Mam yn diolch i ddau ddyn am achub ei babi naw mis oed o'i char oedd ar dân

Cafodd y car ei orchuddio mewn fflamau ar ôl i Lilah gael ei hachub meddai'r dau ddyn o Ferthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae mam wedi disgrifio dynion a dynnodd ei babi 9 mis oed allan o'i char oedd ar fin mynd ar dân fel arwyr.
Roedd Alex McClean, 21 o Lynebwy, yn cymryd ei babi Lilah i gylch chwarae ym Merthyr Tudful tua 13:20 ar 14 Ionawr pan ddechreuodd ei char golli pŵer.
Ar ôl iddi dynnu i mewn ar yr A465 dechreuodd mwg ddod o'r car ac er iddi gamu allan doedd hi methu ag agor y drysau ar ochr y teithiwr er mwyn nôl ei babi.
Roedd ceir yn cadw gyrru heibio tan i Wesley Beynon, 39 a'i ewythr, Marc Willding, 58 eu gweld, tynnu mewn a llwyddo i achub ei babi o'r car.
Fe wnaeth y pedwar gwrdd eto ddydd Sadwrn ac mae Alex McClean yn dweud y byddai "byth yn anghofio" hyn ac y byddai'n sicrhau bod Lilah'n gwybod yn union pwy achubodd ei bywyd.

Fe wnaeth Alex McClean a'i babi naw mis oed gwrdd â Wesley Beynon (chwith) a Marc Willding ddydd Sadwrn er mwyn diolch eto iddyn nhw
Ar ôl tynnu mewn a methu ag agor y drysau ochr y teithiwr fe aeth Alex McClean i banig meddai gan beidio â meddwl agor y drysau ar ochr y gyrrwr.
"O'n i just yn meddwl bod popeth wedi cloi" esboniodd.
Dywedodd ei bod yn sgrechian am gymorth wrth i bobl yrru heibio ac fe geisiodd dorri'r ffenestr gyda'i hallweddi cyn penderfynu ffonio'r heddlu.
Fe sylweddolodd bod y car ar dân pan ddechreuodd y bonet droi'n frown.
"Dechreuais i banicio hyd yn oed yn fwy, o'n i'n hysterical.
"O'n i'n meddwl 'mod i am ei cholli" meddai.
- Ffynhonnell y llun, Anne Marie Thomas

Disgrifiad o’r llun, Roedd Alex yn sgrechian am gymorth wrth i nifer yrru heibio cyn i Wesley a Marc stopio
1 o 4
Roedd y weldiwr, Mr Beynon, yn gyrru yn ôl i'w weithdy pan sylweddolodd ef a'i ewythr, y ddau o Ferthyr Tudful, fod car ar dân ar ochr yr hewl.
Dywedodd Mr Beynon bod menyw wrth ymyl drws y teithiwr "yn amlwg mewn trallod", yn sgrechian bod ei babi yn y car.
Aeth ymlaen i esbonio ei fod wedi llwyddo mynd mewn i'r car drwy ochr y gyrrwr gan agor drws y teithiwr a datgloi'r harnais oedd o gwmpas y babi.
"Aeth fy ewythr draw i'r ochr arall a chymryd y babi allan" meddai.
"Oedd fflamau i'w gweld pan aethon ni i mewn i'r car. O'n i'n gallu eu gweld nhw drwy'r windscreen.
"Oedd e'n eitha' brawychus i fod yn onest."
Yn syth ar ôl iddyn nhw gael y babi allan aeth y car ar dân esboniodd.
"Tua 30 eiliad i funud wedyn oedd y car mewn fflamau.
"O'n i yn y lle cywir ar yr adeg cywir."
Ar ôl y digwyddiad fe ddywedodd Mr Willding, 58, na fydddai byth wedi gadael tan bod y babi allan o'r car yn ddiogel.

Dywedodd Alex na fydd hi byth yn anghofio beth wnaeth y dynion yma
Esboniodd Alex McClean na chafodd Lilah ei brifo yn y digwyddiad ac fe aethon nhw yn ôl i weld y dynion er mwyn diolch iddyn nhw'n iawn.
"Dydw i erioed wedi bod mor werthfawrogol i rywun am helpu fi, fe wnaeth cymaint o bobl eraill ddim trafferthu," meddai.
"Roedd yn gymaint o ryddhad ei chael hi allan o'r car.
"Mae'r ddau yma'n achubwyr bywyd, fe wnaethon nhw achub bywyd fy mabi.
"Wna i byth anghofio amdanyn nhw a bydd Lila'n gwybod pwy ydyn nhw wrth dyfu i fyny ac yn gwybod beth ddigwyddodd a sut y gwnaethon nhw achub ei bywyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.


