Rhyddhau dyn ar fechnïaeth wedi digwyddiad gêm bêl-droed Porthmadog
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 35 oed gafodd ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad yn ystod gêm bêl-droed ym Mhorthmadog wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod yr heddlu yn disgwyl cyngor ynglŷn â chyhuddiadau posib.
Cafodd yr unigolyn dan sylw ei arestio yn dilyn adroddiadau o ymosodiad mewn gêm rhwng Bae Trearddur a Phorthmadog yng nghynghrair yr Ardal North West brynhawn Sadwrn.
Mae fideo o'r digwyddiad wedi cael ei rannu yn helaeth ar-lein ac mae swyddogion bellach yn galw ar yr unigolyn wnaeth ei ffilmio i gysylltu â nhw.
Mae Clwb Pêl-droed Bae Trearddur eisoes wedi cadarnhau eu bod wedi rhyddhau'r chwaraewr dan sylw, tra bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) hefyd yn ymchwilio i'r mater.
Arestio dyn, 35, wedi digwyddiad gêm bêl-droed Porthmadog
- Cyhoeddwyd10 awr yn ôl
CPD Amlwch yn 'torri pob cysylltiad' â hyfforddwr
- Cyhoeddwyd3 Mai 2024
Arestio dyn wedi digwyddiad ar gae pêl-droed Amlwch
- Cyhoeddwyd2 Mai 2024
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd: "Rydyn ni'n ymwybodol o'r lluniau fideo sy'n cael eu rhannu ar-lein, ac yn ddiolchgar i'r bobl hynny wnaeth roi gwybod i ni am y digwyddiad. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r dioddefwr.
"Rydyn ni bellach yn gofyn i'r unigolyn wnaeth ffilmio'r fideo i ddod yn ei flaen fel bod modd cael datganiad ffurfiol y gallwn ni ei gynnwys fel rhan o'r achos sy'n cael ei gyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron.
"Hoffwn hefyd ofyn i unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad, ac sydd heb siarad gyda'r heddlu hyd yma, i gysylltu â ni."
Ychwanegodd fod yr achos yn un byw a bod rhannu gwybodaeth neu drafod euogrwydd yn gallu arwain at sgil effeithiau cyfreithiol.
Mewn datganiad nos Sul fe gadarnhaodd CPD Bae Trearddur eu bod wedi rhyddhau y chwaraewr dan sylw o'r clwb "yn dilyn adolygiad mewnol".
Dywedodd CPD Porthmadog mai prif bryder y clwb oedd lles eu chwaraewr, sy'n "gwella gartref" ar ôl cael cyfergyd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.