Ateb y Galw: Dr Catrin Edwards

Dr Catrin EdwardsFfynhonnell y llun, Mudiad Meithrin
  • Cyhoeddwyd

Dr Catrin Edwards yw Prif Weithredwr newydd Mudiad Meithrin, a ddechreuodd ar y swydd ganol mis Rhagfyr.

Dyma ddod i'w hadnabod ychydig yn well.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Llyfu bys a'i roi yn slei bach yn y pot siwgr yn nhŷ Aunty Lillian, y fenyw hŷn oedd yn gymydog i ni pan oedden ni'n byw yn Runcorn. Rhaid mod i tua tair neu bedair ar y mwyaf, a Bethan fy chwaer yn bump.

Gadawon ni Runcorn pan oeddwn i'n bedair i symud i Lantrisant ond fe aethon ni nôl i weld Aunty Lillian, a'i gwallt porffor, yn rheolaidd ac mae Mam a Dad yn dal i gadw mewn cysylltiad gyda'r cymdogion ac aelodau'r capel Cymraeg oedd yna.

Catrin a BethanFfynhonnell y llun, Catrin Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Catrin a'i chwaer, Bethan, yn Runcorn, ble'r oedd y teulu yn byw cyn symud i Lantrisant

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Gwisgo lan fel creion Crayola ar gyfer parti Guides. Roedd pob merch arall wedi 'gwisgo lan' yn ei dillad disgo. Mae'r anallu yna i fod yn 'cŵl' yn parhau gen i.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Byr, bywiog, boliog (pan mae'r cacs ar gael).

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Y noson orau a falle'r noson hiraf: fe es i ac Ant, fy ngŵr, yn syth o'n parti priodas yn Llangors (wedi i bob un o'n gwesteion helpu gyda'r tacluso!) adref i Gaerdydd yn yr oriau man i gasglu ein casys a mynd at faes awyr Caerdydd.

Fe deithion ni drwy'r nos a glanio yn Efrog Newydd erbyn y bore 'amser nhw'. Doedd y croeso gan yr Efrogion Newydd ddim yn grêt ar ôl iddyn nhw sylweddoli nad oedd arian parod gyda ni i roi tip yn y tacsi, ond roedd hi'n brofiad hudolus serch hynny.

Ant a CatrinFfynhonnell y llun, Catrin Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Ant a Catrin ar ddiwrnod eu priodas - cyn iddyn nhw deithio drwy'r nos a chyrraedd Efrog Newydd yn y bore!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Fy niwrnod olaf-ond-un yn fy swydd flaenorol, gyda'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, pan fu tri gofalwr ifanc yn rhoi tystiolaeth gerbron y Senedd. Roeddwn i'n llawn balchder!

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi am chetan 'chydig bach a dweud 'Bannau Brycheiniog'. Treuliais fy mhen-blwydd yn 30 ar ben mynydd yn y Bannau ac fe briodais fy ngŵr ger Llyn Llangors. Mae tŷ Mamgu a Tadcu ym Mrynmawr ac mae llwybr gerdded lawr y lôn yn arwain yn syth at y Parc Cenedlaethol.

Catrin ym Mannau BrycheiniogFfynhonnell y llun, Catrin Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Catrin yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 yn ei hoff le - Bannau Brycheiniog

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Oes, digonedd. Un sy'n amlwg yn y tŷ ar hyn o bryd yw fy anallu i glirio lan ar ôl darn o waith DIY. Mae'r paentio wedi gorffen ond mae'r tuniau paent dal mas.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Fel sawl un, mae gan Pride and Prejudice le arbennig yn fy nhaith gyda llenyddiaeth; taith aeth â fi trwy gyfnod byr fel academydd yn y maes. Addasiad 1995 Andrew Davies o'r nofel – gyda'r olygfa enwog lle mae Colin Firth yn camu o'r llyn – oedd y cyfrwng agorodd y drws i mi, er mai Alison Steadman fel Mrs Bennet yw'r seren yn fy marn i. Dwi dal wrth fy modd gyda'r addasiad hyn!

Yn fwy cyfredol, dwi'n ffan mawr o'r podlediadau Gwleidydda a For Wales, See Wales. Mae cymaint o sôn am ddiffyg sylw i wleidyddiaeth Cymru o'r cyfryngau mawr ond mae rhain yn llenwi'r bwlch a thynnu sylw at y materion sydd o bwys. Dwi'n argymell!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Sylweddoli, wrth checio mewn i'r fferi yn haf 2024, nad oedd fy mhasbort yn ddilys, er i mi adnewyddu pasbort un plentyn a chael pasbort o'r newydd i blentyn arall yn y misoedd cynt.

Ffodus iawn, gyda chyfarfod brys yng Nghasnewydd a Eurostar gyda'r babi yn syth i Ffrainc, dim ond deuddydd o wyliau gollais i ac roedd Ant a'r bechgyn yn yr orsaf drenau'n aros amdana i.

Catrin a'r plant yn y maes awyrFfynhonnell y llun, Catrin Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Cwtsh i groesawu Mam i'r orsaf drenau ar ôl llwyddo i adnewyddu'r pasbort ar frys, a chyrraedd Ffrainc o'r diwedd!

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Sigmund Freud, heb os. Ond falle mae sgwrs unochrog dros y ddiod fyddai hi. A dwi'n siŵr o or-feddwl pob dim dwi'n dweud!

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Erbyn hyn, does dim llawer o bobl yn gwybod 'mod i'n arfer gwneud bellydance.

Ges i gyfle i ddawnsio mewn bwyty unwaith. Doedd dim gwahoddiad i fynd yn ôl, sydd falle yn esboniad o pam fod y gyrfa yna wedi dod i ben.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Cwtshys lu gyda'r teulu. Dim mwy, dim llai.

Tri o blant mewn blancediFfynhonnell y llun, Catrin Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llun yma o'i phlant sydd ar y wal yn agos iawn at galon Catrin

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Ar y wal yn y stafell deulu mae llun o fy mhlant yn gorwedd ar y llawr o'r lleiaf i'r mwyaf, i tri ohonyn nhw efo'u blancedi babis gyda'u henwau wedi pwytho ynddynt.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Byddwn i'n fi fy hun, ond yn blentyn.

Dwi ddim yn siŵr os fydden i eisiau cael yr holl ddealltwriaeth sydd gen i nawr – faint wnaeth fy rhieni drosto fi a dangos fy niolch iddyn nhw ar y pryd – neu llwyr ymgolli yn y profiad yna o gael plentyndod lle roedd gen i'r rhyddid i gymryd yn ganiataol bod gen i deulu sy'n fy ngharu, bod beic, bod gwyliau haf, bod digonedd o fisgedi yn y cwpwrdd.

Nid pob plentyn sy'n cael y profiadau a'r breintiau ges i. Mae hynny wastad ar flaen fy meddwl, yn enwedig yn fy swydd gyda'r Mudiad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb: