Seren Traitors eisiau dod yn rhugl yn y Gymraeg ar ôl ymddeol
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod cynnwys Cyfres 4 The Traitors

Roedd Fiona yn ddisgybl mewn ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Abertawe
Mae un o sêr cyfres ddiweddaraf The Traitors yn dweud ei bod yn bwriadu ail-gydio yn y Gymraeg ac yn gobeithio gallu dod yn rhugl.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd Fiona Hughes - a gafodd ei 'halltudio' ym mhennod chwech - bod dysgu'r iaith yn un o'i nodau ar ôl ymddeol yr wythnos nesaf.
Yn wreiddiol o Dreforys, Abertawe, esboniodd Fiona ei bod wedi mynd i ysgol gynradd Gymraeg ond bod ei defnydd o'r iaith wedi lleihau ar ôl mynd i ysgol uwchradd Saesneg.
"Rwy'n flin fy mod i wedi colli llawer o Cymraeg fi, rwy'n mynd i retiro wythnos nesaf so gôl fi ydi dysgu Cymraeg yn fluently," meddai.
Seren Traitors eisiau dod yn rhugl yn y Gymraeg ar ôl ymddeol
Mae Fiona eisoes wedi sôn am ei balchder o allu cynrychioli Cymru a'i thref enedigol, Abertawe ar y gyfres.
Dywedodd Fiona wrth Cymru Fyw fod cael ymddangos ar The Traitors wedi bod yn "fraint".
"Ro'n i'n edrych ar Traitors series un, dau a tri a meddwl 'byswn i'n dda ar y programme'," meddai.
"Wnes i sgwennu mewn, application forms galore, ac wedyn gwnaeth rhywun o'r BBC ffono fi a dweud 'ti yn y Traitors'.
"Roeddwn i trwy'r roof! Dwi'n caru'r show, ac roedd gwybod bod fi arno yn sbesial."

Dywedodd Fiona fod tua 14 i 15 awr o ffilmio yn digwydd bob dydd ar y gyfres
Er ei bod wedi mwynhau'r profiad yn arw, mae'n dweud nad oedd hi wedi chwarae'r gêm yn dda.
"Roedd gameplan fi yn awful! Pryd o'n i'n mynd i mewn i'r castell, meddyliais i y byswn yn siarad i pobl ac edrych ar behaviour pobl ac wedyn byswn i'n gallu gweld pwy yw'r traitors a pwy yw'r faithful.
"Ond wedyn roedd Claudia yn rhoi cloak coch i fi, so roedd y strategy original yn mynd allan. Pob dydd, pob awr o'r dydd roedd y strategy yn newid.
"Roedd nerves fi yn explodo, roedd e'n marvellous - a privilege."
Ychwanegodd ei bod wedi mwynhau'r cyfnod ers i'r gyfres gael ei darlledu.
"Mae bywyd fi wedi bod yn brilliant. Mae pobl yn dod i fi a gofyn am selfie - mae'n ardderchog a dwi'n making the most of it!
"Roedd 22 o bobl yn mynd i'r castell, ac mae 21 ffrind newydd gyda fi nawr."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Ionawr

- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2025
