5 o eiriau'r flwyddyn newydd

- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau blwyddyn newydd fel hyn, faint ohonon ni fydd yn creu 'addunedau', yn tynnu ein haddurniadau Nadolig ar ddydd 'ystwyll', ac yn gwrando ar ambell i garol 'Plygain'?
Ond ydych chi'n gwybod beth yw ystyr rhai o'r geiriau yma rydyn ni'n eu cysylltu â'r adeg yma o'r flwyddyn?
Yr Athro Ann Parry Owen, Golygydd Hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru, sydd â hanes anghyfarwydd (o bosib) rhai o'r geiriau cyfarwydd yma.
Calan

Daeth y gair 'calan' o'r Lladin calendae, sef yr enw gan y Rhufeiniaid am ddiwrnod cyntaf y mis, y diwrnod pan fyddai angen i bawb dalu eu dyledion. Y calendarium oedd yr enw ar y llyfr cownt, oedd yn rhestru'r misoedd, a dyna a roddodd y gair 'calendr' i ni (drwy'r Saesneg).
Yn y Gymraeg daeth calan yn air sefydlog am ddiwrnod cyntaf y mis (fel calan Mai, calan Hydref, a chalan pob mis arall hefyd ers talwm), a hefyd am ddiwrnod cyntaf cyfnodau gŵyl (calan Nadolig oedd enw dydd Nadolig, sef diwrnod cyntaf 12 diwrnod yr ŵyl), neu ddiwrnod cyntaf tymor (fel calan gaeaf am 1 Tachwedd, dechrau'r gaeaf).
Erbyn heddiw y calan amlycaf efallai yw calan Ionawr, sydd hefyd yn ddiwrnod cyntaf y flwyddyn newydd, yr amser pan fyddwn ni'n rhoi a derbyn 'calennig', sef rhodd dydd calan.
Hen Galan

Beth felly yw 'Hen Galan', a ddethlir o hyd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru o gwmpas 12 Ionawr (gan ddibynnu ar yr ardal)?
Mae'r ateb yn un cymhleth sy'n ymwneud â'r calendr. Yn 1752 mabwysiadwyd y calendr Gregoraidd ym Mhrydain, sef y calendr a ddefnyddiwn ni heddiw ac a gymeradwywyd gan y Pab Gregori XIII yn 1582. Cyn hynny defnyddid y calendr Iwlaidd, a sefydlodd Julius Caesar yn 46 C.C.
Gan fod y calendr Iwlaidd yn ddiffygiol yn ei allu i ymdrin â blynyddoedd naid, nid oedd y flwyddyn Iwlaidd, erbyn oes Gregori XIII, yn cyfateb yn gywir i'r tymhorau a chylchdro'r haul. Wrth addasu o'r naill galendr i'r llall, roedd yn rhaid 'colli' dyddiau o ddechrau'r flwyddyn, felly mae diwrnod cyntaf y flwyddyn yn y calendr Iwlaidd yn cyfateb erbyn heddiw i 14 Ionawr yn y calendr Gregoraidd.
Roedd rhai ardaloedd yn gyndyn iawn o newid o'r naill galendr i'r llall - a dyma'r ardaloedd a oedd yn dathlu'r 'Hen Galan'.
Ystwyll

Dethlir gŵyl 'ystwyll' ar 6 Ionawr: dyma'r diwrnod traddodiadol i dynnu'r addurniadau Nadolig i lawr, sef y diwrnod cyntaf ar ôl 12 diwrnod gŵyl y Nadolig a ddaeth i ben ar 5 Ionawr.
Daw'r gair ystwyll o'r Lladin stella sy'n golygu 'seren'. O ran ei ddefnydd yn y Gymraeg, mae'r gair ystwyll wastad yn cael ei ddefnyddio am yr ŵyl sy'n dathlu sut y cafodd Crist ei amlygu i'r doethion gan seren ('amlygiad' yw ystyr y gair cyfatebol epiphany yn Saesneg).
Plygain

Gair arall a gysylltwn â chyfnod y Nadolig a Chalan yw 'plygain', sef bellach y gwasanaethau cymunedol a geir mewn nifer o ardaloedd lle cenir carolau Cymraeg traddodiadol, yn aml yn ddigyfeiliant.
Fel y gair 'ystwyll', mae hwn eto'n tarddu o wasanaethau eglwysig cynnar, yn enw ar wasanaeth cyntaf y dydd, y matins, a gynhelid o gwmpas toriad gwawr.
Mae'r gair 'plygain', neu 'pylgain' yn wreiddiol, yn tarddu yn ôl pob tebyg o ryw ffurf Ladin fel pullicantio a olygai'n llythrennol 'caniad ceiliog'. Felly os yw rhywun yn codi'n 'blygeiniol' i fynd i'r gwaith, yna mae'n debygol iawn o weld y wawr yn torri!
Addunedau

Ar ddiwedd bob blwyddyn byddaf yn cael pleser o greu rhestr daclus o addunedau i mi fy hun, pethau a fydd, o'u cadw, yn trawsnewid fy mywyd er gwell. Ond rywsut mae'r un pethau'n ymddangos ar fy rhestr bob blwyddyn!
Yn ffodus i mi, ystyr sylfaenol y gair 'adduned' yw rhywbeth sy'n cael ei 'ddymuno' - yr un 'uno' sydd i'w weld yn 'adduno' ag sydd yn 'dymuno'.
Felly dyna yw fy esgus: pethau rwy'n dymuno eu newid yw'r pethau hyn ar fy rhestr, nid 'addewidion' a fyddai'n gofyn am ymrwymiad!
Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma yn 2021.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2020
