Cannoedd heb drydan wrth i Storm Goretti daro Cymru

Eira ar yr A465 yn Nowlais, Merthyr Tudful, brynhawn Iau
- Cyhoeddwyd
Mae'r tywydd gaeafol wedi cyrraedd rhannau o Gymru nos Iau ac mae rhybudd y gellir disgwyl eira mawr, gwyntoedd cryfion a glaw trwm dros nos a fore Gwener.
Nos Iau, yn ôl y Grid Cenedlaethol, mae cannoedd heb drydan yn ardaloedd Ystradgynlais, Arberth, Pontardawe, Llandrindod ac Aberteifi.
Mae yna rybudd gan Heddlu'r De i yrwyr osgoi rhannau o ffyrdd yr A4061 a'r A4107.
Mae eira trwm ar Ffordd Blaenau'r Cymoedd rhwng cylchfan Dowlais ym Merthyr a Ffordd yr Orsaf yng Nghlydach ac ar ffordd yr A470 rhwng cylchfan Mallwyd a'r Foel.
Mae yna adroddiadau hefyd o gawodydd o eira a gwyntoedd cryfion yng ngogledd Penfro a chawodydd o eira yn ardal Llanfyllin.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio bod yna amodau tywydd eithafol ar draws Ceredigion ac yn rhybuddio gyrwyr i beidio teithio oni bai bod y daith yn gwbl hanfodol.
Mae'r rhybudd oren am eira o Storm Goretti - a gafodd ei henwi gan swyddfa dywydd Ffrainc - mewn grym o 20:00 nos Iau tan 09:00 ddydd Gwener.
Mae'n berthnasol ar gyfer rhannau o 13 sir yng Nghymru - Blaenau Gwent, Caerffili, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Merthyr Tudful, Powys, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hyd at 15cm o eira ddisgyn mewn sawl man ar draws ardal y rhybudd, a hyd at 30cm mewn ambell fan, yn enwedig ar dir uchel.

Mae pedwar rhybudd gwahanol mewn grym ar gyfer Cymru nos Iau a bore Gwener
Mae rhybudd melyn am eira mewn grym ar gyfer pob sir yng Nghymru heblaw am Ynys Môn, Abertawe a Bro Morgannwg, a hynny rhwng 17:00 ddydd Iau a 12:00 ddydd Gwener.
Mae disgwyl gwyntoedd cryfion hefyd allai waethygu'r sefyllfa, ac mae rhybudd am hynny mewn grym ar gyfer rhannau o Sir Benfro, Ceredigion a'r Gŵyr rhwng 15:00 ddydd Iau a 08:00 fore Gwener.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai gwyntoedd o hyd at 70mya daro arfordir y sir.
Ar ben hynny mae rhybudd melyn am law mewn grym i'r de-orllewin rhwng 12:00 ddydd Iau a 10:00 fore Gwener, sy'n effeithio ar rannau o Abertawe, Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Yr eira ym Mlaengwynfi yn Sir Castell-nedd Port Talbot nos Iau
Mae teithwyr ar drenau yn cael eu hannog i ddisgwyl newidiadau i wasanaethau, gyda sawl llwybr i gau yn llwyr brynhawn a nos Iau oherwydd yr eira sy'n cael ei ragweld.
Mae Trafnidiaeth Cymru'n dweud bod rhannau o'r rhwydwaith wedi cau o tua 14:00 ddydd Iau tan ddydd Gwener oherwydd rhesymau diogelwch.
Mae teithwyr yn cael eu hannog i gadw golwg ar wefan Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol am y diweddaraf.
Fe wnaeth ambell ysgol gau yn gynnar ddydd Iau ac mae rhai cynghorau eisoes wedi cyhoeddi y bydd ysgolion ar gau ddydd Gwener - y cyngor yw i edrych ar eu gwefannau.
'Galw mwy o bobl mewn'
Mewn diweddariad nos Iau dywedodd Andrew Davies, Pennaeth Gweithrediadau Gorllewin Cymru yn y Grid Cenedlaethol, eu bod yn "paratoi trwy'r flwyddyn i wneud yn siŵr bod ni'n barod am storm".
"Ni wedi galw mwy o bobl mewn heddiw a fory a dros nos heno i wneud yn siŵr bod digon o bobl gyda ni i ymateb i unrhyw fault ni'n gweld.
"Mae fwy o bobl yn y contacts centres hefyd i wneud yn siŵr bod ni'n barod i ateb unrhyw alwad ni'n cael o gwsmeriaid," meddai Mr Davies.

