Arestio dyn, 35, wedi digwyddiad mewn gêm bêl-droed ym Mhorthmadog

Mae fideo o'r digwyddiad wedi cael ei rannu yn helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn dilyn digwyddiad yn ystod gêm bêl-droed yng Ngwynedd brynhawn Sadwrn.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn ymwybodol o fideo sydd wedi cael ei rannu ar-lein o ddigwyddiad mewn gêm rhwng Bae Trearddur a Phorthmadog yn nhrydedd haen y pyramid Cymreig - yr Ardal North West.
Mae'r fideo i'w weld yn dangos un o chwaraewyr Bae Trearddur yn defnyddio ei benelin i daro chwaraewr Porthmadog yn ei wyneb.
Mae Clwb pêl-droed Bae Trearddur wedi cadarnhau eu bod bellach wedi rhyddau y chwaraewr dan sylw, tra bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) hefyd yn ymchwilio i'r mater.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn ymchwilio i'r mater
Dywedodd Heddlu'r Gogledd mewn datganiad brynhawn Sul: "Mae swyddogion wedi bod yn gwneud ymholiadau er mwyn deall yr amgylchiadau arweiniodd at y digwyddiad.
"Fel rhan o'n hymchwiliad mae dyn 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod."
Mae'r dyn yn parhau yn y ddalfa.
Bae Trearddur 'yn cydnabod na ddylai hyn fod wedi digwydd'
Mewn datganiad brynhawn Sul dywedodd Clwb Pêl-droed Bae Trearddur eu bod wedi gwahardd y chwaraewr "ar unwaith yn dilyn digwyddiad rhwng CPDBT a Phorthmadog".
Ond mewn datganiad yn hwyrach ddydd Sul, fe gadarnhaodd y clwb fod y chwaraewr dan sylw wedi cael ei ryddhau o'r clwb.
"Yn dilyn adolygiad mewnol, mae'r penderfyniad wedi ei wneud i ryddhau'r chwaraewr sydd wedi ei wahardd, a hynny ar unwaith," meddai'r datganiad.
"Dydy CPD Bae Trearddur ddim yn derbyn trais o unrhyw fath, ac rydyn yn cydnabod na ddylai hyn fod wedi digwydd.
"Mae'r clwb yn ymddiheuro i'r chwaraewr oedd yn rhan o'r digwyddiad, i CPD Porthmadog, i'r dyfarnwyr, cefnogwyr ac i'r gymuned bêl-droed yn ehangach.
"Fe fydd y clwb yn cydweithredu'n llawn ag unrhyw ymchwiliadau neu brosesau disgyblu, ond ni fyddin yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater tra bod y prosesau hyn yn mynd rhagddo."
Dywedodd CBDC: "Mae gemau'r drydedd haen yn dod o dan awdurdodaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymwybodol o'r digwyddiad a byddwn yn ei adolygu."
Mae data o'r gêm yn awgrymu na chafodd cerdyn coch ei roi gan y dyfarnwr Richard Gwyn Edwards yn ystod y gêm - a orffennodd 3-2 i'r tîm cartref, Porthmadog.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.