Molly Parkin oedd y 'cymeriad mwyaf lliwgar erioed' - Huw Fash

Roedd Molly Parkin, fu farw yn 93 oed, yn olygydd ffasiwn gyda chylchgronau Nova a Harper's and Queen
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn marwolaeth yr artist a chynllunydd Molly Parkin yn 93 oed, mae'r arbenigwr ffasiwn Huw Rees wedi hel atgofion am daith trên cofiadwy gyda hi.
Roedd Huw 'Fash' Rees yn cofio'n ôl i'w ddyddiau ysgol yn dilyn y newyddion am farwolaeth y Gymraes ddaeth i enwogrwydd gyntaf yn yr 1960au.
Ers y diwrnod yna pan deithiodd Huw gyda'i ffrindiau i Lundain heb i'w rieni wybod, dywedodd bod Molly Parkin wedi cael effaith fawer ar ei fywyd.
A hithau wedi cael "dylanwad mawr ar lot o bobl yn y 60au a'r 70au", ychwanegodd bod angen mwy o werthfawrogiad yng Nghymru o'i gwaith yn y byd celf a ffasiwn.

Sioe ffasiwn Molly Parkin yn 2010
Roedd Parkin, gafodd ei geni yng Nghwm Garw, yn gymeriad lliwgar a chyfarwydd iawn am flynyddoedd, a ddaeth i amlygrwydd am ei steil unigryw.
Bu farw'r artist, cynllunydd ffasiwn, newyddiadurwraig a nofelydd, yn 93 oed.
Dywedodd Huw 'Fash' Rees ei bod wedi cael effaith fawr ar ei fywyd ers iddo ei chyfarfod pan oedd o'n 17 oed wrth deithio gyda dau ffrind i Lundain.
"Bant a ni ar y trên yn dawel iawn yn esgus bod ni'n sefyll gyda ffrind a pwy ddaeth ar y trên yng Nghaerdydd ond y cymeriad mwyaf lliwgar o'n i wedi gweld erioed, mewn sidan porffor a coch, penwisg enfawr ar ei phen, yn golur i gyd a glass o win yn ei llaw credwch chi neu beidio - a'r person hynny oedd Molly Parkin," meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.
"Wnaeth hi rannu'r daith 'da'r tri ohonom ni i Lundain.
"Gallai byth ddweud fan hyn beth wnaeth hi'n galw ni, ond galw ni'n blant bach diniwed o Gymru a rhoi tocynnau i ni fynd y nosweth hynny i'r Camden Palace.
"Wrth gwrs roedd Molly yn serennu yn y Camden Palace oherwydd roedd hi'n artist, roedd hi'n berson enwog - hi oedd golau disglair Llundain yn yr 1960au."

Fe gafodd Molly Parkin ei geni yn 1932
Roedd Parkin yn gweithio i brif gylchgrawn ffasiwn yr 1960au - Nova Magazine. Bu hefyd yn sgwennu i Harper's and Queen ac enillodd wobr fel golygydd ffasiwn i'r Sunday Times.
Roedd hi hefyd wedi bod yn artist llwyddiannus yn Llundain cyn iddi ddod yn gynllunydd ffasiwn.
Dywedodd Huw Rees bod ei henw yn cael ei grybwyll yn aml mewn darlithoedd pan oedd o'n fyfyriwr celf, a bod angen gwerthfawrogi ei dylanwad.
"Ni ddim wedi clywed lot ohoni yng Nghymru. Mae hi wedi bod yn artist enwog am flynydde mawr, ond oes darn o'i gwaith hi mewn unrhyw sefydliad yng Nghymru?
"Tybied fi ydi bod dim 'da ni o'i gwaith hi o gwbl yn y wlad yma. Falle bod hi'n amser nawr bod ni - falle mewn retrospective - yn buddsoddi yn narnau o waith Molly...
"Mae [ganddi] lot fawr o waith gafodd ddylanwad mawr ar lot o bobl yn y 60au a'r 70au."

Mae Huw Rees yn wyneb cyfarwydd yn y cyfryngau Cymraeg yn trafod ffasiwn
Yn ddiweddarach fe ddaeth Parkin yn wyneb cyfarwydd ar y teledu gan siarad yn agored am ei bywyd, gan gynnwys ei magwraeth gan rieni crefyddol oedd yn gaeth i alcohol, a'i brwydr hi ei hun gydag alcoholiaeth.
Ar ôl blynyddoedd llewyrchus yn Llundain fe gollodd y cyfan wedi iddi fynd yn fethdalwr.
Symudodd i dŷ cyngor yn ardal World's End, Chelsea - un o ardaloedd mwyaf ffasiynol Llundain yn yr 1960au a'r 1970au, lle'r oedd siop ddillad Malcolm McLaren a Vivienne Westwood.
Ychwanegodd Huw Rees: "Hyd at y diwedd roedd hi'n peintio a phethau yn y cartref bach yma oedd gyda hi.
"Felly, er bod hi wedi colli'r cyfan ac wedi colli'r enwogrwydd oedd gyda hi yn y 60au a'r 70au, roedd hi dal yn berson oedd yn dwli ar y pethau creadigol yma.
"Ac anghofia i byth y diwrnod hwnnw ar y trên yn mynd i Lundain."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2025

- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2025
