Dynes wedi marw ar ôl disgyn tu allan i feddygfa yn Ninbych - cwest

Celia AdamsFfynhonnell y llun, Heddlu'r Gogledd
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Celia Adams mewn ysbyty yn Stoke, ddeg diwrnod ar ôl disgyn tu allan i feddygfa yn Ninbych

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi cofnodi bod dynes 81 oed, a gafodd ei tharo gan gar ei mab ar ôl disgyn y tu allan i feddygfa yn Ninbych, wedi marw drwy ddamwain ac nid o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.

Bu farw Celia Adams o Henllan ym mis Chwefror 2025, ddeg diwrnod ar ôl iddi ddisgyn y tu allan i feddygfa Bronyffynnon yn Ninbych.

Clywodd y cwest nad oedd ei mab Ian Adams, wedi sylweddoli'n syth ei fod wedi ei tharo gyda'i gar ar ôl iddi ddisgyn.

Ond dywedodd y crwner ei bod hi'n debygol mai'r cwymp arweiniodd at farwolaeth Celia Adams, yn hytrach na'r gwrthdrawiad wedyn.

'Ddim wedi gweld ei fam na theimlo ergyd'

Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun bod Ian Adams wedi parcio ei gar Range Rover yn un o'r ddau safle parcio i feddygon ym Meddygfa Bronffynnon, er mwyn i'w fam, oedd ddim yn gallu cerdded yn dda, fod mor agos at y drws â phosib.

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y gwrandawiad, dywedodd Mr Adams, oedd yn ofalwr i'w fam, ei fod o wedi cerdded gyda'i fam rownd cefn ei gerbyd, a'r un oedd wedi ei barcio drws nesa' iddo, gan ei gadael tua 4 troedfedd o ddrws y feddygfa er mwyn symud ei gar i faes parcio arall.

Disgrifiodd Mr Adams sut y gwnaeth symud ei gar yn ôl, gan edrych am draffig ar y ffordd, a dywedodd nad oedd wedi gweld ei fam, ac nad oedd "wedi teimlo unrhyw ergyd, ddim wedi teimlo unrhyw beth", ac nad oedd synwyrwyddion y car wedi canu.

Dangosodd lluniau camera oddi ar gerbyd arall oedd wedi troi ar y ffordd, bod Mrs Adams yn gorwedd ar y llawr a cherbyd Mr Adams yn gyrru i ffwrdd.

Sylweddolodd staff yn y feddygfa bod dynes yn gorwedd ar y llawr yng nghefn yr adeilad, ac fe gafodd ei chludo i mewn i'r feddygfa i gael ei thrin wrth alw am ambiwlans.

Dim ond pan glywodd ei fam yn dweud wrth staff ei bod wedi disgyn a bod cerbyd wedi ei tharo y sylweddolodd Mr Adams beth oedd wedi digwydd.

Dywedodd un meddyg yn y practis, Dr Sian Glover, bod gan Mrs Adams anaf i ochr ei hwyneb.

Ychwanegodd ei bod yn ymwybodol bod Mrs Adams yn glaf oedd â phroblemau symudedd, ac a oedd yn disgyn yn gyson.

Cafodd Mrs Adams ei chludo'n wreiddiol i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, cyn cael ei throsglwyddo i Ysbyty Brenhinol Stoke.

Cafodd lawdriniaeth am doriadau i'w hasennau, ond oherwydd cyflwr osteoporosis roedden nhw'n rhy denau, a dim ond un asen oedd yn bosib ei thrin.

Bu farw Mrs Adams 10 diwrnod yn ddiweddarach ar 28 Chwefror, a hynny oherwydd trafferthion anadlu yn sgil y toriadau yn ei hasennau, a'r ffaith ei bod yn fregus.

'Dynes dalentog oedd â'r galon fwyaf'

Cofnododd Crwner Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol), John Gittins, iddi farw'n ddamweiniol yn hytrach na thrwy wrthdrawiad ffordd.

Dywedodd y Crwner, o ystyried ei diagnosis o osteoporosis, ei bod hi'n debygol bod y toriadau i'w hasennau a arweiniodd at ei phroblemau anadlu, wedi cael eu hachosi wrth iddi ddisgyn, cyn i'r cerbyd ei tharo.

"Fe ddisgynnodd hi'n ddamweiniol," meddai'r crwner.

Mewn teyrnged yn dilyn ei marwolaeth, disgrifiodd ei theulu Mrs Adams fel dynes "oedd â llawer o dalentau a'r galon fwyaf", gan ddweud mai hi oedd y "glud oedd yn cadw'r teulu ynghyd".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig