Plaid Cymru: Ffurfio llywodraeth leiafrifol yn well dewis na chlymbleidio

Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y byddai Plaid Cymru yn "edrych ar bwy allwn ni weithio efo nhw, fater wrth fater, bolisi wrth bolisi, gyllideb wrth gyllideb"

  • Cyhoeddwyd

Byddai'n well gan Blaid Cymru ffurfio llywodraeth leiafrifol yn hytrach na chlymbleidio yn dilyn etholiad nesa'r Senedd, yn ôl arweinydd y blaid.

Daeth sylwadau Rhun ap Iorwerth ar bodlediad Gwleidydda, ar ôl i arolwg barn yr wythnos hon awgrymu bod Plaid Cymru mewn sefyllfa gref i ennill yr etholiad ym mis Mai.

Mae arolygon blaenorol wedi awgrymu bod Plaid Cymru a Reform UK yn cystadlu i fod y blaid fwyaf wedi'r etholiad.

Yn ôl yr arbenigwr ar arolygon barn o Brifysgol Caerdydd, Dr Jac Larner, gallai'r pôl diweddaraf weld Plaid Cymru'n ennill 45 o seddi.

Ond gyda nifer yr aelodau yn Senedd Cymru yn cynyddu o 60 i 96, byddai angen 49 o seddi i gael mwyafrif.

Mae yna ddyfalu wedi bod felly ynghylch sut y byddai'r blaid yn llywodraethu pe bydden nhw'n ennill yr etholiad, ond heb sicrhau mwyafrif.

Byddai hynny'n gadael y blaid yn gorfod dibynnu ar gefnogaeth gan eraill er mwyn ennill pleidleisiau i basio deddfwriaeth a chynlluniau gwario.

Disgrifiad,

Plaid Cymru: Ffurfio llywodraeth leiafrifol yn well dewis na chlymbleidio

Does yr un blaid erioed wedi ennill mwyafrif ym Mae Caerdydd, a gyda'r newidiadau sy'n dod i'r drefn bleidleisio, mae'n annhebygol y bydd unrhyw blaid yn ennill dros hanner y seddi y tro hwn chwaith.

Llafur sydd wedi ennill y nifer fwyaf o seddi ym mhob etholiad ers dechrau datganoli, ond heb sicrhau mwyafrif ar unrhyw achlysur, mae'r blaid wedi gorfod dod i gytundeb o ryw fath gyda phlaid arall bob tro.

Ar adegau mae hynny wedi arwain at glymblaid ffurfiol, gydag aelodau o blaid arall yn ymuno â chabinet y Prif Weinidog.

Wrth siarad ar bodlediad Gwleidydda, dywedodd Rhun ap Iorwerth mai "dymuniad" ei blaid fyddai ffurfio llywodraeth leiafrifol gyda dim ond gweinidogion Plaid Cymru yn ei gabinet.

Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gyda threfn bleidleisio wahanol iawn yn Etholiad 2026, mae arolygon yn awgrymu ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw blaid yn ennill mwyafrif yn Senedd Cymru

'Cyfnod aeddfed o gydweithio'?

Mae'r arolwg barn "yn cadarnhau be' dwi wedi ei deimlo ers tro, sef y gallwn ni - o frwydro etholiad effeithiol ac adeiladu ymddiriedaeth efo pobl - arwain llywodraeth leiafrifol a gwneud hynny'n llwyddiannus," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn "benderfynol y byddai'r llywodraeth leiafrifol honno yn ei gwneud hi'n eglur iawn o'r cychwyn i bwy bynnag arall yn y rhan yna o'r sbectrwm ein bod ni eisiau cydweithio".

"Mi edrychwn ni ar bwy allwn ni weithio efo nhw, fater wrth fater, bolisi wrth bolisi, gyllideb wrth gyllideb ac yn y blaen.

"Dwi'n meddwl y gallai o fod yn gychwyn ar gyfnod aeddfed o gydweithio o fewn y llywodraeth."

Er bod Rhun ap Iorwerth wedi awgrymu dros y misoedd diwethaf y byddai ei blaid yn barod i ffurfio llywodraeth leiafrifol, dyma'r sylwadau mwyaf clir ganddo ar y pwnc.

Gwleidydda

Bethan Rhys Roberts fu'n holi arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth

Roedd y cyfweliad gyda Rhun ap Iorwerth yn rhan o gyfres o sgyrsiau mae'r podlediad yn eu cynnal gyda ffigurau blaenllaw o'r pleidiau i gyd.

Yr aelod Llafur o Senedd Cymru Alun Davies gafodd ei gyfweld yr wythnos diwethaf.

Wrth ymateb i sylwadau Rhun ap Iorwerth am ffurfio llywodraeth leiafrifol, dywedodd yr athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ar y podlediad: "Wrth gwrs mae'n haws dweud hynny pan mae'r arolygon barn yn awgrymu ar hyn o bryd eu bod nhw ddim yn bell o fwyafrif.

"Os oes gen ti leiafrif bychain, yna mae o'n fusnes anodd iawn rhedeg llywodraeth."

Awgrymodd hefyd y gallai'r sylwadau fod yn ffordd i "osgoi ateb cwestiynau neu gyhuddiadau" gan y Ceidwadwyr a Reform y byddai buddugoliaeth i Blaid Cymru yn yr etholiad yn dal i roi grym i Lafur.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.