Cannoedd o ysgolion ar gau a rhybudd bod mwy o eira i ddod

Roedd Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin, yn disgleirio cyn cinio
- Cyhoeddwyd
Mae dros 350 o ysgolion wedi bod ar gau ddydd Mawrth wrth i'r tywydd garw barhau i effeithio ar rannau o Gymru.
Roedd 12 cyngor sir ar draws Cymru wedi cadarnhau na fyddai ysgolion o fewn eu hardaloedd ar agor i ddisgyblion oherwydd y tywydd oer.
Daeth rhybudd melyn am eira a rhew i ben am 11:00 fore Mawrth, ond mae rhybudd pellach am rew wedi ei gyhoeddi ar gyfer nos Fawrth a bore Mercher.
Mae yna rybudd melyn arall hefyd wedi ei gyhoeddi am eira nos Iau a bore Gwener wrth i Storm Goretti deithio ar draws y wlad.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, dolen allanol y perygl mwyaf erbyn hyn ydy'r rhew ac maen nhw'n cynghori teithwyr i gymryd gofal ychwanegol a chynllunio teithiau.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion teithio ar gael ar wefan Traffig Cymru, dolen allanol.
Rhybudd melyn yn sgil Storm Goretti

Mae rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd am eira yn para o 18:00 ddydd Iau tan 12:00 ddydd Gwener
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn newydd am eira rhwng 18:00 dydd Iau a 12:00 ddydd Gwener.
Daw yn sgil storm sydd wedi'i henwi'n Goretti gan swyddfa dywydd Ffrainc.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar bob sir yng Nghymru heblaw Ynys Môn a Sir Benfro, gyda disgwyl y gallai 5-10cm o eira ddisgyn mewn sawl ardal a hyd at 20cm dros dir uchel.
Mae'n bosib y gall gwyntoedd cryf hefyd achosi rhywfaint o eira i luwchio.
Y cyngor yw paratoi o flaen llaw am doriadau pŵer posib ac i deithiau gymryd yn hirach na'r disgwyl.

Defaid yn Llangollen, Sir Ddinbych
Mae Cyngor Penfro wedi gofyn ar y cyfryngau cymdeithasol i bobl osgoi teithio "oni bai bod hynny'n gwbl hanfodol".
Dywedon nhw fod tymereddau oer "yn parhau i effeithio ar rannau o'r sir heddiw ac mae disgwyl i'r amodau barhau i fod yn heriol tan yn ddiweddarach yn y dydd".
"Gall ffyrdd fod yn rhewllyd ac mae teithiau diangen yn rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys a'n timau priffyrdd.
"Mae ein criwiau wedi bod yn gweithio ddydd a nos i gadw llwybrau blaenoriaeth ar agor.
"Mae lorïau graeanu allan ar draws y rhwydwaith heddiw ac mae ein timau'n clirio eira o ffyrdd allweddol, canol trefi, meysydd parcio a mynediadau i wasanaethau hanfodol."
Ychwanegodd y neges eu bod yn annog pobl i "gymryd gofal" wrth deithio ar ffyrdd bach sydd heb eu trin, ar balmentydd ac mewn meysydd parcio.
Pa ysgolion sydd ar gau?
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ysgolion sydd ar gau ar wefannau'r cynghorau isod:
Effaith ar arholiadau?
Mae disgwyl i nifer o ddisgyblion TGAU sefyll arholiadau llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg yn y dyddiau nesaf.
Ond gyda'r rhagolygon yn edrych yn wael tuag at ddiwedd yr wythnos, beth fyddai sefyllfa disgyblion pe bai ysgolion ar gau?

Yr oerfel yn Llanbrynmair
Dywedodd prif weithredwr CBAC, Ian Morgan wrth BBC Cymru fod "canllawiau mewn lle ar gyfer holl ysgolion Cymru".
"Os oes rhaid i'r ysgol gau oherwydd tywydd garw neu os nad oes modd i ddisgyblion gyrraedd oherwydd y tywydd, yna mae sawl opsiwn gwahanol y mae modd dilyn.
"Yr opsiwn pennaf fydd i'r rheiny sy'n sefyll arholiad Saesneg a Chymraeg llên y wythnos hon i sefyll yr arholiadau yn ystod yr haf, fel nad ydyn nhw'n colli allan".
Ychwanegodd: "Byddwn i ddim yn gofidio gormod.
"Dwi'n gwybod y bydd dysgwyr wedi rhoi tipyn o ymdrech i mewn a'u bod am fod yn siomedig, ond mae pethau yn newid a bydd y cyfle yna iddyn nhw yn y dyfodol i sefyll yr uned yn ystod adeg gyfleus yn yr haf."

