Cymro'n cyfarfod â ffrind ar 'death row' wedi 20 mlynedd o lythyru

Rhys Williams a Roderick Orme yn cyfarfod am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Wedi dros 20 mlynedd o lythyrau, e-byst ac yn fwy diweddar, galwadau ffôn, mae dyn camera o Gymru wedi cyfarfod wyneb yn wyneb â charcharor sydd ar 'death row' yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd Roderick Orme ddedfryd o farwolaeth am ladd ei gyn-bartner - nyrs o'r enw Lisa Redd - yn 1992.
Rhyw 15 mlynedd yn ddiweddarach daeth y dyn camera Rhys Williams o Wrecsam yn ymwybodol o'r carcharor, a dechreuodd y ddau gyfathrebu.
Er eu bod wedi aros mewn cyswllt ers degawdau, doedd y ddau erioed wedi cwrdd â'i gilydd, tan i Rhys deithio i'r Unol Daleithiau gyda'r newyddiadurwr Elen Wyn i ddarganfod mwy am y dyn mae'n ei alw'n ffrind ar gyfer rhaglen newydd ar S4C - Fy Ffrind ar Death Row.
"O'dd o'n hollol surreal i ddweud y gwir... yn rhyfedd ond hefyd yn teimlo'n weddol naturiol wrth i ni ddechrau sgwrsio," meddai Rhys wrth BBC Cymru Fyw.

Dechreuodd Rhys ac Orme siarad trwy ysgrifennu llythyrau at ei gilydd
Wrth ddarllen papur newydd, daeth Rhys i glywed am Orme gyntaf.
"O'n i'n berson camera llawrydd yn edrych am waith, a nes i weld mewn papur newydd 'Welshman on death row'," meddai Rhys.
"Nes i ffeindio allan mai Roderick Orme oedd o, a sgwennu ato fo yn dweud pwy o'n i, be o'n i'n gwneud a bod fi ishe gwneud rhaglen arno fo.
"Sgwennodd o nôl yn dweud bod o ddim ishe gwneud rhaglen a ddim ishe unrhyw gyhoeddusrwydd, ond os o'n i dal ishe sgwennu ato byddai'n hoff o hynny, ac o'n i'n meddwl byse fo braidd yn churlish i beidio, felly mi wnes i."
Cymerodd dros 20 mlynedd o ysgrifennu a sgwrsio rhwng y ddau cyn y daeth y cyfle i gyfarfod wyneb yn wyneb.
"Dwi wedi ffilmio mewn carchar o'r blaen, ond roedd y security yma yn hollol crazy," meddai Rhys.
"Dyma fe'n ymddangos a ni'n dechrau siarad.
"S'dim byd mawr yn cael ei ddweud - ni'n trafod chwaraeon, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a theithio - ond beth oedd yn taro fi ar ôl bod yno am ryw chwarter awr oedd sbïo rownd yr ystafell a jyst gweld yr holl dynion yma mewn jumpsuits oren, a rhyw fath o don yn dod drosta' i fod nhw gyd ar death row ac yn ddynion eithriadol o ddrwg a dweud y gwir."
'Methu amddiffyn fy hun'
Nid cyfarfod ag Orme ydy'r unig reswm dros y daith.
Mae Rhys hefyd yn cyfarfod â Carol - chwaer Lisa Redd, a gafodd ei llofruddio gan Orme.
"Roedd o'n brofiad erchyll yn cyfarfod y chwaer i ddweud y gwir," meddai Rhys.
"O'n i 'di dweud o'r cychwyn bod rhaid cyfarfod y teulu a chlywed ochr arall y stori.
"Doedd hi, wrth reswm, ddim yn deall be' o'n i wedi gwneud yn gwastraffu amser yn sgwennu at y dyn oedd wedi lladd ei chwaer hi a dinistrio ei theulu hi, ac roedd hi'n flin ofnadwy ac yn anfaddeuol.
"Oedd hi'n flin iawn efo fo yn amlwg, ond yn flin efo fi hefyd am sgwennu ato fo, ac roedd hi'n gweld o fel o'n i'n cydymdeimlo efo fo, a dydw i ddim yn cydymdeimlo gyda'r hyn mae o 'di gwneud o gwbl."
Ychwanegodd: "Dwi'n ŵr ac yn dad i ferched, a doedd hi ddim yn deall sut byse dyn fel hynna yn gallu ysgrifennu i lofrudd gan wybod be' mae o 'di 'neud i ferch, a dwi'n gallu gweld ei phwynt hi yn sicr, ac o'n i methu amddiffyn fy hun."

Cafodd Roderick Orme ei ddedfrydu i farwolaeth am ladd Lisa Redd yn 1992
Wrth drafod gyda Rhys, mae Carol yn dweud na wnaiff hi "byth faddau" i Orme am lofruddio'i chwaer.
"Roeddwn i a hi [Lisa] wedi mynd allan," meddai Carol ar y rhaglen.
"Gwnaeth o [Orme] stopio ni'r holl amser oedden ni allan oherwydd y dydd Sul hwnnw, pan wnaeth o droi fyny yn ei thŷ i'w gweld hi, dywedais i wrtho, 'mae angen i ti cael gwared ar ei rhif hi, dyw hi ddim am dy weld di'.
"Dywedodd o, 'os na allaf i ei chael hi, gall neb' a gofynnais iddo, 'beth mae hynny'n ei olygu?'
"Dywedodd o, 'cymra fo fel y mynni'.
"Roedd hi wedi marw deuddydd yn ddiweddarach."
'O fewn 200 llath i ble oedd dyn yn cael ei ladd'
Wrth adael y carchar ar ôl cyfarfod gydag Orme, fe welodd Rhys gyda'i lygaid ei hun pa mor ddadleuol yw 'death row' ymhlith Americanwyr.
"Tra o'n i yno yn ffilmio gwelsom ni wylnos a phobl yn protestio yn erbyn ac o blaid lladd, dros y ffordd o'r gell lle oedd dyn yn cael ei ladd," meddai.
"Am 18:00 maen nhw'n lladd nhw, ac mae cloch yn canu, ac o'n i'n ymwybodol ein bod ni o fewn 200 llath i ble oedd dyn yn cael ei ladd.
"Roedd hynny'n hollol anwaraidd.
"Mae pawb yn y carchar hefyd yn gwybod pan mae rhywun yn mynd i gael ei ladd, ond mae'r gloch sy'n canu hefyd yn tanlinellu'r holl beth mewn ffordd ffiaidd."

Dechreuodd Rhys Williams a Roderick Orme gyfathrebu rhyw 20 mlynedd yn ôl
Mae'r daith yn sicr wedi gorfodi Rhys i feddwl yn ddyfnach am ei gyfeillgarwch ag Orme.
"Roedd hi'n wythnos anodd iawn o ran wynebu'r teulu yma a clywed y poen maen nhw wedi bod trwyddo, a mae'n ddrwg iawn gen i am hynny.
"Roedd hi eisiau i fi stopio sgwennu ato fo.
"Dwi ddim yn mynd i wneud hynny, o ran gofalgarwch mwy na dim, ond mae o wedi newid fy safbwynt i am ambell i beth mewn bywyd a sut dwi wedi ymwneud gyda'r sefyllfa dros y blynyddoedd."
Bydd rhaglen Fy Ffrind ar Death Row ar S4C am 21:00 nos Fawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
