Carchar am oes i ddyn 34 oed o Sir Benfro am ymosod yn rhywiol ar fabi

Bydd rhaid i Christopher Phillips dreulio isafswm o 16 mlynedd a 25 diwrnod dan glo
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Mae dyn 34 oed wedi cael ei garcharu am oes am gam-drin babi yn rhywiol.
Cafwyd Christopher Phillips o Sir Benfro yn euog o ddau gyhuddiad o ymosodiad rhywiol drwy dreiddiad, ymosodiad yn achosi niwed corfforol gwirioneddol a dau gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol.
Fe ddaw hyn yn dilyn achos tair wythnos o hyd yn Llys y Goron Abertawe.
Clywodd y llys fod Phillips wedi cwrdd â mam y plentyn drwy ap canfod cymar yn 2020 ac wedi cyfarfod y plentyn pan yr oedd ond yn fis oed.
Wrth gyhoeddi'r ddedfryd, dywedodd y barnwr fod troseddau Phillips "yn plymio i ddyfnderoedd llygredigaeth rywiol".
'Hunllef fwyaf unrhyw riant'
Dywedodd Caroline Rees KC ar ran yr erlyniad fod anafiadau'r babi yn "gatastroffig" a'i fod wedi derbyn morffin - rhywbeth sy'n anarferol iawn mewn achosion yn ymwneud â babi.
Clywodd y llys fod y babi rhwng saith ac wyth wythnos oed pan gafodd ei anafu, a bod Phillips dan ddylanwad sawl sylwedd ar y pryd.
Roedd anafiadau'r babi yn cynnwys gwaedu ar yr ymennydd ac asennau wedi torri.
Dywedodd nain y plentyn mewn datganiad dioddefwr fod yr achos "wedi dod ag arswyd a dinistr i fywydau'r teulu".
"Dyma'r math o beth rydych chi'n ei glywed ar y newyddion ac mae'n ddigon i droi eich stumog... hunllef fwyaf unrhyw riant yw darganfod bod eich babi wedi cael ei ymosod arno'n rhywiol - mae'n erchyll."
Clywodd y llys ddatganiad gan dad y plentyn a ddywedodd fod clywed am yr anafiadau wedi "ei chwalu yn llwyr" a bod Phillips - rhywun yr oedd o erioed wedi ei gyfarfod - wedi ceisio rhoi'r bai arno fo.

Dywedodd y barnwr yn yr achos yn Llys y Goron Abertawe mai dyma'r "achos mwyaf gofidus" iddo ei weld yn ystod ei yrfa
Dywedodd y barnwr Paul Thomas KC: "Dyma'r achos mwyaf gofidus i mi ei weld yn ystod fy ngyrfa o dros 40 mlynedd.
"Mae'r hyn wnes di i'r babi yna yn plymio i ddyfnderoedd llygredigaeth rywiol.
"Roedd asennau'r babi wedi torri, roedd ganddo waedu ar yr ymennydd - anafiadau fel petai wedi ei daro gan fws.
"Mae'n amhosib amgyffred y boen gafodd ei achosi i'r babi bach yna, a byddai'r boen yna wedi bod yn gwbl amlwg i ti pan wnes di eu hachosi... wnes di barhau gan dy fod yn derbyn mwynhad sadistaidd ohono."
Cafodd Phillips ei ddedfrydu i oes yn y carchar a bydd yn rhaid iddo dreulio isafswm o 16 mlynedd a 25 diwrnod yno ond rhybuddiodd y barnwr y gallai dreulio weddill ei oes dan glo gan ei ddisgrifio fel "perygl i blant".
Cywiriad ar 17 Ionawr: Mae'r erthygl hon wedi'i diweddaru i gadarnhau'r ffaith bod Phillips wedi'i garcharu am ymosodiad rhywiol nid am achos o dreisio fel yr adroddwyd yn wreiddiol