Tywydd oer: Rhai ysgolion yn parhau ar gau gyda rhybudd arall

Llun o ddefaid mewn cae yn llawn eiraFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Defaid yn pori yn yr eira ar fryniau ger Llangollen

  • Cyhoeddwyd

Mae 17 o ysgolion yn parhau ar gau yng Nghymru wedi'r tywydd garw.

Mae wyth ysgol yn Sir Gâr, dolen allanol, pump yn Sir Benfro, dolen allanol, tair yn Sir Ddinbych, dolen allanol ar gau ynghyd â safle uwchradd Ysgol Bro Idris, Dolgellau.

Roedd dros 350 o ysgolion ar gau ddydd Mawrth wrth i'r eira a'r rhew effeithio ar rannau o Gymru.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, dolen allanol y perygl mwyaf erbyn hyn ydy'r rhew ac maen nhw'n cynghori teithwyr i gymryd gofal ychwanegol a chynllunio teithiau.

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion teithio ar gael ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.

Fe ddaeth rhybudd melyn am rew yn yn y canolbarth a'r dwyrain i ben am 10:00 fore Mercher.

Rhybudd melyn arall yn sgil Storm Goretti

Mae rhybudd melyn arall wedi ei gyhoeddi am eira nos Iau a fore Gwener wrth i Storm Goretti gyrraedd.

Llun map o Gymru a Lloegr yn dangos yr ardal sydd dan y rhybudd melyn dydd IauFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am eira yn para o 18:00 ddydd Iau tan 12:00 ddydd Gwener

Mae'r rhybudd yn effeithio ar bob sir yng Nghymru heblaw Ynys Môn a Sir Benfro, gyda disgwyl y gallai 5-10cm o eira ddisgyn mewn sawl ardal a hyd at 20cm dros dir uchel.

Mae'n bosib y gall gwyntoedd cryf hefyd achosi rhywfaint o eira i luwchio.

Y cyngor yw paratoi o flaen llaw am doriadau pŵer posib ac i deithiau gymryd yn hirach na'r disgwyl.

Pibell ddŵr wedi cau rhai o ysgolion Caerdydd

Mae Ysgol Plasmawr, Caerdydd ar gau hefyd a saith ysgol arall yn y brifddinas ar ôl i bibell ddŵr fyrstio ger yr orsaf drenau yn Radur.

Yn ôl swyddog ar ran Dŵr Cymru mae nhw'n "brysur yn gweithio ar adfer y cyflenwad dŵr i gwsmeriaid mor fuan â phosib" ac yn diolch i bawb am eu hamynedd tra eu bod nhw'n datrys y sefyllfa.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol