Dedfrydu dyn ifanc oedd am gopïo ymosodiadau Southport yn ne Cymru

Mae McKenzie Morgan wedi cael dedfryd o 14 mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc ar ôl pledio'n euog i lawrlwytho llawlyfr hyfforddi y mudiad terfysgol Al Qaeda
- Cyhoeddwyd
Mae dyn ifanc o Gwmbrân a gafodd ei ysbrydoli gan lofruddiaethau Southport i gynllunio ymosodiadau yn ne Cymru wedi ei ddedfrydu.
Roedd McKenzie Morgan, 18 oed, yn bwriadu cynnal ymosodiadau ar ysgol ddawns ger ei gartref ac ar dorfeydd cyngerdd Oasis yng Nghaerdydd.
Yn llys yr Old Bailey plediodd yn euog i lawrlwytho llawlyfr hyfforddi y mudiad terfysgol Al Qaeda.
Cafodd ddedfryd o 14 mis mewn sefydliad i droseddwyr ifanc.
Cafodd Morgan ei arestio gan heddlu gwrthderfysgaeth yn ei gartref ym mis Mehefin 2025.
Mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol roedd Morgan wedi dweud wrth ffrindiau ei fod am gynnal "ymosodiad tebyg i Rudakubana" wrth gyfeirio at lofrudd Southport, gan wawdio'r merched fu farw yn ystod yr ymosodiad.
Roedd hefyd wedi cyhoeddi llun o gyllell fawr gan ysgrifennu "a fyddai hyn yn gweithio".
Dywedodd y barnwr Sarah Whitehouse fod y bachgen 18 oed yn berygl i'w hun ac yn agored i gael ei "fwlio, ei feithrin i gael perthynas amhriodol a'i radicaleiddio".
Ychwanegodd nad oedd yna dystiolaeth glir bod gan Morgan unrhyw ideoleg wleidyddol, grefyddol na hiliol a'i fod yn ymddangos mai ei gymhelliant oedd "efelychu ymosodwr terfysgol Southport".
Gosododd orchymyn ymddygiad troseddol i'w oruchwylio ar ôl iddo gael ei ryddhau a blwyddyn arall ar drwydded.

Clywodd y llys bod gan Morgan ddelweddau o Axel Rudakubana ar ei ffôn
Cafodd Morgan, a oedd yn 18 oed yr wythnos diwethaf, ei arestio'n wreiddiol ar 2 Mehefin 2025 ar ôl i unigolyn oedd wedi cael ei ddychryn gan negeseuon Morgan ar Snapchat fynd at yr heddlu.
Dywedodd Morgan wrth bobl ifanc eraill ei fod am gopïo'r hyn ddigwyddodd yn yr ysgol ddawns yn Southport.
Cadwodd ddelweddau o Rudakubana ar ei ffôn a gwawdiodd ei ddioddefwyr.
Cafodd Morgan ei ryddhau ar fechnïaeth i ddechrau ond ar ôl edrych ar gynnwys ei ffôn daeth yr heddlu ar draws sawl dogfen waharddedig Al Qaeda, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar sut i gynnal ymosodiad â chyllell.
Cafodd ei arestio eto ar 19 Mehefin 2025, a chafodd ei gyhuddo o drosedd dan y Ddeddf Atal Terfysgaeth ac ymddangosodd yn y llys ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi chwilio am lawlyfr hyfforddi Al Qaeda, ei gadw ac yna ei ddarllen - a chyfaddef un cyhuddiad o feddu ar lawlyfr terfysgol.

Bu farw Bebe King, Elsie Dot Stancombe ac Alice Aguiar yn yr ymsodiad gan Axel Rudakubana yn Southport
Yn ystod eu hymchwiliad daeth yn amlwg i'r Heddlu Gwrthderfysgaeth fod Morgan wedi'i swyno a'i ysbrydoli gan lofrudd Southport, Axel Rudakubana - roedd ei gyfrif cyfryngau cymdeithasol ei hun yn enw Rudakubana.
Cafodd Rudakubana ei ddedfrydu i o leiaf 52 mlynedd yn y carchar am lofruddio tair merch ifanc a deg achos o geisio llofruddio.
Bu farw Elsie Dot Stancombe, saith oed, Bebe King, chwech oed, ac Alice da Silva Aguiar, naw oed, tra bod wyth o blant eraill a dau oedolyn - arweinydd y dosbarth dawns Leanne Lucas a'r dyn busnes Jonathan Hayes - wedi'u hanafu'n ddifrifol.
Ar ei gyfrifiadur roedd gan Rudakubana yr un llawlyfr hyfforddi Al Qaeda â Morgan.
Daeth yr heddlu hefyd o hyd i nodyn ar ffôn McKenzie Morgan o fis Ebrill 2025 o'r enw "llefydd i ymosod".
Roedd y nodyn yn cynnwys delweddau o ysgol ddawns leol, ynghyd â chyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd yno - roedd Morgan hyd yn oed wedi amseru'r daith ar droed o ychydig dros hanner awr.
Roedd data lleoliad ar ei ffôn hefyd yn dangos ei fod wedi bod ger yr ysgol ddawns ychydig ddyddiau cyn iddo gael ei arestio.
Mae BBC Cymru wedi cysylltu â'r ysgol ddawns am ymateb.

