i gyfraniad i ddarlledu.

"Mae'n neis i ennill e o ran y gwaith ar y teledu, yn enwedig gan bo' fi wedi gwneud y ddwy gêm - cynghrair a'r undeb," meddai.

"Ond be sy'n bwysicach yw'r elusen ganser - a hwnna, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth i lot o bobl, a helpu mas Ysbyty Felindre gyda'r gweithwyr a'r gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud - a sai'n credu bod pobl yn deall ac yn parchu nhw nes bod nhw yn anffodus yn gorfod mynd yno."

Fe dderbyniodd MBE a'r OBE yn y gorffennol, ac mae bellach yn derbyn anrhydedd uwch y CBE.

Ac yntau'n llywydd Canolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd, mae'n pwysleisio bod yr anrhydedd i bawb sy'n gweithio ar ran yr elusen, gan ddweud ei fod "yn wych i just fod yn part o' fe".

Ffion Mitchell-Langford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Mitchell-Langford yn cael ei chydnabod am ei gwaith amgylcheddol

Mae 70 o Gymry yn derbyn anrhydedd eleni, gyda nifer yn cael eu cydnabod am eu gwaith yn eu cymunedau.

Mae Ffion Mitchell-Langford o'r Waun ger Wrecsam yn derbyn BEM am ei gwaith yn hybu'r amgylchedd.

Bu Ms Mitchell-Langford yn arwain prosiect 'Hiraeth yn y Môr' ar arfordir y gogledd-ddwyrain.

"Mae'n meddwl y byd i fi fel rhywun ifanc sydd yn dod o Gymru, a rhywun sydd, dwi'n gobeithio, yn gweithio'n galed ar draws yr ardal i gefnogi'r problemau mae'r amgylchedd yn eu cael."

Gareth Morgans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Morgans yn derbyn MBE am ei gyfraniad i fyd addysg

Bu Gareth Morgans o Abergwili ger Caerfyrddin yn gweithio ym myd addysg am flynyddoedd. Roedd yn gyfarwyddwr addysg a gwasanaethau plant yn Sir Gaerfyrddin tan ei ymddeoliad.

Mae'n derbyn MBE am ei gyfraniad i fyd addysg ac am ei waith gydag elusen Dolen Cymru Lesotho.

"Dwi wedi bod yn gweithio gyda'r elusen ers dros 30 o flynyddoedd nawr, ac mae'n bwysig iawn i ni fel teulu hefyd," meddai.

"Dwi'n falch bod y gwaith dros yr elusen hefyd yn cael ei gydnabod, y gwaith dwi wedi'i wneud ym myd addysg, ond hefyd y gwaith fel un o ymddiriedolwyr yr elusen."

Jeff Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeff Edwards yn derbyn CBE am ei waith yn helpu dioddefwyr trychinebau

Mae Jeff Edwards o Aberfan, oedd yn un o'r disgyblion gafodd ei dynnu yn fyw o weddillion Ysgol Pantglas adeg y drychineb ym 1966, yn derbyn CBE am ei waith yn helpu dioddefwyr trychinebau.

Bu'n gweithio gyda phobl oedd yn rhan o drychinebau eraill fel Hillsborough, bom Arena Manceinion a thân Tŵr Grenfell i bwyso ar gyrff cyhoeddus i arwyddo siarter i ymrwymo i ddweud y gwir yn dilyn unrhyw drychineb yn y dyfodol.

"Ar ôl goroesi trychineb mae ganddoch chi lot o atgofion o'r hyn ddigwyddodd i chi ar y diwrnod hwnnw - dyna sydd gen i," esboniodd.

"Gobeithio trwy ddysgu o'n profiadau ni, fe allwn ni helpu gwasanaethau'r llywodraeth i wella'r ddarpariaeth i oroeswyr a theuluoedd y rhai sy'n cael eu lladd mewn trychinebau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.