Ateb y Carw: Llŷr Evans

  • Cyhoeddwyd

Mae'n fis y Nadolig, ac mae 'na garw wedi cyrraedd pencadlys Cymru Fyw a chymryd gofal o gwestiynau Ateb y Galw! Yr actor Llŷr Evans gafodd ei holi gan y carw am ei hoff bethau dros ŵyl y Nadolig.

Llŷr EvansFfynhonnell y llun, S4C

Beth yw dy atgof cyntaf o'r Nadolig?

Ofn Siôn Corn drwy'n nhin ac allan pan ddoth o i'r ysgol feithrin yng nghanolfan St Johns yn Rhuthun.

Beth yw dy hoff le i dreulio'r Nadolig yng Nghymru a pham?

Lle ddim yn bwysig, cyn belled bod fi efo'n nheulu ac ymysg ffrindiau.

Beth yw'r nos calan orau i ti ei chael erioed?

Ar ddiwedd y 1980au, sgwâr Rhuthun oedd y lle i fod ar nos calan. Ar y dôl, skint, a dim cyfrifoldebau, a llond lle o bobl yn dathlu - hyfryd.

Disgrifia dy Nadolig perffaith mewn tri gair.

Terry's Chocolate Orange

Pa draddodiad Nadoligaidd wyt ti'n ei fwynhau fwyaf?

Terry's Chocolate Orange

Pa ddigwyddiad Nadoligaidd yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl amdano?

Beth sy'n rhoi gwên ar fy ngwyneb pob Dolig yw Panto da.

A'r un gorau o bell ffordd ydy Rock 'n' Roll Panto Theatr Clwyd. Cast o actorion gwych sydd hefyd yn gerddorion medrus, a phob blwyddyn ers dros ugain mlynedd y dame ydy Phyl Harries, a mae o'n arwain y sioe yn gelfydd a wedi meistroli yr union beth sydd angen i fod yn dame dda.

Cinderella ydy panto eleni, yn cynnwys caneuon Dolly Parton, Pulp, Queen a Barry White, i gyd wedi'i gyfarwyddo'n briliant gan Dan Lloyd.

Gadel y theatr pob blwyddyn â gwên mawr ar fy ngwyneb ac yn barod am yr artaith - sori yr hwyl - sydd i ddod dros yr wythnosau nesaf. Cerwch, cerwch, cerwch.

Phyl Harries a Rhianna Goodwin yn Cinderella, panto Theatr ClwydFfynhonnell y llun, Theatr Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Phyl Harries a Rhianna Goodwin yn Cinderella. Bydd Llŷr yn mwynhau panto Theatr Clwyd yn flynyddol

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnat ti erioed mewn cyngerdd Nadolig?

Llawer rhy broffesiynol i ddifetha cyngerdd Dolig, ond ma' gen i atgof o fy mrawd a Dafydd Iwan (dim yr un yna) yn deffro'r meirw yn mynwent eglwys Llanelidan efo'u dehongliad aflafar o Little Drummer Boy ar y trwmped.

Beth wyt ti wedi'i wneud eleni i fod ar y rhestr da neu ddrwg?

Erioed 'di bod ar y rhestr drwg.

Ma gen i raglen dwi 'di sgwennu, Llyr Ifans Allan o Sync…Dolig, sy'n cael ei darlledu noson Nadolig ar S4C; rhaglen ddychanol sy'n edrych ar fy nhrafferthion i efo'r frwydr i gael y Dolig perffaith.

Gobeithio 'neith hwn rhoi gwên ar wyneb pawb, a rhoi fi ar ben y rhestr da.

Llyr Ifans a Lisa GwilymFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Llyr Ifans Allan o Sync - rhaglen arbennig fydd ar S4C dros yr ŵyl

Beth yw dy hoff ffilm i'w gwylio dros gyfnod y Nadolig?

Ti fod i ddeud It's a Wonderful Life, ond dwi 'rioed 'di weld o er bod fi 'di deud bod fi wedi ambell waith.

I fi Trading Places - 1980's classic efo Eddie Murphy a Dan Akroyd – ydi'r film Dolig orau. Er 'nes i wylio Home Alone efo cerddorfa yn yr Albert Hall Dolig dwytha; uchafbwynt penwythnos nadoligaidd yn Llunden.

Llyr gyda'i fab JacobFfynhonnell y llun, Llyr Evans
Disgrifiad o’r llun,

Llyr gyda'i fab, Jacob, yn yr Albert Hall y llynedd

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n rhannu mins pei a sheri a pham?

Dau dad sydd bellach ddim efo ni.

Faswn i hefyd yn hoffi sheri a mins pei efo Mari Lovgreen. Fuodd y wraig a fi draw yn recordio'r podlediad Ding Dong yn ei thŷ hi yn ddiweddar. Croeso bendigedig, ond mond paned a dim cacen.

Yn lwcus i ni, o'n i 'di 'neud cacen i fynd efo ni, ond ddudodd Mari bod cacen fi'n hynod ddiflas; gutted, ges i'n siomi gan frenhines ein hamaeth!

Llyr, Mari, Lisa
Disgrifiad o’r llun,

Llŷr a'i wraig, Lisa, gyda Mari Lovgreen yn recordio'u podlediad Ding Dong

Beth yw'r anrheg Nadolig orau i ti ei chael erioed?

Fe anwyd fy annwyl fab wythnos cyn y Dolig, felly yr anrheg Dolig gorau ges i 'rioed, a ga' i fyth, ydi Jacob Evans, Nadolig 2013. Diolch Lisa.

Taset ti'n cael rhoi unrhyw anrheg i unrhyw un, beth fyddai o?

Cacen o werth i Mari Lovgreen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb