Sam Hickman: Y delynores sioe yn ei dillad disglair a'i phenwisg plu

- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n mynd i'r Eisteddfod bob blwyddyn, efallai eich bod chi'n meddwl eich bod yn gyfarwydd â cherddoriaeth telyn. Ond ydych chi erioed wedi clywed yr offeryn yn cael ei chanu gan berson yn gwisgo dillad â sequins a phenwisg plu?
Telyn. Canu. Comedi. Gwisgoedd lliwgar. Cabaret. Ychydig o noethni efallai. Gewch chi bopeth yn sioeau Sam Hickman o Gaerdydd.
Ac yn sicr, nid yr Ŵyl Cerdd Dant mohoni…
Y Showgirl ar y delyn
Wedi dysgu ei hun i ganu'r delyn mae Sam, a hynny tra'i bod hi'n astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda'r freuddwyd o fod yn gantores opera. Roedd hi'n chwaraewraig telyn 'draddodiadol' meddai, tan iddi sylweddoli fod modd iddi gael ychydig mwy o hwyl gyda'r holl beth...
"'O'n i'n trio meddwl, 'lle dwi eisiau mynd gyda fy ngyrfa?' ac yn 2018 'nes i ysgrifennu albwm a gwneud cyngerdd ohono, a dyna lle ddaeth y nonsens showgirl i mewn.
"Daeth e oherwydd fy syniad fod popeth yr un mor bwysig â'i gilydd pan dwi ar y llwyfan – pob elfen yn ennill ei le.
"Pan ti'n tyfu lan yn gerddor traddodiadol neu glasurol, ti'n cael dy ddysgu i wisgo du i gyd, a'r unig beth pwysig ydy beth rwyt ti'n ei chwarae, a dyna ni.

Sam yn un o'i gwisgoedd trawiadol ar y llwyfan
"Ond gyda fy ngwaith i, mae popeth yn hafal. Os ti'n canu cân, beth wyt ti am ei wisgo; sut stori mae dy wisg yn ei hadrodd? Pan ti'n cyflwyno dy gân, mae angen bod mor bwysig â'r gân ei hun. Mae'n gyfanwaith. Ti'n gosod y cyd-destun cyn dod at y gân, ac mae hynny'n cyfoethogi profiad y gynulleidfa."
Ac mae Sam yn pentyrru elfen ar ben elfen i'w pherfformiadau, sydd yn cyfuno cerddoriaeth y delyn, caneuon gomedi, gwisgoedd trawiadol, oll o dan sglein pelen ddisgo lachar... mae fel tasai hi yn ceisio herio ei hun gyda phob perfformiad, meddai.
"Mae bod yn delynor sy'n canu yn sgil anodd i'w meistroli, ac rwyt ti'n gwneud hynny heb edrych ar yr offeryn, ac yn canu mas ac yn dweud jôcs yr un pryd. Ac i fod yn gwneud hynny mewn corset a sodlau uchel... pa mor anodd alla i wneud hyn i fy hun?! Dwi'n rhoi her i'n hun bob tro dwi'n cerdded ar y llwyfan!
"Ond dwi'n hoffi ychwanegu ychydig bach o nonsens a silliness i fy mherfformiadau, felly o'n i isho gwneud beth o'n i isho, a jest gobeithio fod pobl yn ei fwynhau."
Apelio i bobl sy'n hoffi 'sioe'
Mae Sam bellach yn perfformio gigs ledled y DU, yn cynnal nosweithiau cabaret yn lleol yng nghyffiniau Caerdydd, ac hyd yn oed wedi dechrau ymddangos mewn nosweithiau comedi, lle mae ei pherfformiad yn sicr yn sefyll allan o'i gymharu â'r stand-yps sy'n rhannu'r un llwyfan.
Mae hi'n denu tyrfa o bob math a phob oed, meddai, er ei bod yn pwysleisio nad yw ei sioeau yn addas i blant ("plîs peidiwch â dod â nhw – enw'r sioe ddiwetha' oedd Rude Sexy Harp Concert, ac o'n i'n noeth yn yr ail ran!").
Felly beth yw'r ymateb i'w sioeau, yn enwedig gan bobl sydd wedi arfer â gweld y delyn mewn perfformiadau mwy traddodiadol?
"Pan 'nes i ddechrau mynd yn fwy gwirion gyda'r holl beth, roedd fy nghyd-delynorion wrth eu bodd ac yn dweud pa mor wych oedd e. Maen nhw'n gefnogol iawn, sydd mor hyfryd pan ti'n gwthio'r ffiniau. A does yna neb wedi dweud 'ti methu gwneud hynny'.

