Mam 'byth yn meddwl' y byddai'n dathlu pen-blwydd ei baban cynamserol

Arwen mewn cryd ysbyty dan flanced liwgar a gyda thiwbiau yn ei thrwyn yn fuan wedi ei genedi gaethFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
  • Cyhoeddwyd

Mae mam o Wynedd yn dweud nad oedd hi "byth yn meddwl" y byddai'n dathlu ail ben-blwydd ei merch, wedi iddi gael ei geni ar ôl 26 wythnos yn unig.

Roedd Arwen Ann yn pwyso 700g un unig [un pwys, pum owns], pan gafodd ei geni yn Ysbyty Glan Clwyd fis Rhagfyr 2023.

Roedd yn gyfnod "ofnadwy o anodd" i'w mam, Alaw Delun, o Ddyffryn Nantlle, sydd wedi bod yn codi arian i'r elusen uned babanod, Cuddles, oedd yn gymorth mawr iddi ar y pryd.

Mae Cuddles wedi helpu miloedd o fabanod a theuluoedd ar draws gogledd Cymru gan gynnig cymorth a chefnogaeth ariannol ac ymarferol - fel dillad, talebau bwyd, llety a gwestai - yn ogystal â chymorth emosiynol.

Nawr yn dathlu ei 40 mlwyddiant, mae'r elusen uned babanod Ysbyty Glan Glwyd ac Ysbyty Maelor yn dweud eu bod yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac yn ehangu i gefnogi teuluoedd uned mamolaeth Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Rhieni Arwen wrth ei chrud wrth iddi gael triniaeth ysbyty ar ôl cael ei geni mor gynnarFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alaw a'i gŵr wedi bod yn codi arian i'r elusen eleni

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Alaw bod ei merch wedi treulio 130 diwrnod yn yr ysbyty - 105 yn Ysbyty Glan Clwyd a 25 yn Ysbyty Gwynedd - wedi'r enedigaeth.

"Aeth hi'n sâl ofnadwy... oedd hi'n cael trafferth cael ei gwynt a gath hi hemorrhage really drwg tua 10 diwrnod ar ôl iddi gael ei geni.

"Felly, oedd o'n adeg ofnadwy o anodd," meddai.

Dywedodd bod Cuddles wedi bod yn "ffantastig" yn y cyfnod yma ac wedi rhoi menig arbennig iddi a oedd yn ei galluogi i ddal Arwen yn y dyddiau cynnar.

"Am bo' ni methu cyffwrdd hi am y pythefnos cynta', oedden nhw'n helpu efo hynna drwy roi 'Zaky Hand' i ni oedd yn gadael ni roi cuddle i hi.

"Gafon ni becyn croeso a voucher bwyd a dwi'n cofio ar un adeg pan oedd Arwen yn ddifrifol sâl, gafodd ni hotel i aros mewn wrth ochr yr ysbyty a oedd yn ffantastig i fod mor agos a ddim gorfod teithio am awr.

"A pan aethon ni adra oedd Cuddles 'di rhoi iPadsso odda' nhw'n tynnu lluniau idda ni a just gadael ni wybod bod hi'n iawn. Fedrai'm diolch idda nw ddigon."

Arwen, sydd bellach yn ddyflwydd oed, ger llwybr fynyddig gyda chi'r teuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Arwen, sydd bellach yn ddyflwydd oed

Mae Alaw wedi bod yn codi arian i'r elusen eleni.

Dywedodd ei bod hi wedi cerdded 600 milltir mewn mis ac wedi gwneud "tractor run" gyda'i gŵr yn Nyffryn Nantlle.

"Mae'r elusen mor agos i fy nghalon i," meddai.

"A dwi mor falch 'mod i'n gallu rhoi rhywbeth yn ôl, gan fod nhw di bod yna i ni ar amser mor galed."

"Mae Arwen wedi altro llwyth. Doedden ni byth yn meddwl byswn ni'n cyrraedd yr adeg yma ond mae hi'n gwneud yn grêt."

Pynciau cysylltiedig