Teyrngedau i 'ddynes garedig' fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Ninbych

Bu farw Celia Adams o ardal Henllan mewn ysbyty yn Stoke
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes 81 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Ninbych wedi rhoi teyrnged iddi hi.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad y tu allan i Feddygfa Brynffynon ar 18 Chwefror.
Bu farw Celia Adams o ardal Henllan mewn ysbyty yn Stoke ar 28 Chwefror.
Dywedodd ei theulu ei bod hi "nid yn unig yn wraig, mam, chwaer, nain a hen-nain, ond hi oedd y glud oedd yn dal ein teulu at ei gilydd".
'Un o'r calonnau mwyaf'
Yn eu teyrnged dywedodd y teulu bod "gan Celia nifer o dalentau ac roedd ganddi un o'r calonnau mwyaf".
"Roedd hi'n caru cŵn ac mi wnaeth hi achub a rhoi cartref i nifer ohonyn nhw dros y blynyddoedd... roedd ei chartref a'i chwmni yn lle diogel i nifer.
"Mae'n calonnau ni wedi torri fod Celia wedi marw'n dawel gyda'i theulu."
Tra'n diolch i bobl am eu cefnogaeth, mae'r teulu'n gofyn am breifatrwydd i alaru gyda'i gilydd.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn cydymdeimlo gyda theulu Celia Adams ar adeg anodd iawn.