"Ni wedi canslo jobs heddiw a fory i wneud yn siŵr bod digon o bobl gyda ni yn barod i fynd mas i unrhyw fault ni'n gweld," medd Andrew Davies
"Os ti'n gweld toriad pŵer, gwna'n siŵr dy fod yn galw 105 sy'n mynd trwyddo i'n contact centre sydd ar agor 24/7 ac yn rhad ac am ddim, meddai Andrew Davies.
"Os ti'n adnabod unrhyw un sydd yn fregus, gwna'n siŵr bod nhw'n cofrestru ar y priority services register.
"Ni wedi canslo jobs heddiw a fory i wneud yn siŵr bod digon o bobl gyda ni yn barod i fynd mas i unrhyw fault ni'n gweld.
"Neud yn siŵr bod y vans yn barod ac mae popeth yn barod i fynd mas mor gyflym a gallwn ni," ychwanegodd.
'Oes rhaid i chi deithio?'
Wrth siarad gyda BBC Cymru fe wnaeth ysgrifennydd trafnidiaeth Cymru, Ken Skates annog pobl i ystyried a ydyn nhw wir angen teithio os yw'r amodau'n heriol.
"Fe allai hi fod yn gyfnod anodd, ond ar draws y llywodraeth mae gennym ni gynlluniau mewn lle i ddelio gyda thywydd anffafriol," meddai.
"Er enghraifft rydyn ni yn yr adran drafnidiaeth wedi asesu lefelau halen ar gyfer graeanu. Mae'r lefelau yn uchel iawn, felly rydyn ni'n barod ar gyfer hyn.
"Mae gennym ni hefyd fflyd o gerbydau graeanu yn barod i fynd.
"Ond bydden i'n apelio ar bobl, gofynnwch i'ch hunain a oes rhaid i chi deithio pan mae hi wedi bwrw eira yn drwm?"

Yr olygfa ym Mlaenau Ffestiniog yn gynharach yr wythnos hon
Daw'r rhybudd diweddaraf wedi i gannoedd o ysgolion fod ynghau yn gynharach yn yr wythnos oherwydd eira a rhew.
Mae cynghorau ar draws ardal y rhybudd wedi bod yn gwneud paratoadau ar gyfer y tywydd gaeafol sydd i ddod.
Mae awdurdodau lleol yn dweud eu bod yn canolbwyntio ar y ffyrdd prysuraf a phwysicaf er mwyn ceisio cyfyngu cymaint â phosib ar unrhyw amharu i deithwyr.
Mae corff Diogelwch Dŵr Cymru a'r gwasanaethau tân ac achub wedi rhybuddio'r cyhoedd i aros yn ddigon pell o unrhyw afonydd neu lynnoedd sydd wedi rhewi.
Maen nhw'n dweud fod dŵr sydd wedi rhewi wastad yn berygl, ac fe allai yn beryg bywyd o fewn eiliadau pe bai'r rhew yn torri.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod aflonyddwch sylweddol wedi bod ym Mhen y Pass [llun o fis Tachwedd] y penwythnos diwethaf
Mae Heddlu'r Gogledd yn annog ymwelwyr i yrru a pharcio'n gyfrifol ac yn ddiogel os ydyn nhw'n dewis teithio i Eryri.
Daw y neges honno yn dilyn aflonyddwch sylweddol ym Mhen y Pass y penwythnos diwethaf, meddai'r llu.
Dywedodd yr heddlu, er bod y rhagolygon yn debygol o achosi aflonyddwch ac amodau teithio anodd, bod pryderon y bydd mwy o bobl yn cael eu denu i ardal Eryri.
'Parcio hurt'
"Roedd yn siomedig iawn gweld ymddygiad mor anghyfrifol y penwythnos diwethaf, gyda phobl yn gadael cerbydau mewn lleoliadau parcio hurt," meddai Jason Diamond o'r llu.
Ychwanegodd bod pobl yn dilyn esiampl ei gilydd, gan "gynyddu'r risg iddyn nhw eu hunain ac eraill yn aruthrol".
Y cyngor os yn ymweld ag Eryri, meddai'r llu, ydy i adolygu'r rhagolygon tywydd ac i barcio'n gyfrifol.
"Bydd awdurdodau lleol yn anfon eu swyddogion gorfodi allan ac yn cyhoeddi hysbysiadau i unrhyw gerbydau sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon."