Yr olygfa yn Hirnant, Powys, fore Mawrth
Mae'r cynghorydd sy'n gyfrifol am ofalwyr ar Gyngor Gwynedd yn dweud mai "ffyrdd gwledig sy'n achosi problemau i lawer o'n gofalwyr ni", gyda'r sefyllfa'n "debyg dros y sir".
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant: "Ma' darparu gwasanaeth mewn sir sydd mor eang a gwledig yn her barhaol, ond ma'r tywydd 'ma a theithio yn achosi problemau aruthrol."
Diolchodd Mr Morgan i'r holl staff sy'n "mynd y filltir ychwanegol", gan ddweud bod straeon ar draws y sir o staff yn mynd i'r eithaf i sicrhau gofal i'r bobl mwyaf bregus.

Tractor yn clirio eira yn Llandegla, Sir Ddinbych, ddydd Llun
Esboniodd Mr Morgan fod cydweithio gyda gwirfoddolwyr ac elusennau yn bwysig o ran darpariaeth ceir 4x4, er mwyn helpu i gludo staff at gleifion.
Bu hefyd yn canmol adran briffyrdd y cyngor, "sydd wedi bod yn wych yn darparu cerbydau graeanu i ardaloedd sy' angen mynediad".
"Felly mae 'na systemau mewn lle ac ar ddiwedd dydd - be' sy'n bwysig ydy bod pawb yn saff - bod pawb yn derbyn gwasanaeth."
Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig bod staff y cyngor yn ddiogel hefyd, a'i bod hi'n help fod pobl o fewn cymunedau gwledig yn gofalu am ei gilydd.
"Mae o fel tasa' ni 'di mynd 'nôl i'r hen ddyddia'. Mewn amser caled fel hyn, mae 'na r'wbath cadarnhaol hefyd yn digwydd."

"Mae'r nyrsys wedi bod yn ffantastig," medd Gethin Rhys Rowlands
Mae Gethin Rhys Rowlands yn gwirfoddoli gydag elusen Chwilio ac Achub Ynys Môn [Môn SAR] - tîm o wirfoddolwyr sy'n cynorthwyo Heddlu'r Gogledd i chwilio am bobl "risg uchel sy'n mynd ar goll".
Gyda'r tywydd garw wedi taro rhannau o Gymru dros y dyddiau diwethaf, mae'r tîm wedi bod yn cynorthwyo ar y ffyrdd ac yn cludo gweithwyr y gwasanaeth iechyd i'w gwaith.
Dywedodd Mr Rowlands bod y tywydd rhewllyd a'r lonydd wedi bod yn "ddiawledig" dros y dyddiau diwethaf, gyda rhew ac eira a phobl methu mynd i'w gwaith.
"'Da ni wedi bod yn helpu'r NHS i gael staff o'u tai mewn i Ysbyty Gwynedd.
"Hefyd ar ddiwedd eu shifftiau pan mae hi wedi bod yn rhewi gyda'r nos, 'da ni wedi bod yn cludo nhw nôl adra hefyd."
'Oriau mawr'
"Rhwng dydd Sul a ddoe, 'da ni wedi bod yn gweithio rhwng 06:15 a gorffen tua 21:30, 22:00," meddai Mr Rowlands.
"Mae'r tîm wedi bod allan am oriau mawr dros y dyddiau diwethaf 'ma ac allan eto bore 'ma er mwyn cael y nyrsys mewn i'r gwaith ar amser os medrwn ni.
"Mae'r nyrsys wedi bod yn ffantastig, y rhai nes i gyfarfod neithiwr - mor glên a diolchgar o'r gwasanaeth."
Ychwanegodd: "Fel arall, fasa' nhw byth wedi gallu cyrraedd eu gwaith ar amser - fydda'n golygu mwy o straen ar y gwasanaeth iechyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