"Dwi'n meddwl fod y sioe yn apelio at bobl sy'n hoffi ychydig o spectacle, rhywbeth ychydig yn wirion, ond hefyd gyda jôcs... dwi'n meddwl fod rhywbeth i bawb. Ac mae pobl yn teimlo'n saff, a jest am gael noson braf.
"Mae wedi cymryd dipyn o amser i mi ffeindio fy nghynulleidfa, achos dydy hi ddim yn noson gomedi, yn gyngerdd telyn nac yn sioe cabaret arferol. Ond dwi'n meddwl mai un o fy nghryfderau i yw mod i mor unigryw.
"Dwi'n araf bach yn ffeindio fy mhobl, ac mae hynny'n gwneud pethau'n llawer haws."
Yn 2024 a 2025, cafodd fynd draw i'r Eisteddfod Genedlaethol, gan roi blas i Steddfotwyr traddodiadol o'i dehongliad hi o'r delyn ar stondin Paned o Gê.
A hithau'n dysgu Cymraeg, roedd hyn yn brofiad newydd iddi, ond roedd hi wedi mwynhau cael cynulleidfa ychydig yn wahanol.
"Ges i help ffrind i gyfieithu caneuon i'r Gymraeg, a chanu pethau oedd yn addas i'r teulu cyfan. Achos fod fy nghomedi i'n wirion – 90% gwirion a 10% calon, 'sen i'n ddweud – mae hynny'n gweithio mewn unrhyw iaith dwi'n meddwl. Ges i amser hyfryd, a chael pobl hyfryd yn y gynulleidfa."

Y dillad yn dweud y stori
Mae perfformwraig unigryw angen gwisg unigryw, ac mae Sam yn mynd ati i greu ei holl ddillad sioe, am fod ei hanghenion mor unigryw...
"Mae'n rhaid i mi allu chwarae'r delyn yn iawn yn fy nillad, felly mae'n rhaid i fy mreichiau allu symud yn iawn. Ac mae rhaid hefyd cofio dy fod yn eistedd gyda dy goesau ar led o gwmpas telyn, felly dwi wedi hen ddysgu sut fath o ffrogiau sy'n addas mewn sioeau!
"A dyna hefyd pam fod ymarfer yn y wisg mor hanfodol, er mwyn gwneud yn siŵr mod i'n gallu chwarae. Roedd un benwisg plu gen i yn tueddu i fynd yn sownd yn y disgiau ar dop y delyn os oedd fy mhen yn y lle anghywir, felly mae ymarfer yn bwysig!
"Dwi'n cael fy ysbrydoli gan gynnwys fy sioe neu gan ddefnyddiau ail law dwi'n dod ar eu traws er mwyn creu gwisgoedd gwych; dwi'n hoffi eu defnyddio i ddweud stori. Dwi wir yn hoffi mod i'n gallu cael hwyl gyda beth dwi'n ei wisgo."

Ac er fod ymarfer yn hanfodol, er mwyn sicrhau ei bod yn gallu chwarae yn ei sodlau uchel a'i phlu ac yn parhau i gadw sgwrs gyda'r gynulleidfa wrth berfformio, mae pethau'n dod yn haws iddi, meddai, wrth iddi ddod yn fwy cyfforddus wrth berfformio y mathau o ddeunydd mae hi eisiau eu perfformio.
"Dwi mor gyfforddus, yn enwedig pan dwi'n chwarae fy nhelyn fawr; mae'n fawr a ridiculous ond mae'n teimlo fel estyniad ohona i. A dwi'n gwybod beth dwi'n ei wneud, a dwi jest yn cael mwynhau.
"Dwi'n meddwl ei bod hi mor bwysig i fod yn driw i ti dy hun a ffeindio ffordd o rannu dy neges.
"A bod pawb yn cael hwyl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Mai 2023

- Cyhoeddwyd12 Medi 2024

- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020