Mae pobl yn cael eu hannog i gadw draw rhag dringo mynyddoedd oni bai bod ganddyn nhw'r profiad a'r offer hanfodol
Mae tîm achub mynydd Llanberis wedi rhybuddio pobl rhag mentro i ddringo mynyddoedd fel Yr Wyddfa heb y profiad a'r offer cywir, ac maen nhw'n rhybuddio y gallai cwympiadau eira ddigwydd ar dir serth.
Dywedodd Elfyn Jones, sy'n gwirfoddoli gyda'r criw: "Ni ellir gweld nifer o'r llwybrau ar hyn o bryd ac maent wedi'u claddu gan eira, gan ddangos pa mor bwysig yw sgiliau llywio da mewn tywydd fel hyn.
"Mae'r tywydd yn newid yn gyflym, ac mae rhannau uchaf Llwybr Llanberis a'r rheilffordd yn arbennig o beryglus.
"Mae'r eira wedi'i gywasgu ac yn rhewllyd, gan olygu fod cramponau a bwyell rew yn hanfodol, ac mae'n anodd gweld dyfnder y llethrau mawr o eira ar hyd y rheilffordd a gallai hynny arwain at syrthiadau difrifol.
"Mae'r rhain yn sefyllfaoedd gaeafol cymhleth lle mae profiad a barn gadarn yn allweddol."

Mae'r cyhoedd yn cael eu rhybuddio i gadw draw o unrhyw afonydd neu lynnoedd sydd wedi rhewi
Mae disgwyl i nifer o ddisgyblion TGAU sefyll arholiadau llenyddiaeth Cymraeg fore Gwener, sy'n codi'r cwestiwn beth fyddai'r sefyllfa pe bai ysgolion ar gau?
Dywedodd prif weithredwr CBAC, Ian Morgan wrth BBC Cymru yn gynharach yr wythnos hon fod "canllawiau mewn lle ar gyfer holl ysgolion Cymru".
"Os oes rhaid i'r ysgol gau oherwydd tywydd garw neu os nad oes modd i ddisgyblion gyrraedd oherwydd y tywydd, yna mae sawl opsiwn gwahanol y mae modd dilyn," meddai.
"Yr opsiwn pennaf fydd i'r rheiny sy'n sefyll arholiad Saesneg a Chymraeg llên y wythnos hon i sefyll yr arholiadau yn ystod yr haf, fel nad ydyn nhw'n colli allan".
Ychwanegodd: "Byddwn i ddim yn gofidio gormod.
"Dwi'n gwybod y bydd dysgwyr wedi rhoi tipyn o ymdrech i mewn a'u bod am fod yn siomedig, ond mae pethau yn newid a bydd y cyfle yna iddyn nhw yn y dyfodol i sefyll yr uned yn ystod adeg gyfleus yn yr haf."

Roedd nifer o silffoedd gwag mewn un siop ym Machynlleth ddydd Iau wrth i gwsmeriaid baratoi
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog pobl i gymryd camau i ddiogelu eu hunain rhag rhoi rhagor o bwysau ar y gwasanaeth, a'r GIG, ar adeg o'r flwyddyn sydd eisoes yn brysur.
"Mae'r GIG eisoes wedi bod dan bwysau sylweddol ers y Flwyddyn Newydd, ac rydym nawr yn paratoi ar gyfer effaith Storm Goretti," meddai Judith Bryce o'r gwasanaeth.
"Mae tywydd oer yn naturiol yn arwain at gynnydd mewn cwympiadau, anawsterau anadlu a gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, felly mae'n bwysig eich bod yn cymryd camau i leihau'r risg o fynd yn sâl neu'n cael eich anafu, a'n helpu ni i'ch helpu chi.
"Yn anffodus, mae tywydd garw yn golygu y gallai gymryd mwy o amser i gyrraedd rhai cleifion, ond os oes gennych argyfwng gwirioneddol sy'n peryglu bywyd, parhewch i'n ffonio ni.
"Yn bwysicaf oll, byddwch yn garedig ac yn ystyriol i'n staff sy'n gweithio 24 awr y dydd i ddarparu'r gofal gorau posibl i gymunedau yng Nghymru, yn ein canolfannau cyswllt ac ar y rheng flaen."
Brynhawn Iau fe ddywedodd Bethan Andrews, Rheolwr Cyffredinol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Hywel Dda nad oes yr un apwyntiad wedi ei ganslo ar hyn o bryd.
"Os ydych chi wedi cael llythyr i ddod mewn, plis dewch mewn," meddai,
"Ond os nad ydych chi'n teimlo'n saff i ddreifo, mae hwnna'n berffaith iawn a bydd modd trefnu apwyntiad arall.
"Mae'n bwysig bod ni'n cadw'r ysbyty yn llawn gyda'r staff ond hefyd gyda'r gymuned... bod y cleifion gartref yn cael eu gweld gyda'r district nurses," ychwanegodd.
Rhai ysgolion yn parhau ar gau a rhybudd arall
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Sut mae penderfynu cau ysgolion yn yr eira?
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Lluniau: Eira cyntaf 2026
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.