Perfformiodd Oasis am y tro cyntaf mewn 16 o flynyddoedd yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2025
Ymchwiliodd Morgan hefyd i leoedd eraill i ymosod arnynt, gan gynnwys ei ysgol ei hun.
Mewn negeseuon ar Snapchat, dywedodd Morgan wrth eraill am gynllun i ymosod ar gyngerdd aduniad cyntaf Oasis yng Nghaerdydd ar 4 Gorffennaf.
Yn dilyn ei arestio dywedodd wrth weithiwr gofal iechyd meddwl proffesiynol am ei awydd i gynnal "ymosodiad tebyg i Rudakubana".
Ar y diwrnod iddo gael ei arestio am y tro cyntaf roedd Mckenzie Morgan wedi edrych ar sawl cyllell ar-lein ac, yn y misoedd cyn hynny roedd wedi ceisio prynu cyllyll.
Mewn sgwrs gyda ffrind ym mis Ebrill 2025 anfonodd ddelwedd o gyllell fawr ar werth, gan ddweud "a fyddai hyn yn gweithio".
Cyfaddefodd i'r heddlu ei fod wedi ceisio prynu cyllyll ar-lein, ond roedd wedi methu oherwydd na allai brofi ei fod dros ddeunaw oed.

Mae Dr Joe Whittaker o Brifysgol Abertawe yn dweud bod bygythiadau o'r math yma ar gynnydd
Nid oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod McKenzie Morgan yn dilyn unrhyw ideoleg arbennig, nac yn aelod o unrhyw grŵp terfysgol gwaharddedig.
Mae Dr Joe Whittaker, Uwch Ddarlithydd mewn Bygythiadau Seiber a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn dweud bod bygythiad unigolion fel Mckenzie Morgan ar gynnydd.
Dywedodd ei bod yn "anhygoel o anodd i'r awdurdodau ganfod a gwrthweithio" eithafwyr unigol.
"O safbwynt diogelwch gweithredol i derfysgwyr, po fwyaf o bobl sy'n rhan o'r cynllwyn," meddai, "y mwyaf o allu sydd gan orfodi'r gyfraith i'w dal."
Dywedodd Dr Whittaker nad oedd yn syndod bod Morgan eisiau efelychu Axel Rudakubana.
Mae ymosodwyr "yn ceisio copïo'r hyn sydd eisoes wedi digwydd o'r blaen", meddai.
"I'r rhan fwyaf o derfysgwyr sy'n gweithredu ar eu pen eu hunain, mae enowgrwydd yn aml yn rhywbeth maen nhw eisiau ei ennill o'r hyn maen nhw'n ei wneud," meddai.
"Mae cynnal y math hwn o ymosodiad yn rhywbeth sy'n rhoi arwyddocâd iddyn nhw, hyd yn oed os yw'n fath ofnadwy o arwyddocâd.
"Mae pobl yn edrych i gael eu cofio mewn rhyw ffordd.
"Mae'n gyffredin iawn gweld digwyddiadau torfol yn cael eu targedu."
Dyn o Gaerdydd yn pledio'n euog i lofruddio tair merch yn Southport
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2025
Ymosodiad Southport: Cyhuddo dyn o drosedd derfysgol ar wahân
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2024
Dyn o Gaerdydd yn gwadu llofruddio tair merch yn Southport
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2024
Un ffocws yr ymchwiliad i lofruddiaethau Southport oedd pam y collodd cynllun gwrthderfysgaeth Prevent y cyfle i ymyrryd ym mywyd Rudakubana.
Gallai Axel Rudakubana fod wedi cael ei fonitro, ei drin ac o bosibl ei droi oddi wrth drais gan y rhaglen, meddai awdur yr adolygiad cynnar a gynhaliwyd yn fuan ar ôl y llofruddiaethau ym mis Gorffennaf 2024, yr Arglwydd David Anderson CB.
Dywedodd fod yn rhaid i raglen y llywodraeth newid eu ffocws i bobl sydd wedi'u obsesu â thrais eithafol, hyd yn oed os nad yw'r heddlu gwrthderfysgaeth yn dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o gymhelliad ideolegol.
Roedd sawl athro ysgol Rudakubana wedi rhybuddio swyddogion Prevent fod gan Rudakubana obsesiwn â thrais - ond ar bob achlysur caewyd ei achos oherwydd nad oedd yn ymddangos bod ganddo gymhelliad terfysgol adnabyddadwy.
Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2025, cyfeiriwyd 8,517 o unigolion at Prevent, cynnydd o 27% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (6,922) a dyma'r nifer uchaf o atgyfeiriadau a gofnodwyd mewn un flwyddyn ers ei lansio yn 2015.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, daeth y gyfran uchaf o atgyfeiriadau Prevent gan athrawon a gweithwyr addysg eraill.
Y categorïau pryder 'dim ideoleg' oedd yn cyfrif am y gyfran fwyaf o atgyfeiriadau, 4,917 neu 56%.
Ychwanegodd yr uwch-ddarlithydd mewn Bygythiadau Seiber ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Joe Whittaker, fod ymchwil yn dangos bod "esblygiad araf" wedi bod o symud i ffwrdd o eithafiaeth yn seiliedig ar grwpiau fel y Wladwriaeth Islamaidd, Al Qaeda a National Action, i "bron popeth bellach yn ymosodiadau gan actorion unigol".
Ychwanegodd fod natur y bygythiad a achosir i gymdeithas gan yr actorion unigol hyn yn "sefydlog" ond yn "eithaf peryglus mewn gwirionedd".
"Mae hynny'n creu bygythiad enfawr i'r heddlu gwrthderfysgaeth, oherwydd ei bod hi gymaint yn anoddach iddyn nhw ei ganfod".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.