Aelod Ceidwadol o'r Senedd yn galw am newid o fewn y blaid

James Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae James Evans wedi beirniadu arweinydd y Blaid Geidwadol ganolog, Kemi Badenoch

  • Cyhoeddwyd

Mae Aelod Ceidwadol o'r Senedd wedi beirniadu arweinydd plaid Geidwadol y DU, Kemi Badenoch ac wedi galw am newid.

Ond nid oedd James Evans yn barod i ateb cwestiynau ynglŷn â'r posibilrwydd y byddai'n dilyn ei "ffrind egwyddorol" Robert Jenrick - wnaeth adael y blaid i ymuno â Reform yr wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Robert Jenrick wrth y BBC mai'r hoelen olaf iddo oedd y ffaith fod aelodau cabinet yr wrthblaid wedi gwrthod cydnabod fod Prydain wedi torri.

Mae Kemi Badenoch wedi mynnu "nad yw Prydain wedi torri" ond ar raglen Politics Wales ddydd Sul, fe wnaeth Mr Evans anghytuno gyda hi yn gyhoeddus.

Mae'r Blaid Geidwadol wedi gwrthod cais am sylw.

'Fy safbwyntiau i'n glir'

Aeth Mr Evans ymlaen i ddweud bod "yn rhaid i ni gymryd rhyw lefel o gyfrifoldeb am y llanast y mae'r wlad hon ynddi".

Ychwanegodd y dylai Kemi Badenoch fyfyrio ar ei sylwadau "oherwydd sai'n credu mai dyna'r sylw sy'n cael ei wneud gan y mwyafrif sy'n cefnogi'r Blaid Geidwadol ar draws y wlad".

Pan gafodd Mr Evans ei holi a fyddai'n gadael i ymuno â Reform dywedodd nad oedd am gymryd rhan mewn "melodrama" gwleidyddol.

"Mae fy safbwyntiau i'n glir. Mae gen i egwyddorion ceidwadol," meddai.

"Ydyn ma' rhai'n cyd-fynd â Reform, ond dyw rhai ohonyn nhw ddim. Dyma beth sy'n dda am bleidiau gwleidyddol."

Pan ofynnwyd iddo a oedd wedi cael sgyrsiau gyda Reform UK ynglŷn ag ymuno â'r blaid, dywedodd: "Dydw i ddim am fynd i mewn i ba sgyrsiau rydw i wedi'u cael."

Roedd Jason O'Connell o Reform UK hefyd ar y panel ac fe wnaeth e ganmol James Evans am fod yn "wleidydd medrus iawn" yn y Senedd.

"Bydden ni'n sicr yn croesawu ei brofiad. Mae ei werthoedd yn cyd-fynd â'n rhai ni ac efallai bod yna sgwrs i'w chael yn y dyfodol," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.