2026: Rhagolwg o'r flwyddyn wleidyddol

Gorsaf bleidleisio
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru yn ethol ei seithfed Senedd yn 2026 - a'r un gyntaf gyda chynnydd yn nifer yr aelodau

  • Cyhoeddwyd

Gyda Senedd fwy o faint yn cael ei hethol, mae 2026 yn mynd i fod yn flwyddyn wleidyddol brysur.

Ond mae 'na bosibilrwydd hefyd y gall 2026 weld yr etholiad mwyaf cystadleuol ers i ddatganoli ddechrau.

Mae'r arolygon barn yn awgrymu bod statws Llafur fel plaid fwyaf Cymru o dan fygythiad gwirioneddol.

Llafur sydd wedi arwain pob llywodraeth ddatganoledig – ac wedi ennill y nifer fwyaf o seddi ym mhob etholiad i'r Senedd a San Steffan ers dros ganrif.

Cydweithio gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig tra ar yr un pryd pwysleisio ei Chymreictod, yw nod Llafur Cymru.

Ond mae amser yn brin i'r strategaeth ddwyn ffrwyth ac mae aelodau Llafur ar feinciau cefn y Senedd yn rhwystredig gydag agwedd llywodraeth Syr Keir Starmer tuag at ddatganoli.

Serch hynny, ac er mor sâl yw rhai o'r arolygon barn iddyn nhw, mae ymgynghorwyr Eluned Morgan yn mynnu bod modd i Lafur ennill yr etholiad hwn.

Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

I le fydd "ffordd goch Gymreig" Eluned Morgan yn arwain Llafur yn 2026?

Os colli, mwy na thebyg mai Plaid Cymru neu Reform fydd yn disodli Llafur fel y blaid fwyaf – o leiaf dyna'r mae'r dystiolaeth yn ei hawgrymu ar hyn o bryd.

Bum mis cyn y diwrnod pleidleisio, gall neb gymryd y canlyniad yn ganiataol. Mae hynny'n amser hir yn y byd gwleidyddol.

Ond mae arolygon sydd wedi rhoi Plaid a Reform yn bell ar y blaen o Lafur wedi codi gobeithion y naill blaid a'r llall.

Mae dadansoddi'r data yn dangos mai i Blaid Cymru yn bennaf mae Llafur yn colli tir.

Roedd buddugoliaeth Plaid Cymru yn istholiad Caerffili yn dystiolaeth o hynny.

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Plaid Cymru yw adeiladu ar fuddugoliaeth isetholiad Caerffili

Mae'n ganlyniad sy'n caniatáu i'w harweinydd Rhun ap Iorwerth ddweud wrth bleidleiswyr yng nghadarnleoedd Llafur mai'r ffordd orau i stopio Reform ym mis Mai yw pleidleisio dros ei blaid ef.

Ond ma 'na lefydd eraill gallai'r pleidleiswyr asgell chwith yna fynd – i'r Democratiaid Rhyddfrydol, neu y Blaid Werdd, sy'n gobeithio cael cynrychiolaeth ym Mae Caerdydd am y tro cyntaf dan ei harweinydd newydd Zack Polanski.

Dod yn ail wnaeth Reform yng Nghaerffili, er i Nigel Farage obeithio'n fawr y gallai ei blaid ennill yno.

Fe fydd 'na wersi i'w blaid ddysgu os am osgoi siom arall pan fydd Cymru gyfan yn mynd i'r gorsafoedd pleidleisio.

Mae canran sylweddol o'u cefnogwyr yn gyn-bleidleiswyr y Ceidwadwyr, yn ôl gwaith ymchwil, dolen allanol.

Twf Reform sy'n rhannol egluro pam bod cefnogaeth y Blaid Geidwadol wedi disgyn mor isel.

Ond mi all y berthynas rhwng y ddwy blaid fod yn bwysig iawn yn y Senedd nesaf.

Nigel FarageFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cipio rôl Llafur fel y blaid fwyaf yw gobaith Reform

Er bod canlyniad yr etholiad yn y fantol, mae bron yn sicr na fydd yr un blaid yn ennill mwyafrif o seddi.

Mae hynny'n golygu cydweithio o ryw fath er mwyn ffurfio llywodraeth sefydlog.

Ar y naill asgell wleidyddol, ma 'na ddwy garfan amlwg wedi'u ffurfio a phob math o drefniadau yn bosibl o fewn y grwpiau yna.

Hyd yn oed os taw llywodraeth leiafrifol sy'n cymryd yr awenau gyda llai na hanner y seddi, bydd yn rhaid iddyn nhw fargeinio er mwyn deddfu a chytuno cyllideb.

Efallai mai nad yr etholiad fydd cyfnod prysuraf y flwyddyn, os welwn ni drafod brwd yn dilyn canlyniad agos mi all hynny gael effaith y tu hwnt i Gymru. Cofiwch fe fydd 'na etholiadau lleol yn Lloegr ac i Senedd yr Alban hefyd.

Bydd cwestiynau ynglŷn ag arweinyddiaeth Syr Keir Starmer a Kemi Badenoch yn anochel os ydy eu pleidiau nhw'n perfformio'n wael.

Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gyda chymaint o aelodau presennol yn camu lawr, bydd yna lawer o wynebau newydd yn y Senedd nesaf

Bron ers sefydlu'r Senedd – neu'r Cynulliad gynt – mae 'na ddadlau wedi bod ynghylch nifer yr aelodau.

Diolch i gytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru, 96 yn hytrach na'r 60 aelod blaenorol fydd yn cael eu hethol fis Mai.

Wrth i'r seiri osod y desgiau newydd yn y siambr, mae'r pleidiau yn dewis ymgeiswyr ar gyfer yr 16 o etholaethau newydd – a phob un yn ethol chwe aelod.

Un bleidlais fydd gan bobl nawr, yn lle y ddwy flaenorol dros aelod lleol ac aelodau rhanbarthol.

Dywed rhai bod y drefn gyfrannol newydd yn rhoi gormod o rym i bleidiau achos eu bod nhw'n penodi rhestrau caeedig o ymgeiswyr.

Gyda chymaint o aelodau Llafur yn camu i lawr - y cyn-brif weinidogion Mark Drakeford a Vaughan Gething yn eu plith - fe fydd dros hanner aelodau'r Senedd newydd yn cael eu hethol am y tro cyntaf.

Am y rheswm yna yn unig, mae'r holl wynebau newydd yn golygu y bydd 2026 yn flwyddyn o newid mawr.

Pynciau cysylltiedig