Amddiffyn gwario £2m ychwanegol ar drawsnewid hen siop yng Nghaerfyrddin

Roedd disgwyl i'r ganolfan iechyd a llesiant i fod i agor yn 2026, ond fydd hynny ddim yn digwydd tan 2027 oherwydd problemau gyda'r adeilad
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad i wario £2m ychwanegol ar adnewyddu hen siop yng Nghaerfyrddin, yn sgil problemau gyda'r adeilad, wedi ei amddiffyn gan gynghorydd.
Mae'r cynllun i drawsnewid hen siop Debenhams i fod yn ganolfan iechyd a llesiant yn costio tua £40m.
Fe fydd y ganolfan yn cynnwys gampfa newydd, lle chwarae i blant, rhai o wasanaethau'r cyngor a nifer o glinigau iechyd Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Ond ar ôl i broblemau ddod i'r amlwg gyda'r adeilad, mae'r golygu y bydd rhaid rhoi rhagor o arian i'r cynllun, ac y bydd yn agor yn hwyrach na'r disgwyl.
Yn ôl y Cynghorydd Alun Lenny, sydd yn gyfrifol am gyllid, fe gododd problemau yn ystod y gwaith atgyweirio nad oedd modd eu rhagweld cyn i'r cynllun adnewyddu ddechrau.
'Buddsoddiad gwerth ei wneud'
Fe gaeodd siop Debenhams yng Nghaerfyrddin yn 2021 pan aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr.
Roedd yn gonglfaen i ddatblygiad canolfan siopa Rhodfa Santes Catrin wnaeth agor yn 2010 yn sgil buddsoddiad o £74m.
Yn 2024, dechreuodd y gwaith adeiladu er mwyn addasu'r hen siop i fod yn ganolfan iechyd a lleisant.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu tua £7m, gyda Llywodraeth y DU yn rhoi £15m tuag at y cynllun i drawsnewid 8,000 metr sgwâr o ofod masnachol.
Cadarnhaodd Cyngor Sir Caerfyrddin y bydd y problemau sydd wedi codi gyda'r adeilad yn golygu na fydd y ganolfan yn agor tan 2027, er roedd i fod i agor eleni.
Sut mae 'ail-ddiffinio canol trefi' wrth i siopau gau?
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022
Cais i greu parc trampolinio mewn hen siop yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2024
'Ergyd fawr': Swyddi Debenhams yn y fantol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020
Yr Atriwm sydd wedi ei ddewis fel enw newydd y ganolfan iechyd a llesiant y dref, ac mae'n bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Fe fydd campfa 24 awr, golff antur dan do, canolfan chwarae i blant, gwasanaethau'r cyngor a nifer o glinigau Hywel Dda i gyd o dan yr un tô.
Mae'r enw Atriwm wedi ei ddewis i adlewyrchu gwreiddiau Rhufeinig Caerfyrddin.
Deallir bod angen gwneud newidiadau i ffasâd yr adeilad yn sgil y problemau sydd wedi codi, a dyna sydd yn gyfrifol am y gwariant ariannol ychwanegol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny y bydd y buddsoddiad yn denu llawer o bobl i ganol y dref
Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny ei fod yn "fuddsoddiad anferth, gwerth ei wneud" i dref Caerfyrddin gan y bydd 250 o bobl yn gweithio yn y ganolfan.
Gwadodd y bydd trethdalwyr y sir yn gorfod talu am y costau ychwanegol.
"Bydd e yn fuddsoddiad fydd yn denu llawer o bobl i ganol y dref. Bydd 250 yn gweithio yn y ganolfan.
"Nid arian trethdalwyr, treth y cyngor yw e, mae'n dod o gronfa cyfalaf y cyngor sir.
"Arian cyfalaf yw hwn nid arian sydd yn dod o godiad treth y cyngor.
"Buddsoddi y'n ni ar gyfer dyfodol y dref."
Dywedodd nad oedd modd rhagweld y problemau, cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.
"Wrth gwrs fe wnaethpwyd astudiaeth fanwl o'r adeilad" meddai.
"Dwi ddim yn beiriannydd adeiladu, galla i ddim a dweud yn fanwl pam mae e wedi codi, ond fe gododd e yn ystod y gwaith addasu sydd yn digwydd yma, rhywbeth na allai ddod i'r golwg yn gynharach.
"Buddsoddiad er budd pobl Caerfyrddin yw e."
Oedi yn 'siomedig'
Roedd y Cynghorydd Lenny yn cyfaddef ei bod hi'n "siomedig, wrth reswm" y bydd yna oedi gyda'r cynllun.
"Mae'n dal i fod yn fuddsoddiad pwysig, allweddol ar adeg pan mae gymaint o drefi yn marw ar eu traed.
"Mae Caerfyrddin, diolch i'r drefn, yn ddigon llewyrchus, ond bydd hwn yn mynd â ni lan un lefel eto.
"Dwi'n gwybod y bydd pobl yn gweld bod hwn yn beth rhyfedd i wneud, i roi dwy filiwn ychwanegol, ond mae'n mynd i fod yn fath gaffaeliad, a'r fath adnoddau yng nghanol tref Caerfyrddin.
"Mae'n sicr yn mynd i fod yn werth e.
"Pan fydd e yn agor mewn blwyddyn, fe fydd pobl, rwy'n hyderus, yn gweld hynny hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.