Dim coeden, tinsel na thwrci: Nadolig yn y Wladfa

Ana gyda'i haddurniadau Nadolig yn y tŷ te Cymreig a gwesty Plas y Coed mae hi'n ei redeg yn y Gaiman
- Cyhoeddwyd
Eisteddfodau, y Gymraeg, yfed te - tra bod 'na ddigon o bethau sy'n gyffredin rhwng Cymru a Phatagonia tydi'r Nadolig ddim yn un ohonyn nhw. Ond mae'n anodd cael naws yr ŵyl pan mae'r haul yn gynnes drwy'r dydd a ddim yn nosi tan 22:00.
Felly tra bod ei chyfeillion yng Nghymru yn brysur yn addurno'r tŷ ac yn gwario ar anrhegion lu, mae Ana Chiabrando Rees yn cael profiad gwahanol iawn yn y Gaiman.
Tydi hi erioed wedi treulio'r Nadolig yng Nghymru ond mae hi'n ymwybodol o'r traddodiadau.
"Mae'n haf yma felly mae hwnna'n gwneud gwahaniaeth yn llwyr ond hefyd 'da'n ni tipyn bach mwy hamddenol neu ffwrdd â ni yma," meddai Ana, sy'n Fardd y Mis ar BBC Radio Cymru drwy gydol Rhagfyr.
Tai yn llai ym Mhatagonia
"'Da ni wastad yn synnu yma bod y siopau yng Nghymru yn llawn pethau Nadolig tua mis Medi. Fan hyn mae pethau'n dechrau cael eu dangos yn y siopau ddiwedd Tachwedd, a dim ond mewn un rhan fach o'r siopau a dyna ni!
"Does dim addurniadau ar y strydoedd chwaith. Efallai bod rhai pethe bach ar y sgwâr, falle rhyw un seren.
"Mae 'na goed ar gael yn y siopau ond does neb llawer yn prynu nhw ar gyfer y Nadolig, ac mae pawb yn mynd am goed bach. Mae'r tai yma yn llai na thai Cymru felly does dim lle gan bobl i gael coeden."
Prin ydi'r goleuadau yn y stryd a thu allan i dai pobl hefyd - tydi'r apêl ddim yno gan nad ydi'n tywyllu tan yn hwyr.

Mae'n haf ym Mhatagonia ar hyn o bryd. Mae Ana yn diwtor Cymraeg i oedolion yn Nhrelew ac yn un o lywodraethwyr Cylch Cymraeg Trelew sy'n rhedeg Ysgol yr Hendre, Trelew
Er i Ana gael ei magu yn La Plata, ger Buenos Aires, mae ei gwreiddiau yn Nyffryn Camwy gan fod ei hen nain wedi mynd i fyw i'r Wladfa o Riwlas yn 1944. Dysgu Cymraeg fel oedolyn wnaeth Ana, ac mae wedi bod ar nifer o gyrsiau dros y blynyddoedd, a bellach wedi gwneud gradd yn y Gymraeg ar lein.
Yn y Gaiman mae hi'n rhedeg tŷ te Cymreig a gwesty, busnes sydd yn y teulu ers 81 o flynyddoedd, a dyma'r unig le fydd Ana yn ei addurno.
Meddai: "Fasa'n ormod peidio rhoi dim byd felly mae gen i Siôn Corn dwi'n rhoi mewn dau le ac un goeden wedi torri allan o bren ac wedi lliwio gyda draig yn y canol - dyna'r holl addurniadau sydd gen i ar gyfer y Nadolig."
Fel y rhan fwyaf o'r bobl mae hi'n eu hadnabod yn ei chymuned, dim ond diwrnod Dolig fydd hi'n ei gael i ffwrdd o'r gwaith. Ar noswyl Nadolig mae'r prif ddathlu yn digwydd, yn gyffredin gyda nifer o wledydd eraill ar draws y byd.
Bwyd Nadoligaidd y Wladfa
Mae'n dymor cig oen ac felly mae'n boblogaidd paratoi asado, sef oen wedi ei goginio o flaen tân agored tu allan.
"Fyddwn ni hefyd yn cael salads, ac fel swiss roll... dwi'm yn siŵr o'r enw Cymraeg ond roll gyda chaws, ham, a thomato... a dim twrci!
"Wedyn hufen iâ, ac mae'n dymor ceirios fan hyn felly mae llawer o geirios.
"Rydw i'n cofio pan oeddwn i'n blentyn roedd Mam yn 'neud twrci ambell waith oherwydd cysylltiad efo Cymru ac un o'r pethau oedd ar gael i bwdin oedd teisen ddu - un arbennig o fan hyn sy'n gymysg o fara brith a phwdin Nadolig."
Yn wahanol i Gymru does 'na ddim gwario mawr ar anrhegion, dim ond i deulu agos, yn rhannol oherwydd yr economi.
Ac os ydi hynny'n swnio'n llai o ruthr a phwysau na'r Nadolig yng Nghymru, mae'r dydd ei hun yn gyfle i ymlacio hefyd yn ôl Ana.
Meddai: "Ar 25 Rhagfyr mae rhai pobl yn cwrdd gyda'r teuluoedd i fwyta gweddillion y diwrnod cynt neu fynd i'r traeth.
"Mae'r traeth yma yn llawn pobl yn treulio'r diwrnod dan yr haul ac yn gwneud y mwya' o'r tywydd braf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd31 Mai 2025

- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd25 Medi 2025
